Cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid wrth eu cludo
Trosolwg
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid wrth eu cludo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
cadw iechyd a llesiant yr anifeiliaid ar y lefel uchaf posibl trwy gydol y daith, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
monitro iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ystod y cyfnodau gofynnol wrth eu cludo i nodi unrhyw achosion pryder
adnabod newidiadau yn iechyd a llesiant yr anifail a allai fod yn arwydd o straen, salwch neu anaf, a chymryd y camau gofynnol
sicrhau nad yw’r daith yn mynd y tu hwnt i uchafswm yr amserau/pellterau a ganiateir yn unol â deddfwriaeth berthnasol
cynnal yr amgylchedd cludo mewn ffordd ac ar y lefel briodol i’r anifeiliaid perthnasol
cynnal diogelwch a diogeledd yr anifeiliaid bob amser wrth eu cludo
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
parhau i gynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
pryd i fonitro iechyd a llesiant yr anifeiliaid sy’n cael eu cludo, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a’r dull o gludo sy’n cael ei ddefnyddio
sut mae ymddangosiad, gweithrediad cyrff ac ymddygiad yr anifeiliaid yn arwydd o’u hiechyd a’u llesiant
y ffactorau sy’n achosi straen i’r anifeiliaid
sut i asesu arwyddocâd arwyddion straen, salwch neu anaf, er mwyn pennu’r camau i’w cymryd a faint o frys sydd yn eu cylch
sut i gynnal iechyd a llesiant yr anifeiliaid sy’n cael eu cludo trwy ddarparu porthiant, dŵr neu seibiannau o deithio
y dulliau o gynnal yr amgylchedd cludo ar gyfer yr anifeiliaid sy’n cael eu cludo, a’r lefelau y mae angen eu cyrraedd
yr amgylchiadau lle gellir gadael yr anifeiliaid a sut gellir cynnal diogelwch a diogeledd
y problemau a allai ddigwydd wrth gludo anifeiliaid a’r camau y dylid eu cymryd
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut y dylid gwneud hyn
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gludo a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
eich cyfrifoldebau o ran llesiant anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, deddfwriaeth cludo anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
y gofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad wrth gludo anifeiliaid
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblha
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Mae’n rhaid i yrwyr a chynorthwywyr sy’n gyfrifol am gludo gwartheg, defaid, moch, geifr, ceffylau domestig neu ddofednod feddu ar dystysgrif cymhwysedd ddilys.
- Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn cludo gwartheg, defaid, moch geifr, ceffylau domestig neu ddofednod dros 65km fod yn gymwys i wneud hynny. Mae’n rhaid i yrwyr a chynorthwywyr feddu ar dystysgrif cymhwysedd ddilys.
Mae’n rhaid i yrwyr hefyd feddu ar y drwydded berthnasol i yrru’r cerbyd, yn cynnwys ôl-gerbyd, os caiff ei ddefnyddio