Paratoi a gweithredu cychod bach
URN: LANCS56
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Ebr 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gweithredu cychod bach a ddefnyddir at ddibenion cymorth.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am weithredu cychod bach i wneud eu gwaith.
(NI DDYLID YSTYRIED CYFLAWNI'R SAFON HON FEL RHAN O GYMHWYSTER FEL TYSTYSGRIF STATUDOL O GYMHWYSEDD NEU DRWYDDED I YMARFER)
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi ar gyfer gweithredu cychod bach
- gwneud eich gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
- cadarnhau bod y cwch mewn cyflwr gweithredol diogel sydd yn addas ar gyfer gofynion y gwaith
- cadarnhau bod systemau gyriant a llywio mewn cyflwr gweithredol da sydd yn addas ar gyfer y gwaith
- sicrhau bod holl offer diogelwch y cwch mewn cyflwr gweithredol da yn cynnwys cyfarpar diogelu personol, cyfarpar goroesi a chyfarpar cyfathrebu
- nodi peryglon posibl, a gweithredu i leihau'r risg yn ystod gweithgareddau gwaith
- adrodd am unrhyw sefyllfa yr ystyrir ei bod yn achosi risg ychwanegol i weithrediadau a gynlluniwyd
Gweithredu cychod bach
- symud cychod i gefnogi gweithrediadau, gan ystyried amodau amgylcheddol cyffredin
- cwblhau'r holl symudiadau yn ddiogel, gan aros o fewn terfynau gweithredu'r cwch, yn unol â'r gofynion cyfreithiol
- gweithredu i gynnal diogelwch y cwch wrth ddod ar draws problemau gweithredu
- ymateb i rywun yn y dŵr, gan symud y cwch i achub yr unigolyn yn ddigel, yn unol â'r gweithdrefnau a argymhellir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau cychod bach
- terminoleg sylfaenol cychod
- pwysigrwydd cwblhau gwiriadau gweithdrefnol ar y cwch, y systemau gyriant a diogelwch
- y cyfarpar diogelwch sydd yn ofynnol i gynnal eich diogelwch eich hun ac eraill
- sut i gadw cyfarpar diogelwch mewn cyflwr gweithredol da
- y defnydd cywir o waith rhaffau a chlymau
- galluoedd a chyfyngiadau gweithredol cychod
- rheolau sydd yn rheoli gweithrediad diogel cychod bach
- sut i gael a dehongli rhagolygon y tywydd ar gyfer yr ardal weithredu
- y peryglon morwriaeth sydd yn yr ardal weithredu
- y defnydd cywir o siacedi achub a chymhorthion hynofiant
- y gweithdrefnau brys ar gyfer 'person yn y dŵr'
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â throchi mewn dŵr
Cwmpas/ystod
A. symud eich cwch i:
- ddod i mewn
- codi angor
- angori
- clymu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
amodau amgylcheddol – Y tywydd ac amodau'r dŵr
perygl – Unrhyw beth sydd yn cyflwyno risg i chi neu eich cwch, yn cynnwys gweithredu cwch, terfynau gweithredol y cwch, amodau amgylcheddol
gweithredu – Rheoli cwch
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Ebr 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCU13
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
3553
Geiriau Allweddol
Cwch: gweithredu