Gweithredu a monitro hylendid a bioddiogelwch safle
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu a monitro hylendid a bioddiogelwch safle i leihau’r potensial i organebau pathogenaidd neu Rywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) fynd i safle neu adael safle.
Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch effeithiol yn hanfodol ar gyfer ffrwyno lledaeniad clefydau ac INNS yn y sector tir. Bydd yr union drefniadau ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch yn dibynnu ar y gweithgareddau a wneir ar safle.
Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar, neu gemegion, dylech fod wedi cael eich hyfforddi a dylech ddal tystysgrifau cyfredol, lle bo’n ofynnol.
Wrth wneud eich gwaith, mae’n rhaid i chi ystyried unrhyw effaith y gall ei chael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n gyfrifol am weithredu a monitro gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch safle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd sydd i’w gyflawni
- gweithredu a monitro gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir ar gyfer y safle, yn unol â’r gofynion cyfreithiol, y cyfarwyddiadau a’r manylebau perthnasol
- cadarnhau bod dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gael, eu bod yn y cyflwr gofynnol a’u bod yn cael eu defnyddio’n gywir
- monitro’r newidiadau i esgidiau a dillad y mae eu hangen i gynnal bioddiogelwch safle
- cadarnhau bod offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol i gynnal hylendid a bioddiogelwch safle yn addas i’w defnyddio ac wedi’u gosod yn gywir
- cadarnhau bod cemegion wedi’u paratoi’n gywir a’u bod yn cael eu hadnewyddu’n rheolaidd, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- gwirio a chadarnhau bod arwyddion rhybudd wedi’u lleoli’n glir
- cadarnhau bod yr holl gemegion yn cael eu defnyddio a’u storio’n ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol
- monitro’r polisi mynediad i’r safle ar gyfer personél a cherbydau
- cadarnhau bod ymwelwyr a gyrwyr cerbydau sy’n cyrraedd ac yn ymadael â’r safle yn dilyn gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir a chymryd y camau gweithredu priodol, pan fo angen
- gwirio bod yr holl bersonél yn dilyn y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir a chymryd y camau gweithredu gofynnol pan na ddilynir gweithdrefnau
- gweithredu gweithdrefnau hylendid a bioamrywiaeth i osgoi halogi neu draws-halogi ac i leihau lledaeniad ar y safle
- rhoi gweithdrefnau cwarantin ar waith, lle bo gofyn
- gweithredu newidiadau i weithdrefnau hylendid a bioddiogelwch safle pan fo angen i gynnal effeithiolrwydd
- cynnal cyfathrebu â chydweithwyr ac eraill sy’n ymwneud â’ch gwaith neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt
- dilyn arfer da amgylcheddol busnes a diwydiant i leihau difrod amgylcheddol
- cadarnhau yr ymdrinnir yn ddiogel ac yn gywir â gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion busnes perthnasol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel y bo’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risgiau
- y rhesymau dros weithdrefnau hylendid a bioddiogelwch y safle
- y gwahanol fathau o weithdrefnau hylendid a bioddiogelwch
- sut i fonitro bod gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu gweithredu a’u dilyn yn gywir, a goblygiadau peidio â’u dilyn
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol, a phwysigrwydd monitro’u bod yn cael eu defnyddio’n gywir
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch y safle a sut y dylid eu paratoi a’u gosod
- y gofynion ar gyfer storio a defnyddio cemegion yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol
- pwysigrwydd monitro bod cemegion yn cael eu paratoi’n gywir yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau, a phryd a sut y dylid adnewyddu cemegion
- y mathau o arwyddion rhybudd, pryd dylid eu defnyddio a ble dylid eu lleoli
- sut mae organebau pathogenaidd ac INNS yn cael eu lledaenu, a’r canlyniadau posibl i gnydau, anifeiliaid, iechyd pobl a’r amgylchedd
- defnyddio cwarantin i leihau risg cyflwyno clefydau
- y gweithdrefnau i’w dilyn pan fydd tor-hylendid neu dor-bioddiogelwch safle
- pryd i wneud newidiadau i weithdrefnau hylendid a bioddiogelwch safle i gynnal effeithiolrwydd
- pam mae’n bwysig cyfleu gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch i'r holl bersonél ac ymwelwyr â’r safle
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei chael ar yr amgylchedd a ffyrdd o allu lleihau hyn
- gwybod sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes perthnasol
- eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch:
• gweithdrefn hylendid personol
• gweithdrefn glanhau
• gweithdrefn mynediad cerbydau
• gweithdrefn mynediad personél
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• lluniadau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
• canllawiau gwneuthurwyr
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Defnyddir Safle i ddisgrifio pob rhan o’r ardal waith