Nodi ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys nodi ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir a menter busnes.
Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i fenter busnes gwledig, edrych ar brif gynnyrch ac allbwn y fenter yn ystod y pedwar tymor, ac edrych ar y ffordd y gallai'r fenter arallgyfeirio ymhellach. Mae ystyriaethau allweddol eraill yn cynnwys pwysigrwydd rheoli adnoddau cynaliadwy.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio i fenter busnes gwledig i'w helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a chyfleoedd menter busnes amgen, a allai gynorthwyo'r busnes a chyfrannu at economi'r gymuned ehangach.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i'r systemau cynhyrchu presennol neu wasanaethau'r fenter busnes gwledig, dros y pedwar tymor
- nodi prif fewnbwn a chynnyrch y fenter busnes gwledig
- nodi effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol a negyddol y fenter busnes gwledig
- nodi ac asesu cyfleoedd amgen ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter busnes y gallai'r fenter busnes gwledig arallgyfeirio iddo, yn cynnwys mewnbwn, systemau, cynnyrch a marchnadoedd posibl
- asesu adnoddau presennol i nodi'r rheiny y gellir eu defnyddio yn y cyfleoedd amgen a beth arall fyddai angen
- asesu sgiliau cyfredol staff presennol i nodi'r rheiny y gellid eu defnyddio gan y cyfleoedd amgen
- asesu'r cyfleoedd amgen mewn perthynas â phwysigrwydd posibl i'r fenter busnes gwledig a'r effaith ehangach ar yr ardal, y gymuned a'r amgylchedd lleol
- ymchwilio i ffynonellau posibl cyllid neu gymorth arall, yn cynnwys cyngor ac arweiniad, i ganiatáu rhoi'r cyfleoedd amgen ar waith
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'r fenter busnes gwledig, neu wedi ei heffeithio ganddi
- dod i gasgliadau a chyflwyno cynigion, ar fformat addas, i gynulleidfaoedd perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- mathau gwahanol o ddefnydd o dir gwledig a mentrau busnes
- systemau cynhyrchu presennol neu wasanaethau'r fenter busnes gwledig
- prif fewnbwn, cynnyrch a marchnadoedd y fenter busnes gwledig
- sut a pham y gall gweithgareddau'r fenter busnes gwledig amrywio yn ystod y pedwar tymor
- yr adnoddau sydd eu hangen ar hyn o bryd ar gyfer y fenter busnes gwledig
- rolau swyddi staff sydd yn gysylltiedig â'r fenter busnes gwledig a'r rhinweddau cyffredinol a'r sgiliau sydd ganddynt
- effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol a/neu negyddol y fenter busnes gwledig
- sut i nodi ac asesu cyfleoedd amgen ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter busnes y gallai'r busnes arallgyfeirio iddo
- y mewnbwn, systemau, cynnyrch a'r marchnadoedd gwahanol sydd yn gysylltiedig â'r cyfleoedd amgen
- yr adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer y cyfleoedd amgen
- y sgiliau sydd yn ofynnol ar gyfer y cyfleoedd amgen
- effaith bosibl y cyfleoedd amgen ar y fenter busnes gwledig a'u heffaith ehangach ar yr ardal, y gymuned a'r amgylchedd lleol
- sut i ddod o hyd i wybodaeth am fynonellau cyllid posibl neu gymorth arall, yn cynnwys cyngor ac arweiniad, i alluogi cyfleoedd amgen i gael eu rhoi ar waith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu trwy gydol yr ymchwiliad
- sut i ddod i gasgliadau a chyflwyno canfyddiadau i'r cynulleidfaoedd perthnasol yn ymwneud â'r cyfleoedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae mathau gwahanol o ddefnydd o dir a mentrau busnes yn cynnwys: cwmnïau preifat; cwmnïau cyhoeddus; micro-fusnesau; mentrau bach a chanolig eu maint (SME); mentrau cymdeithasol; elusennau; sefydliadau gwirfoddol; cydweithfeydd
Effaith economaidd: nifer y swyddi sydd yn cael eu creu; nifer y swyddi sydd yn cael eu cynnal; lefel twristiaeth; gwariant sydd yn cael ei greu; buddion economaidd i fusnesau lleol eraill.
Effaith amgylcheddol: bioamrywiaeth/cadwraeth; defnydd o ynni; defnydd o ddŵr a thir; rheoli carbon; osgoi a rheoli gwastraff; cynaliadwyedd; newid hinsawdd
Mewnbwn: deunyddiau; adnoddau; llafur; prosesau
Cynnyrch: cynnyrch neu wasanaeth
Gallai mentrau busnes gwledig gynnwys mentrau tir neu ddŵr: mentrau amaethyddol/garddwriaethol; prosesu ar fferm a marchnata uniongyrchol (e.e. siop fferm); pysgodfeydd; dyframaethu; gweithgareddau hamdden; chwaraeon gwledig; twristiaeth; gwasanaethau ymwelwyr; coedwigaeth a rheoli coetir; contractwyr amaethyddol/garddwriaethol; milfeddygaeth; canolfannau gweithgareddau awyr agored; cynelau cŵn; ysgolion marchogaeth; stablau hurio; cathdai; ac ati a'r rheiny sydd yn darparu gwasanaethau ategol i fentrau busnes gwledig, fel cyflenwi peiriannau a gwasanaeth; milfeddygon; masnachwyr hadau; cwmnïau cyflenwi ffermydd, marchnad anifeiliaid fferm; ac ati
Effaith gymdeithasol: y lefel ymgysylltu/gweithgaredd y mae'r fenter yn ei darparu, p'un ai ei fod yn dod â'r gymuned leol ynghyd, yn creu problemau oherwydd niferoedd uchel y bobl sydd yn symud i mewn yn dymhorol ac ati