Gweithio o fewn gofynion proffesiynol, deddfwriaethol a rheoliadol, ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gweithio o fewn gofynion proffesiynol, deddfwriaethol a rheoliadol ar gyfer cynnal dyletswydd gofal ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn eich gwaith eich hun. Mae hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau personol a moesegol. Mae'n cynnwys gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol, gan roi'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn i wybod eu rôl, cyfrifoldebau a'u cyfyngiadau mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid. Mae hefyd yn cynnwys rôl sefydliadau proffesiynol a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a phara-broffesiynol eraill ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr para-broffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd a lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 adnabod, dadansoddi a gwerthuso materion sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr para-broffesiynol ym maes iechyd a lles anifeiliaid a sut rydych yn atebol am eich gweithredoedd
P2 cynnal eich ymddygiad proffesiynol a’ch moesegau eich hun a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun a deddfwriaeth sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaeth i eraill
P3 adnabod, dadansoddi a gwerthuso materion sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau iechyd a lles anifeiliaid, a chydnabod eich bod yn atebol am eich gweithredoedd
P4 asesu gofynion a chyfyngiadau deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid ar eich gwaith
P5 gweithio o fewn deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth a chodau ymarfer eraill sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid bob amser
P6 asesu’r ffordd orau o ddarparu ar gyfer anghenion anifeiliaid tra’u bod o dan eich dyletswydd gofal
P7 cymryd cyfrifoldeb dros eich penderfyniadau fel rhan o’ch rôl
P8 adlewyrchu ar eich perfformiad eich hun wrth wneud eich gwaith a pherfformiad ac ymddygiad y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw
P9 cynllunio, cofnodi a gwerthuso eich datblygiad proffesiynol parhaus
P10 cynnal perthynas waith gyda chydweithwyr, cleientiaid/cwsmeriaid a gweithwyr proffesiynol a phara-broffesiynol eraill ym maes iechyd a lles anifeiliaid
P11 ymgynghori â’r llawfeddyg milfeddygol priodol cyn dechrau gwaith gydag anifail, pan fydd hynny’n ofynnol trwy ddeddfwriaeth
P12 cynnal trafodaethau proffesiynol gyda gweithwyr proffesiynol a phara-broffesiynol eraill ym maes anifeiliaid
P13 sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â deddfwriaeth bresennol a gofynion eraill
P14 cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau moesegol lle y bo’n briodol
P15 adlewyrchu ar y broses o wneud penderfyniadau a’u gwerthuso
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 y gofynion sy’n gysylltiedig â bod yn weithiwr proffesiynol iechyd a lles anifeiliaid ac arwyddocâd rheoleiddio
G2 eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun
G3 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth a chodau ymarfer eraill sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl
G4 deddfwriaeth, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol eraill yn ymwneud â rôl a chyfrifoldebau eich gwaith
G5 dealltwriaeth gynhwysfawr o gynnal iechyd a lles anifeiliaid
G6 rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol iechyd a lles anifeiliaid
G7 cysyniadau "dyletswydd gofal”, "esgeulustod", a "hepgoriad" a’u cymhwyso gan weithwyr proffesiynol a phara-broffesiynol iechyd a lles anifeiliaid
G8 pryd a sut i ymgynghori â llawfeddyg milfeddygol priodol cyn dechrau gwaith gydag anifail
G9 sut i gefnogi cydweithwyr a chleientiaid/cwsmeriaid sy’n dymuno mynegi pryderon am ymddygiad amhroffesiynol (i gynnwys "chwythu’r chwiban")
G10 pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus a sut i werthuso gweithdrefnau sefydliadol/busnes a systemau a weithredwyd i hwyluso hyn, lle y bo’n briodol
G11 y cofnodion priodol i’w cadw, pwysigrwydd cyfrinachedd a gofynion y Ddeddf Diogelu Data (1998)
G12 sut i adnabod materion moesegol yn y gweithle
G13 sut i gymhwyso damcaniaethau ac egwyddorion moesegol i’r materion a nodwyd
G14 sut i adnabod a gwerthuso tystiolaeth a ddefnyddir i lywio penderfyniadau moesegol
G15 y pwyntiau i’w hystyried wrth gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau moesegol
G16 sut i leihau effaith penderfyniad moesegol
G17 sut i adlewyrchu ar y broses o wneud penderfyniadau moesegol
G18 pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus a sut i gynllunio, adolygu a gwerthuso
G19 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel gweithiwr para-broffesiynol iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithiwr para-broffesiynol
Union ystyr y gair para-broffesiynol yw rhywun sy'n gweithio ar y cyd â gweithiwr proffesiynol (o'r gair Groegaidd "para" sy'n golygu "gerllaw" yn yr un modd â "paralel"). Mae gweithwyr para-broffesiynol yn aml yn gweithredu'n annibynnol ar oruchwyliaeth broffesiynol uniongyrchol, ond nid oes ganddynt awdurdod swyddogol gweithiwr proffesiynol.
Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966):
Mae'n anghyfreithlon yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) i lawfeddygon nad ydynt yn rhai milfeddygol i ymarfer llawdriniaethau milfeddygol. Mae'r Ddeddf yn diffinio Llawfeddygaeth Filfeddygol fel a ganlyn:
diagnosis o glefydau mewn, ac anafiadau i, anifeiliaid yn cynnwys profion a wneir ar anifeiliaid at ddibenion diagnostig;
rhoi cyngor yn seiliedig ar ddiagnosis o'r fath;
triniaeth feddygol neu lawfeddygol ar gyfer anifeiliaid; a
chyflawni llawdriniaethau milfeddygol ar anifeiliaid.
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Gallai deddfwriaeth berthnasol arall gynnwys:
cyflenwi nwyddau a gwasanaethau
hawliau dynol
cyflogaeth
iechyd a diogelwch
yr amgylchedd