Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru gydag ychwanegiadau

URN: LANCS59
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Cynhyrchu Da Byw
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru, fel ATV, gyriant pedair olwyn, beic cwad, cerbyd profi, sglefren a bobcat, gydag ychwanegiadau. Nid yw'r safon yn cynnwys defnyddio tractorau gydag ychwanegiadau.

Mae'r safon yn cynnwys defnyddio cerbyd wedi ei bweru gydag ystod o ychwanegiadau mewn tywydd, cyflwr daear a thir amrywiol. Bydd yr amodau hyn yn cael effaith ar drin a defnyddio'r cerbyd.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.

Wrth ddefnyddio cerbyd wedi ei bweru ar y briffordd gyhoeddus mae'n rhaid bod gennych drwyddedau perthnasol ar eich cyfer chi a'r cerbyd.

Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gweithredu cerbyd wedi ei bweru gydag ychwanegiadau ar y briffordd gyhoeddus ac oddi arno.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd gofynnol
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. paratoi'r cerbyd wedi ei bweru gofynnol trwy wneud gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn, yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
  4. cadarnhau bod y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel ac yn barod i'w ddefnyddio
  5. esgyn a disgyn oddi ar y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
  6. gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr i fodloni eich gofynion personol
  7. dewis yr ychwanegiadau priodol i wneud y gwaith gofynnol
  8. cadarnhau bod yr ychwanegiadau yn addas ar gyfer y cerbyd wedi ei bweru
  9. cadarnhau bod yr ychwanegiadau wedi eu gosod yn gadarn ac yn ddiogel
  10. cadarnhau bod yr ychwanegiadau wedi eu gosod neu eu graddnodi, os oes angen
  11. gwirio'r ardal uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud i ffwrdd, a phob amser wrth weithredu'r cerbyd wedi ei bweru
  12. defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
  13. gweithredu a symud y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel, yn unol â'r math o gerbyd, ychwanegiad a'r gweithrediad sy'n cael ei wneud
  14. defnyddio'r ychwanegiad yn ddiogel bob amser
  15. sicrhau bod yr ychwanegiad yn y safle cludo pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
  16. addasu'r gweithdrefnau gweithredu i ystyried unrhyw newidiadau yn y tywydd, cyflwr y ddaear neu'r mathau o dir
  17. defnyddio ffactorau effeithlonrwydd i gynnal perfformiad effeithlon gan y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad trwy drin a defnyddio'r cerbyd yn briodol
  18. monitro gweithrediad yr ychwanegiad a chydnabod unrhyw namau
  19. diffodd ac ynysu'r cerbyd wedi ei bweru ar ôl cwblhau'r gweithgaredd
  20. tynnu'r ychwanegiad yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  21. gadael y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad yn ddiogel ar ôl ei ddefnyddio ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  22. parhau i gyfathrebu â chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  23. dilyn canllawiau'r diwydiant a'r busnes i leihau niwed amgylcheddol
  24. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â pharatoi a gweithredu cerbydau wedi eu pweru ac ychwanegiadau

  4. y mathau gwahanol o gerbydau wedi eu pweru ar gyfer gweithgareddau gwahanol

  5. pa gerbydau wedi eu pweru sydd yn addas i gludo teithwyr

  6. y mathau gwahanol o ategolion sydd ar gael ar gyfer cerbydau wedi eu pweru a sut cânt eu cysylltu i'r cerbyd
  7. sut i ddewis cerbyd wedi ei bweru addas ar gyfer y gweithgaredd gofynnol a sut i baratoi'r cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad trwy wneud gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn
  8. sut i esgyn a disgyn o'r cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
  9. sut i ddechrau a diffodd y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
  10. y mathau o offer diogelwch ddylai fod ar gael ar y cerbyd
  11. swyddogaeth yr holl reolyddion a'r offer ar y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad sy'n cael ei ddefnyddio
  12. y mathau o ychwanegiadau a sut dylid eu cysylltu a'u tynnu o'r cerbyd wedi ei bweru
  13. y mathau o ychwanegiadau sy'n ddiogel i'w defnyddio gyda'r cerbyd wedi ei bweru yr ydych yn ei ddefnyddio a'r rheiny nad ydynt yn ddiogel
  14. yr amodau y dylid eu cadw mewn cof wrth ystyried defnyddio ychwanegiadau
  15. sut i osod neu raddnodi ychwanegiadau, lle bo angen
  16. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a dangosyddion
  17. y ffyrdd y dylid gweithredu a symud y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad, a sut i ystyried tywydd, amodau daear a thir amrywiol
  18. sut i weithredu a defnyddio ychwanegiadau yn ofalus ar y cerbyd wedi ei bweru
  19. sut i roi'r ychwanegiad i mewn i'r safle cludo a'r safle gwaith, yn ôl y gofyn
  20. galluoedd a chyfyngiadau'r cerbyd wedi ei bweru a'r gweithredwr a'r ffactorau a allai effeithio ar ddiogelwch ac effeithlonrwydd
  21. y mathau o beryglon a rhwystrau y gellir dod ar eu traws wrth weithredu cerbyd wedi ei bweru gydag ychwanegiadau a sut i ymdrin â'r rhain
  22. sut i fonitro gweithredu'r ychwanegiad a'r camau y gallai fod angen eu cymryd
  23. y namau, diffygion a'r rhannau sy'n treulio cyffredin ar ychwanegiadau a ddefnyddir yn eich lle gwaith
  24. y math o broblemau a allai ddigwydd gyda'r cerbyd wedi ei bweru neu'r ychwanegiad, sut i'w hadnabod a'r camau priodol i'w cymryd
  25. pwysigrwydd cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn i gadarnhau bod y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad yn dal yn ddiogel ac mewn cyflwr gweithredol da
  26. y rhesymau pam y dylid gadael y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  27. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y cerbyd wedi ei bweru a'r ychwanegiad bob amser
  28. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  29. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a'r ffyrdd y gellir lleihau hyn
  30. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dylai ychwanegiad/au gynnwys offer tynnu neu osod

*           Ffactorau effeithlonrwydd:*

  • gers
  • hydroleg
  • pwysedd teiars
  • cyflwr y trac
  • brecs
  • cydwyr

Cyflwr y ddaear:
* gwlyb
* sych
* rhew
* iâ
* mwd
* tir rhydd

Cyfarwyddiadau a manylebau:
* darluniau/cynlluniau
* amserlenni
* datganiadau dull
* Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
* canllawiau'r cynhyrchydd
* gofynion y cwsmer
* cyfarwyddiadau llafar

Amgylchedd y gweithredwr:

  • sedd
  • olwyn lywio
  • drychau
  • gwregys

* *

Cerbydau wedi eu pweru yn cynnwys:

  • ATV
  • gyriannau pedair olwyn
  • beiciau cwad
  • cerbydau coes bob ochr
  • cerbydau profi
  • sglefrau
  • bobcats **

* *

Tir:

  • arwynebeddau caled
  • arwynebeddau meddal
  • arwynebeddau anwastad
  • llethrau

Dolenni I NOS Eraill

LANCS9 Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru

LANCS57 Paratoi a gweithredu tractor ag ychwanegiadau



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS59

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

ATV; gyriant pedair olwyn; beic cwad; cerbyd profi; sglefren; bobcat