Paratoi a gweithredu tractor

URN: LANCS7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gweithredu tractor.

Mae'r safon yn cynnwys defnyddio tractorau mewn amrywiaeth o dywydd, cyflwr tir a daear. Bydd yr amodau hyn yn cael effaith ar drin a defnyddio'r tractor.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.

Wrth ddefnyddio tractor ar y briffordd gyhoeddus mae'n rhaid eich bod yn meddu ar y trwyddedau perthnasol ar eich cyfer chi a'r tractor.

Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gweithredu tractor ar y briffordd gyhoeddus ac oddi arni.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd gofynnol
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. paratoi'r tractor trwy gynnal gwiriadau cyn dechrau ac addasiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau, yn cynnwys yr holl amddiffyniadau diogelwch
  4. cadarnhau bod y tractor yn ddiogel ac yn barod i gael ei ddefnyddio
  5. esgyn a disgyn o'r tractor yn ddiogel
  6. gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr i fodloni eich gofynion personol
  7. gwirio'r ardal uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud i ffwrdd, a bob amser wrth weithredu'r tractor
  8. defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
  9. gweithredu a symud y tractor yn ddiogel yn unol â'r math o dractor a'r gweithrediad sy'n cael ei wneud
  10. addasu technegau gweithredu i ystyried newidiadau yn y tywydd, cyflwr y ddaear a'r math o dir
  11. defnyddio ffactorau effeithlonrwydd i gynnal effeithlonrwydd perfformiad y tractor trwy drin a chynnal a chadw priodol
  12. diffodd ac ynysu'r tractor wrth gwblhau'r gweithgaredd
  13. gadael y tractor yn ddiogel ar ôl ei ddefnyddio ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  15. dilyn canllawiau'r diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
  16. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â pharatoi a gweithredu tractorau
  4. sut i baratoi'r tractor trwy wneud y gwiriadau cyn cychwyn a'r addasiadau gofynnol
  5. sut i esgyn a disgyn o'r tractor yn ddiogel
  6. sut i ddechrau a diffodd y tractor yn ddiogel
  7. swyddogaeth yr holl reolyddion a'r offer ar y tractor yr ydych yn ei ddefnyddio
  8. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a dangosyddion
  9. y ffyrdd y dylid gweithredu a symud y tractor, a'r ffordd y mae'n rhaid ystyried tywydd, cyflwr y ddaear a mathau gwahanol o dir
  10. galluoedd a chyfyngiadau'r tractor a'r gweithredwr, a ffactorau a allai effeithio ar ddiogelwch ac effeithlonrwydd
  11. y mathau o beryglon a rhwystrau y gellid dod ar eu traws wrth weithredu tractor a sut dylid ymdrin â'r rhain
  12. y math o broblemau a allai ddigwydd gyda'r tractor, sut i'w hadnabod a'r camau i'w cymryd
  13. pwysigrwydd gwneud gwiriadau a chynnal a chadw fel mater o drefn i gadarnhau bod y tractor yn dal yn ddiogel ac mewn cyflwr gweithredol da
  14. y rhesymau pam y dylid gadael y tractor yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  15. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y tractor bob amser
  16. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  17. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

*           Ffactorau effeithlonrwydd:*

  • gers
  • hydroleg
  • pwysedd teiars
  • gwrthbwysedd
  • balastio
  • cylchdroadau injan

Cyflwr y ddaear:

  • gwlyb
  • sych
  • rhew
  • mwd
  • tir rhydd

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • cyfarwyddiadau llafar

* *

Amgylchedd y gweithredwr:

  • sedd
  • olwyn lywio
  • colofn lywio
  • drychau
  • gwregys
  • hinsawdd
  • gwelededd
  • eitemau rhydd wedi eu clymu'n dynn

Gwiriadau cyn cychwyn:

  • tanwydd
  • offer trydanol
  • teiars
  • cenglwyr
  • hylifau
  • iriad

Tir:

  • arwynebeddau caled
  • arwynebeddau meddal
  • arwynebeddau anwastad
  • llethrau

Dolenni I NOS Eraill

LANCS57 Paratoi a gweithredu tractor gyda chysylltiadau

LANCS9 Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS7

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gyrrwr Tractor, Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Cod SOC

8223

Geiriau Allweddol

tractor