Nodi ac asesu defnydd o dir gwledig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys nodi ac asesu defnydd o dir gwledig. Mae hefyd yn cynnwys rhyngweithio rhwng defnydd gwahanol o dir a'r ffordd y gellir rheoli hyn i gynyddu cyfleoedd ar gyfer integreiddio a rheoli adnoddau yn gynaliadwy e.e. amaethyddiaeth, dalgylch dŵr, bioamrywiaeth, hamdden ac ati.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd angen nodi ac asesu defnydd o dir gwledig.
Yn y safon hon, mae'r term "defnydd o dir" hefyd yn cynnwys dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi ac asesu defnydd gwahanol o dir gwledig
- nodi ac asesu'r prif ffactorau sydd yn dylanwadu ar y defnydd o dir gwledig
- nodi'r synergeddau a'r tensiynau posibl rhwng defnydd gwahanol o dir gwledig
- nodi ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig
- nodi rôl asiantaethau'r llywodraeth a phartneriaid a dylanwadwyr allweddol eraill yn lleihau tensiynau defnydd o dir a hwyluso defnydd integredig o dir gwledig
- nodi ac asesu cyfleoedd ar gyfer gwella cynaliadwyedd a'r defnydd effeithlon o adnoddau
- nodi ac asesu mesurau gwahanol y gellid eu cymryd i wella defnydd integredig o dir gwledig ymhellach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- natur cyfyngiadau neu ddynodiadau safle a'r ffordd y gallai'r rhain ddylanwadu ar y defnydd o dir gwledig
- y prif ffactorau ffisegol a ffactorau allweddol eraill sydd yn dylanwadu ar ddefnydd o dir gwledig a'r ffordd y mae'r rhain yn effeithio ar y cyfleoedd ar gyfer defnydd gwahanol o dir
- effeithiau arferion rheoli tir gwledig blaenorol
- y tensiynau a'r synergeddau sydd yn bodoli rhwng defnydd o dir, yn hanesyddol ac yn gyfredol
- sut i nodi ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd amgen, integredig a mwy cynaliadwy o dir a defnydd mwy effeithlon o adnoddau
- y ffordd y gall asiantaethau a pholisïau'r llywodraeth leihau tensiynau'n ymwneud â defnydd o dir a helpu i hwyluso cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig a chynaliadwy o dir
- rôl partneriaid a dylanwadwyr allweddol yn lleihau tensiynau'n ymwneud â defnydd o dir h.y. cyrff preifat, cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol
- pwysigrwydd rheoli adnoddau cynaliadwy wrth ystyried cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir
- y mesurau y gellir eu sefydlu i wella integreiddio rhwng defnydd o dir, ac effeithiolrwydd y mesurau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffactorau allweddol sydd yn dylanwadu ar ddefnydd o dir gwledig: ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg); adnoddau naturiol; amgylcheddol (yn cynnwys newid hinsawdd); ecolegol; hanesyddol; defnydd blaenorol a chyfredol; gweithgareddau eraill yn yr ardal; isadeiledd; mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy; dynodiadau; deddfwriaeth; polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang; ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, aesthetig ac economaidd; cynaliadwyedd
Gallai defnydd o dir gwledig gynnwys: amaethyddiaeth; garddwriaeth; crofftio a chadw tyddyn; coedwigaeth a choetir; helwriaeth; rheoli pysgodfeydd; bioamrywiaeth a chadwraeth (yn cynnwys mentrau "ailwylltio"); creu ynni adnewyddadwy; cydgasgliadau; dyframaethu; dŵr yfed; twristiaeth a hamdden; cynhyrchu bwyd a diod; cipio carbon a rheoli'r peryg o lifogydd
Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:
- Parc Cenedlaethol
- Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol
- Parth Cadwraeth Morol
- Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
- Safle Archaeolegol
- Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
- Parthau Diogelu Dŵr Yfed
- Heneb Gofrestredig (SM)
- Adeilad Rhestredig (LB)
- Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
- Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
- Safleoedd wedi eu nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
- Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
- Ardal hyfforddi'r fyddin