Cynnal hylendid a bioddiogelwch safle
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys lleihau’r potensial i organebau pathogenig fynd i mewn i safle a chynnal hylendid a bioddiogelwch safle.
Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch effeithiol yn hanfodol ar gyfer gweithrediad llwyddiannus unrhyw fusnes yn y sector tir. Bydd yr union drefniadau ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch yn dibynnu ar y busnes yr ydych yn gweithio ynddo a’r gweithgareddau y mae’n eu gwneud. Mae cynnal bioddiogelwch yn gyfrifoldeb i bawb sy’n mynd i mewn i’r safle, a dylech annog eraill, ymwelwyr, contractwyr neu gwsmeriaid yn arbennig, i ddilyn y gweithdrefnau sydd wedi eu sefydlu.
Wrth weithio gydag offer neu gemegau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn sefyllfa lle mae’n rhaid cynnal hylendid a bioddiogelwch safle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
cynnal y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir ar gyfer y safle, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
cynnal mesurau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer personél, offer a cherbydau
sicrhau bod ymwelwyr a gyrwyr cerbydau yn defnyddio’r gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir wrth fynd i mewn i’r safle a gadael
dilyn y mesurau glanhau a hylendid cywir, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
defnyddio offer glanhau sydd yn addas ar gyfer y gwaith, yn ddiogel ac yn effeithiol
defnyddio cemegau yn unol â manylebau’r cynhyrchydd yn ymwneud â chyfraddau gwanhau, defnydd a rhagofalon iechyd a diogelwch
storio’r holl gemegau yn ddiogel ac yn gywir ar ôl eu defnyddio, yn unol â'r cyfarwyddiadau a’r manylebau
adnabod plâu neu gnofilod neu halogiad arall a chymryd y camau gofynnol
defnyddio mesurau hylendid a bioddiogelwch i osgoi traws-halogiad tra’ch bod ar y safle
adnabod pryderon yn ymwneud â hylendid a bioddiogelwch a chymryd y camau gofynnol
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
dilyn canllawiau’r diwydiant a’r busnes i leihau niwed amgylcheddol
prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion busnes perthnasol
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
pwysigrwydd defnyddio’r gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir ar gyfer y safle a chanlyniadau peidio â chynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
y mesurau hylendid personol priodol i’w cymryd yn y gwaith, a chanlyniadau peidio â’u dilyn
y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer ymwelwyr a cherbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac yn gadael
y dulliau o lanhau a diheintio’r ardal waith a’r offer, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
y mathau o offer sy’n ofynnol i gynnal hylendid a bioddiogelwch y safle a sut i ddefnyddio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
sut i drin, storio a defnyddio cemegau yn gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
yr arwyddion rhybudd sy’n ofynnol, eu lleoliad a’u defnydd cywir
arwyddion o blâu a chnofilod a halogiad arall a’r camau priodol i’w cymryd
sut mae halogiad a thraws-halogiad yn digwydd, a’r canlyniadau posibl i gnydau/da byw ac iechyd dynol
y defnydd o gwarantin i leihau’r risg o gyflwyno clefydau
y pryderon posibl ar gyfer torri rheolau hylendid a bioddiogelwch a’r camau priodol i’w cymryd
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn
sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion busnes perthnasol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch:
· gweithdrefn hylendid personol
· gweithdrefn lanhau
· gweithdrefn mynediad cerbydau
· gweithdrefn mynediad personél
Cyfarwyddiadau a manylebau:
· darluniau/cynlluniau
· amserlenni
· datganiadau dull
· Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
· canllawiau cynhyrchwyr
· gofynion cwsmeriaid
· cyfarwyddiadau llafar