Paratoi ar gyfer cludo anifeiliaid

URN: LANCS64
Sectorau Busnes (Suites): Ceffylau,Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys y paratoi sydd ei angen ar gyfer cludo anifeiliaid. Mae’n cynnwys paratoi’r cludiant a sicrhau iechyd, lles a diogelwch yr anifeiliaid.

Wrth gludo anifeiliaid dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n paratoi ar gyfer cludo anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir
  4. sicrhau bod y cludiant i gael ei ddefnyddio yn addas ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu cludo ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. sicrhau bod y cludiant i gael ei ddefnyddio ar gyfer cludo anifeiliaid yn lân, yn ddiogel, yn gadarn ac yn barod i dderbyn yr anifeiliaid
  6. cadarnhau bod yr ardal lwytho a’r llwybr yn ddiogel, yn gadarn ac wedi ei ddylunio i hwyluso llwytho’r anifeiliaid
  7. gwirio’r wybodaeth am y gyrchfan a’r amser cyrraedd disgwyliedig 
  8. cadarnhau bod cyfyngiant anifeiliaid yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac yn gadarnhaol i’w hiechyd a’u lles, yn cynnwys gofynion a chyfyngiadau allforio, lle y bo’n berthnasol
  9. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludiant 
  10. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
  11. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  12. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  13. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau yn cludo anifeiliaid
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn angenrheidiol a sut i’w paratoi, eu cynnal a’u cadw, eu defnyddio a’u storio’n ddiogel ac yn gywir
  4. y cludiant addas ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu cludo, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. y ffordd y mae angen i’r cludiant gael ei baratoi ar gyfer yr anifeiliaid, er mwyn cynnal eu diogelwch, eu diogeledd, eu hiechyd a’u llesiant 
  6. y gyrchfan a’r amser cyrraedd a amcangyfrifir, pam y mae angen y wybodaeth hon a phwysigrwydd ei chadarnhau 
  7. y ffactorau sy’n achosi straen i anifeiliaid wrth gael eu cludo a sut i leihau hyn
  8. y gofynion cyfreithiol mewn perthynas â dwysedd stoc a nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu cludo
  9. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cludo a sut dylid gwneud hyn
  10. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi i gludo anifeiliaid, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  11. sut i brosesu’r mathau gwahanol o wastraff sydd yn cael ei greu gan y gweithgaredd
  12. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, deddfwriaeth cludo anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
  13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad wrth gludo anifeiliaid
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gofynion cyfreithiol ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad:

Cludo anifeiliaid dros 65km a hyd at wyth awr:
Mae’n rhaid i yrwyr a chynorthwywyr sy’n gyfrifol am gludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod feddu ar ardystiad cymhwysedd cyfredol.

Cludo anifeiliaid dros wyth awr:
Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn cludo gwartheg, defaid, moch, geifr, Equidae (ceffylau) domestig neu ddofednod dros 65km fod yn gymwys i wneud hynny. Mae’n rhaid i’r gyrwyr a’r cynorthwywyr feddu ar ardystiad cymhwysedd dilys.

Mae’n rhaid i’r gyrwyr hefyd feddu ar y drwydded berthnasol i yrru’r cerbyd, yn cynnwys ôl-gerbyd, os caiff ei ddefnyddio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS64

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Cynorthwy-ydd Ceffylau, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifail; anifeiliaid; ceffylau; teulu’r ceffyl; cludiant; cerbyd; dwysedd stoc