Dyrannu a monitro gweithgareddau gwaith

URN: LANCS58
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dyrannu a monitro’r gweithgareddau gwaith rydych chi’n gyfrifol amdanynt.

Mae’n cynnwys cynllunio a dyrannu gwaith yn deg ac yn effeithiol, gan ystyried y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sy’n ofynnol i gyflawni’r dasg, monitro cynnydd ac ansawdd y gwaith ynghyd ag ymateb i bryderon a gweithredu os bydd perfformiad yn annerbyniol. Hefyd, mae’n cynnwys arwain a symbylu’r gweithlu rydych chi’n gyfrifol amdano i gyflawni deilliannau’r gweithgareddau gwaith sy’n ofynnol.

Bydd angen gwybodaeth ymarferol dda arnoch am y gweithgareddau gwaith rydych chi’n eu dyrannu a’u monitro a dal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Gallai’r term “gweithlu” gynnwys aelodau tîm, staff dros dro a staff asiantaeth, gwirfoddolwyr a chontractwyr, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

Mae’r safon hon i bobl sydd â chyfrifoldebau goruchwylio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau’r gweithgareddau gwaith sy’n ofynnol, gan gynnwys ansawdd y deilliannau a’r amserlenni, nodi blaenoriaethau a gweithgareddau hanfodol, a chynllunio sut bydd y gwaith yn cael ei wneud
  2. dyrannu gwaith i’r gweithlu perthnasol, gan gyfrif am eu llwyth gwaith presennol a’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sy’n ofynnol i wneud y gweithgareddau gwaith
  3. cadarnhau bod gan bob aelod o’r gweithlu’r hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i wneud y gwaith, yn unol â gofynion cyfreithiol
  4. lle ceir diffyg sgiliau a gwybodaeth, gwneud dadansoddiad o anghenion dysgu a datblygu i bennu pa hyfforddiant sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith
  5. cynnal cyfle cyfartal wrth ddyrannu gwaith
  6. briffio’r gweithlu ar y gwaith sy’n ofynnol, gan gynnwys yr ansawdd a ddisgwylir, amserlenni, dulliau gweithio ac iechyd a diogelwch
  7. gwirio gyda’r bobl sy’n ymwneud â’r gwaith rydych chi’n gyfrifol amdano eu bod yn deall beth sy’n ofynnol ohonynt i gyflawni’r deilliannau disgwyliedig
  8. cadarnhau bod adnoddau, gan gynnwys deunyddiau, offer, cyfarpar a PPE sy’n ofynnol i wneud y gweithgareddau gwaith, ar gael
  9. monitro, asesu a chofnodi ansawdd a chynnydd y gwaith a wnaed yn erbyn y deilliannau sy’n ofynnol
  10. nodi unrhyw amrywiadau o’r gofynion a chymryd camau cywirol
  11. darparu adborth adeiladol ar berfformiad gwaith i aelodau’r gweithlu
  12. nodi perfformiad gwaith gwael neu annerbyniol, trafod a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad, lle bo’n bosibl, neu ddilyn gweithdrefnau sefydliadol i ddelio â’r broblem
  13. nodi pryd y mae angen cymorth neu adnoddau ychwanegol ar unigolion i gyflawni deilliannau gwaith
  14. arwain a symbylu aelodau’r gweithlu i gyflawni deilliannau gwaith
  15. cydnabod cwblhau darnau arwyddocaol o waith, neu weithgareddau gwaith, yn llwyddiannus gan aelodau’r gweithlu
  16. diweddaru cofnodion cynnydd gwaith i adlewyrchu newidiadau a chadw gwybodaeth yn gyfredol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i wirio a chadarnhau’r gweithgareddau gwaith sy’n ofynnol, gan gynnwys cynhyrchu rhaglenni ac amserlenni
  2. sut i nodi blaenoriaethau a gweithgareddau hanfodol a chynllunio sut bydd gwaith yn cael ei wneud
  3. sut i ddyrannu gwaith yn deg i’r gweithlu perthnasol
  4. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol
  5. pryd bydd angen hyfforddiant a sut gellir ei ddarparu
  6. pwysigrwydd cydnabod a rhoi pwys ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
  7. sut i friffio’r gweithlu rydych chi’n gyfrifol amdano am y gwaith sy’n ofynnol, y deilliannau a’r safonau ansawdd a ddisgwylir, a gwneud hynny’n rheolaidd
  8. pwysigrwydd gwirio bod pawb sy’n ymwneud â’r gwaith rydych chi’n gyfrifol amdano yn dilyn gweithdrefnau’r sefydliad
  9. sut i sicrhau bod yr holl adnoddau ar gael i’r gweithlu, pryd a lle bo angen
  10. sut i fonitro cynnydd ac ansawdd gwaith yn erbyn gofynion y gwaith ac amserlenni i nodi unrhyw amrywiadau a’r camau cywirol i’w cymryd
  11. sut i roi adborth adeiladol ar berfformiad i aelodau’r gweithlu
  12. pam mae angen i chi nodi perfformiadau gwaith annerbyniol a sut gellir delio â hyn
  13. sut i ddarparu cymorth neu adnoddau ychwanegol, lle gofynnir am hyn a lle y byddant ar gael
  14. yr arddulliau arwain gwahanol a sut i ddewis a chymhwyso’r rhain i wahanol sefyllfaoedd a phobl
  15. y ffyrdd gwahanol o symbylu’r gweithlu i gyflawni deilliannau gwaith
  16. sut gall lles y gweithlu effeithio ar gyflawni deilliannau gwaith
  17. sut i gydnabod cwblhau darnau arwyddocaol o waith neu weithgareddau gwaith yn llwyddiannus
  18. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol am gwblhau cofnodion yn gysylltiedig â monitro gweithgareddau gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Achosion perfformiad gwael
·        ffactorau allanol
·        ffactorau mewnol
·        ffactorau cymdeithasol
·        amgylchiadau personol
·        diffygion o ran sgiliau a gwybodaeth
·        diffyg cefnogaeth
·        diffyg adnoddau
 
Adborth
·        gwerthusiad ffurfiol
·        trafodaeth lafar
·        adroddiad ysgrifenedig


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Safonau ansawdd
·        gofynion statudol
·        manylebau prosiect
·        Safonau Prydeinig
·        Safonau Rhyngwladol
·        Codau Ymarfer
·        safonau sefydliadol
·        canllawiau ac arfer gorau diwydiant
·        meincnodau neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)

Adnoddau
·        pobl
·        offer, cyfarpar neu beiriannau
·        PPE
·        deunyddiau neu gydrannau
·        gwybodaeth
·        ardal weithio a chyfleusterau

Gallai’r gweithlu gynnwys:
·        aelodau’r tîm
·        gweithwyr dros dro
·        staff asiantaeth
·        gwirfoddolwyr
·        contractwyr
·        unrhyw gyfuniad o’r rhain


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS58

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

gwaith; dyrannu; monitro; arwain; symbylu