Llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo
URN: LANCS65
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn,Teulu’r Ceffyl
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo. Mae’n cynnwys eu llwytho a’u sefydlu yn y cludiant a’u dadlwytho yn eu cyrchfan. Bydd angen y sgiliau perthnasol i ymdrin ag anifeiliaid a gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu cludo.
Wrth lwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo, bydd angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn llwytho ac yn dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi unrhyw beryglon posibl cyn llwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- sicrhau a chadarnhau bod y cludiant a’r ardal lwytho yn addas ar gyfer yr anifeil (anifeiliaid) a’i fod wedi cael ei baratoi
- nodi’r anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo a chadarnhau eu bod yn addas ar gyfer eu cludo ac yn gellir eu cludo’n gyfreithiol
- paratoi’r anifail (anifeiliaid) ar gyfer eu cludo yn y dull angenrheidiol
- nodi dulliau addas o drin a llwytho’r anifail (anifeiliaid) sy’n lleihau straen a pherygl o anaf ac yn cynnal iechyd a lles
- llwytho’r anifail (anifeiliaid) ar gyfer eu cludo, gan gynnal eich iechyd eich hun, pobl eraill a’r anifeiliaid eraill yn y cyffiniau
- sefydlu’r anifail (anifeiliaid) yn y cludiant a’u gwneud yn ddiogel ac yn gadarn ar gyfer y daith
- dal yr anifail (anifeiliaid) mewn ffordd sydd o fudd i’w hiechyd a’u lles ac yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- cadarnhau bod y gyrchfan wedi ei pharatoi ar gyfer derbyn yr anifail (anifeiliaid)
- dadlwytho’r anifail (anifeiliaid) gan ddefnyddio dulliau addas ac mewn ffordd sy’n lleihau straen a’r perygl o anaf
- monitro a chynnal iechyd a lles anifeiliaid wrth lwytho a dadlwytho
- cymryd camau priodol heb oedi os oes unrhyw bryderon ynghylch iechyd a lles yr anifeiliaid
- parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludo
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sy’n debygol o ymddangos wrth lwytho a dadlwytho anifeiliaid ar gyfer eu cludo a sut gellir lleihau’r rhain
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y ffordd y mae angen i’r ardal gludo a llwytho gael eu paratoi ar gyfer yr anifail (anifeiliaid) i gynnal eu hiechyd a’u diogelwch a’r risgiau tebygol sydd yn gysylltiedig
- pwy fydd yn derbyn yr anifail (anifeiliaid) yn y gyrchfan a’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnynt
- sut i adnabod yr anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo
- sut i asesu addasrwydd yr anifail (anifeiliaid) i gael eu cludo, yr amodau sy’n eu heithrio rhag cael eu cludo a chanlyniadau cludo anifeiliaid anaddas
- y ffordd y mae angen i’r anifail (anifeiliaid) cysylltiedig gael eu paratoi ar gyfer eu cludo a sut i hybu eu hiechyd a’u lles
- y gofynion ar gyfer darparu porthiant a dŵr wrth gludo
- y mesurau diogelu ar gyfer anifail (anifeiliaid) sydd yn cael eu cludo
- y ffactorau sy’n effeithio ar straen anifeiliaid a’r ffordd y gellir lleihau’r rhain
- y dulliau addas o drin a llwytho’r anifail (anifeiliaid) sy’n lleihau eu straen a’u perygl o anaf
- sut i sefydlu a diogelu’r anifail (anifeiliaid) yn y cludiant
- y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â dwysedd stoc a nifer yr anifeiliaid yn y cludiant
- y gofynion cyfreithiol mewn perthynas ag uchafswm amserau/pellterau taith
- y dulliau addas i’w defnyddio wrth ddadlwytho anifeiliaid sy’n lleihau eu straen a’r perygl o anaf
- dangosyddion problemau posibl gydag iechyd a lles anifeiliaid a’r ffordd y mae hyn yn ymddangos yn eu hymddygiad
- sut i asesu achosion tyngedfennol sydd yn peri pryder a phennu’r camau i’w cymryd ym mhob achos
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, deddfwriaeth cludo anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y gofynion cyfreithiol dros hyfforddi ac ardystio wrth gludo anifeiliaid
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Y gofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddi ac ardystio:
Cludo anifeiliaid dros 65km a hyd at wyth awr:
• Mae’n rhaid i yrwyr a chynorthwywyr sy’n gyfrifol am gludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod feddu ar ardystiad cymhwysedd cyfredol.
Cludo anifeiliaid dros wyth awr:
• Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn cludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod dros 65km fod yn gymwys i wneud hynny. Mae’n rhaid i’r gyrwyr a’r cynorthwywyr feddu ar ardystiad cymhwysedd dilys.
Mae’n rhaid i’r gyrwyr hefyd feddu ar y drwydded berthnasol i yrru’r cerbyd, yn cynnwys ôl-gerbyd, os caiff ei ddefnyddio.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS64
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Cynorthwyydd Ceffylau, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
anifeiliaid; teulu’r ceffyl; ceffylau; anifeiliaid; cludiant; taith