Cynllunio, rheoli a gwerthuso bridio anifeiliaid

URN: LANCS67
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio, rheoli a gwerthuso rhaglenni bridio anifeiliaid, gan ystyried y rheswm dros fridio, ystyriaethau moesegol a chyfreithiol, gofynion lles anifeiliaid, dewis stoc bridio, technoleg fridio ac ystyriaethau genetig, yn ogystal â chyrchfan rhai ifanc. Mae hyn yn cynnwys ffrwythloni anifeiliaid trwy ddulliau naturiol neu trwy ffrwythloni artiffisial (AI).

Mae'n rhaid i chi gynnal iechyd a lles yr anifeiliaid a ddefnyddir yn y rhaglen fridio.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli rhaglenni bridio anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal lefel uchel o gymhwysedd proffesiynol a moeseg, a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad eich hun
  2. cynllunio rhaglen bridio anifeiliaid gyfrifol i fodloni diben sydd wedi ei ddiffinio'n glir
  3. asesu anghenion yr anifeiliaid a sut gellir mynd i'r afael â nhw neu effeithio arnynt trwy gydol y rhaglen fridio
  4. cyfathrebu'r rhaglen fridio i'r rheiny fydd yn gysylltiedig â'i gweithredu
  5. ceisio a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen
  6. rheoli dethol y stoc bridio yn unol â'r rhaglen fridio a, lle y bo'n bosibl, sgrinio stoc i leihau gwendidau genetig hysbys
  7. rheoli'r asesiad o iechyd ac ymddygiad y stoc bridio posibl i gadarnhau eu bod yn addas
  8. cadarnhau bod gwiriadau iechyd cyn paru, a, lle bo angen, triniaethau proffylactig, yn cael eu cynnal yn unol â'r rhaglen fridio a'r codau ymarfer perthnasol
  9. cynllunio a gweithredu paru/ffrwythloni artiffisial gyda rhieni dewisol, gan baru amcanion bridio
  10. monitro a gwerthuso'r gwaith o weithredu'r rhaglen bridio anifeiliaid, a lle bo angen, cymryd y camau angenrheidiol i ddiwygio'r cynllun
  11. cadarnhau bod y cyfleusterau, y cyflenwadau, yr offer ac unrhyw adnoddau eraill sy'n ofynnol (yn cynnwys staffio) ar gael ar gyfer gweithredu'r rhaglen bridio anifeiliaid yn llwyddiannus
  12. cadarnhau bod cofnodion yn ymwneud â bridio anifeiliaid yn cael eu cynnal a bod y data sy'n ofynnol yn cael ei gadw a'i adrodd, lle y bo'n briodol
  13. cadarnhau bod rhaglenni bridio anifeiliaid yn cael eu datblygu yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol
  14. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a'u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol, a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol

2.  beth i'w ystyried wrth gynllunio a rheoli rhaglen bridio anifeiliaid

3.  ble i gael, a sut i ddehongli, gwybodaeth enetig am rieni - gallai hyn gynnwys data achres a chofnodion perfformiad

4.  yr egwyddorion genetig sydd yn cynnwys cyfreithiau etifeddu

5.  sut i gyfrifo rhinwedd genetig a risgiau cynhenid paru wedi ei gynllunio

6.  nodweddion corfforol ac ymddygiadol dymunol ac annymunol yr anifeiliaid yr ydych yn dymuno eu bridio, sydd yn benodol i'w diben

7.  goblygiadau mewnfridio a'r grym croesryw o ganlyniad i hynny

8.  goblygiadau iechyd a lles (tymor byr a hirdymor) bridio ar y rhieni

9.  materion moesegol ac ymarferol yn ymwneud â'r hyn i'w wneud ag anifeiliaid dros ben

10.  pwysigrwydd briffio a pharhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r rhaglen bridio anifeiliaid

11.  y ffactorau sy'n effeithio ar y diben(ion) a fwriadwyd ar gyfer y rhaglen bridio anifeiliaid

12.  y ffactorau sy'n effeithio ar gyfraddau enillion a pherfformiad genetig

13.  sut gall technolegau ddylanwadu ar benderfyniadau bridio anifeiliaid fel semen wedi ei rywio, trosglwyddo embryonau a chroesfridio

14.  y profion iechyd cyn paru a ddefnyddir

15.  y triniaethau proffylactig y gellir eu rhoi i'r ddau riant cyn paru ac yn ystod beichiogrwydd

16.  effeithiau maeth, hwsmonaeth a'r amgylchedd ar y rhaglen bridio anifeiliaid

17.  pwysigrwydd sefydlu a chynnal cofnodion bridio yn unol â deddfwriaeth bresennol, codau ymarfer, lles anifeiliaid a gofynion sefydliadol

18.  y ddeddfwriaeth bresennol, y rheoliadau, codau ymarfer, ystyriaethau moesegol a lles anifeiliaid a'r ystyriaethau moesegol sydd yn gysylltiedig â'r rhaglenni bridio

19.  y gofynion ar gyfer bridio stociau nad ydynt yn rhai wedi eu mewnfridio (ar hap neu wedi eu hallfridio)

20.  pwysigrwydd gwerthuso a diwygio'r rhaglen bridio anifeiliaid i sicrhau ei bod yn parhau i fodloni amcanion

21.  y polisïau'n ymwneud â gwerthu/trosglwyddo ac olrhain epil a stoc bridio

22.  eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Yr hyn i'w ystyried wrth gynllunio a rheoli rhaglen bridio anifeiliaid:

    • y diben a fwriadwyd
    • y gyrchfan a fwriadwyd ar gyfer unrhyw epil sy'n cael ei gynhyrchu
    • amcanion
    • ystyriaethau moesegol
    • cydymffurfio â gofynion cyfreithiol
    • cydymffurfio â chodau ymarfer
    • dewis stoc bridio
    • ystyriaethau genetig
    • defnydd o dechnoleg fridio
    • gofal am rai ifanc
    • gofynion cymdeithasu a chynefino
    • gofynion brechu
    • y meini prawf ar gyfer ymgilio anifeiliaid bridio


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

    • Deddf Lles Anifeiliaid 2006, Cymru a Lloegr
    • Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006, Yr Alban
    • Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011, Gogledd Iwerddon



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS67

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

anifail; anifeiliaid fferm; bridio; rhaglen