Cludo adnoddau ffisegol yn yr ardal waith

URN: LANCS6
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Technoleg Anifeiliaid,Garddwriaeth,Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cludo adnoddau ffisegol yn yr ardal waith.
Gall adnoddau ffisegol gynnwys cynnyrch, cyfarpar, deunyddiau, hylif ac ati.

Mae'n rhaid eich bod yn gallu llwytho, cludo a dadlwytho adnoddau'n ofalus ac yn gywir tra'n cadw'r llwyth mewn cyflwr da. Mae angen llwytho a chludo rhai adnoddau'n ofalus er mwyn lleihau niwed.

Mae'r safon yn cynnwys pob dull cludo perthnasol ar gyfer yr adnoddau sy'n cael eu symud yn amrywio o symud â llaw i ddefnyddio cyfarpar mecanyddol.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen.

Dylid nodi bod y safon hon ond yn cyfeirio at gludo yn yr ardal waith.  Nid yw'n cynnwys cludo ar briffyrdd cyhoeddus.  Os oes gofyniad i deithio ar ffyrdd cyhoeddus bydd angen eich bod yn meddu ar y trwyddedau perthnasol ar eich cyfer chi a'r cyfarpar cludo.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cludo adnoddau ffisegol yn yr ardal waith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i gael ei wneud

  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas

  3. asesu'r adnoddau ffisegol y mae angen eu cludo i bennu sut dylid eu codi a'u symud

  4. dewis a pharatoi cyfarpar cludo sydd yn addas ar gyfer cludo adnoddau ffisegol yn yr ardal waith

  5. cynnal gweithrediadau codi yn ddiogel ac yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol

  6. gosod adnoddau yn ofalus ac yn ddiogel ar y cyfarpar cludo

  7. gweithredu cyfarpar cludo i gludo'r adnoddau yn yr ardal waith yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau a'r gofynion diogelwch y cynhyrchydd a'r sefydliad

  8. lleihau niwed trwy symud y cyfarpar cludo yn ofalus

  9. monitro llwythi wrth gludo a gweithredu os bydd rhai yn mynd yn anniogel

  10. dadlwytho adnoddau a'u gosod yn ddiogel yn y man dynodedig

  11. cynnal a storio cyfarpar cludo yn barod i'w ddefnyddio wedi hynny

  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi'u heffeithio ganddo

  13. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, a'r gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

  14. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg

  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. sut i ddewis cyfarpar cludo priodol ar gyfer llwythi gwahanol

  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer cludo adnoddau ffisegol yn yr ardal waith a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir

  5. sut i asesu llwythi i bennu y dulliau diogel o godi a symud

  6. dulliau diogel o godi a chario adnoddau â llaw

  7. y defnydd cywir o gyfarpar codi a chyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar weithrediadau

  8. ffyrdd o ddiogelu adnoddau wrth eu cludo er mwyn cynnal diogelwch a lleihau niwed

  9. yr adnoddau ffisegol sy'n cael eu niweidio'n hawdd wrth gludo a ffyrdd y gellir lleihau hyn

  10. ffyrdd o drin a symud cyfarpar cludo i leihau niwed i adnoddau ffisegol sy'n cael eu cludo

  11. ffyrdd o fonitro cyflwr adnoddau ffisegol wrth gludo a'r camau i'w cymryd os oes unrhyw un yn mynd yn anniogel

  12. dulliau o ddiogelu adnoddau rhag cael eu halogi wrth gael eu cludo

  13. dulliau o ddiogelu adnoddau rhag tywydd gwael wrth eu cludo

  14. y gofynion llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo fel gosod, pentyrru a phwysau llwythi

  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo

  16. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

  17. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS6

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Gweithiwr Canolfan Arddio, Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

cludiant; llwytho; dadlwytho; adnoddau