Paratoi a gweithredu tractor gydag ychwanegiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gweithredu tractor gydag ychwanegiadau. Mae'r defnydd cymwys o dractor gydag ychwanegiadau yn gofyn am sgil a gwybodaeth sylweddol.
Mae'r safon yn cynnwys defnyddio tractorau gydag ystod o ychwanegiadau mewn amrywiaeth o dywydd ac amodau daear ac ar amrywiaeth o dir. Bydd yr amodau hyn yn cael effaith ar drin a defnyddio'r tractor.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.
Wrth ddefnyddio tractor ar y briffordd gyhoeddus mae'n rhaid bod gennych y trwyddedau perthnasol ar eich cyfer chi a'r tractor.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gweithredu tractor ag ychwanegiadau ar y briffordd gyhoeddus neu oddi arni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi'r tractor trwy gynnal gwiriadau cyn cychwyn ac addasiadau, yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau, yn cynnwys pob amddiffyniad diogelwch
- cadarnhau bod y tractor yn ddiogel ac yn barod i gael ei ddefnyddio
- esgyn a disgyn oddi ar y tractor yn ddiogel
- gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr er mwyn bodloni eich gofynion personol
- dewis yr ychwanegiadau i wneud y gwaith gofynnol
- cadarnhau bod yr ychwanegiadau yn addas ar gyfer y tractor
- cadarnhau bod yr ychwanegiadau wedi eu gosod yn gadarn ac yn ddiogel
- cadarnhau bod yr ychwanegiadau wedi eu gosod neu eu graddnodi, lle bo angen
- gwirio'r ardal uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud i ffwrdd, a bob amser wrth weithredu'r tractor
- defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
- gweithredu a symud y tractor yn ddiogel, yn unol â'r math o dractor, ychwanegiad a'r gweithrediad sy'n cael ei wneud
- sicrhau bod yr ychwanegiad yn y safle cludo pan na fydd yn cael ei ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
- addasu'r technegau gweithredu i ystyried newidiadau yn y tywydd, cyflwr y ddaear neu'r mathau o dir
defnyddio ffactorau effeithlonrwydd i gynnal effeithlonrwydd y tractor a pherfformiad yr ychwanegiad trwy drin a chynnal a chadw priodol
defnyddio'r ychwanegiad yn ddiogel bob amser
- monitro gweithrediad yr ychwanegiad ac adnabod unrhyw namau
- diffodd ac ynysu'r tractor wrth gwblhau'r gweithgaredd
- tynnu'r ychwanegiad yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gadael y tractor a'r ychwanegiad yn ddiogel ar ôl ei ddefnyddio ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau'r diwydiant a'r busnes i leihau niwed amgylcheddol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
- y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â pharatoi a gweithredu tractorau ac ychwanegiadau
- sut i baratoi'r tractor a'r ychwanegiad trwy wneud y gwiriadau cyn cychwyn a'r addasiadau gofynnol
- sut i esgyn a disgyn oddi ar y tractor yn ddiogel
- sut i ddechrau a diffodd y tractor yn ddiogel
- swyddogaeth yr holl reolyddion a'r offer ar y tractor a'r ychwanegiad sy'n cael ei ddefnyddio
- y mathau o ychwanegiadau a sut y dylid eu sicrhau a'u tynnu oddi ar y tractor
- y mathau o ychwanegiadau sydd yn ddiogel i'w defnyddio gyda'r tractor yr ydych yn ei ddefnyddio a'r rheiny nad ydynt yn ddiogel
- yr amodau y dylid eu cadw mewn cof wrth ystyried defnyddio ychwanegiadau
- sut i osod neu raddnodi'r ychwanegiadau, lle bo angen
- y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a dangosyddion
- y ffyrdd y dylid gweithredu a symud y tractor, a bod yn rhaid ystyried tywydd gwahanol, cyflwr y ddaear a'r mathau o dir
- sut i weithredu a defnyddio ychwanegiadau yn ddiogel yn cynnwys gwrthbwyso
- y rheolydd drafft, rheolydd safle, gwasanaethau hydrolig a thrydanol allanol ar y tractor a'r ychwanegiad sy'n cael ei ddefnyddio
- sut i roi'r ychwanegiad i mewn i'r safle cludo a'r safle gwaith, fel y bo angen
- galluoedd a chyfyngiadau'r tractor a'r gweithredwr a'r ffactorau a allai effeithio ar ddiogelwch ac effeithlonrwydd
- y mathau o beryglon a rhwystrau y gellir dod ar eu traws wrth weithredu tractor ag ychwanegiadau a sut dylid trin y rhain
- sut i fonitro gweithredu'r ychwanegiad ac unrhyw weithredoedd a allai fod yn ofynnol
- y namau, diffygion a'r rhannau cyffredin sydd yn treulio ar ychwanegiadau a ddefnyddir yn eich gweithle
- y math o broblemau a allai ddigwydd gyda'r tractor neu'r ychwanegiad, sut i'w hadnabod a'r camau priodol i'w cymryd
- pwysigrwydd cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn i gadarnhau bod y tractor a'r ychwanegiad yn dal yn ddiogel ac mewn cyflwr gweithredol da
- y rhesymau pam y dylid gadael y tractor a'r ychwanegiad yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y tractor a'r ychwanegiad bob amser
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ychwanegiad/au yn cynnwys:
- rhai sy'n cael eu llusgo
- ychwanegiadau blaen neu ôl
- llwythwyr blaen
- PTO ac offer gyriant hydrolig
Ffactorau effeithlonrwydd:
- geriau
- hydroleg
- pwysedd teiars
- gwrthbwysedd
- balastio
- cylchdroadau injan
Cyflwr y ddaear:
- gwlyb
- sych
- rhew
- iâ
- mwd
- tir rhydd
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion cwsmeriaid
- cyfarwyddiadau llafar
* *
Amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- olwyn lywio
- drychau
- gwregys
Gwiriadau cyn cychwyn:
- tanwydd
- elfennau trydanol
- teiars
- cenglwyr
- hylifau
- iriad
Tir:
- arwynebeddau caled
- arwynebeddau meddal
- arwynebeddau anwastad
- llethrau
Dolenni I NOS Eraill
LANCS7 Paratoi a gweithredu tractor LANCS59 Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru gydag ychwanegiadau |