Rheoli cludo anifeiliaid
URN: LANCS55
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Gofal a Lles Anifeiliaid,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys rheoli cludo anifeililaid. Mae’n cynnwys datblygu a gweithredu cynllunio ar gyfer cludo anifeiliaid, yn ogystal â ffyrdd o bennu’r polisïau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â chludo anifeiliaid mewn diwydiannau fel ffermio, gofal anifeiliaid neu fusnes ceffylau.
Gallai "anifeiliaid", yn yr achos hwn gyfeirio at anifail unigol neu’r rheiny sydd yn cael eu cludo mewn grwpiau, a gallai cludiant gynnwys y ffordd, rheilffordd, awyr neu’r môr, a gallai fod o fewn neu’r tu allan i’r DU.
Mae angen gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth gyfredol, yn cynnwys cludiant a llesiant anifeiliaid mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae hefyd yn angenrheidiol gallu asesu risg, cynllunio a chyflawni agweddau logisteg cludo anifeiliaid, yn cynnwys y rheiny sydd angen cwarantîn neu ynysu wrth eu cludo.
Wrth gludo anifeiliaid ar y ffordd, dros 65km mae angen i yrwyr feddu ar y cymhwyster perthnasol ar gyfer teithiau naill ai o dan neu dros 8 awr. Mae angen i gynorthwywyr hefyd feddu ar gymhwyster ar gyfer teithiau dros 8 awr.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli cludo anifeiliaid.
Nid yw symud anifeiliaid ar droed wedi ei gynnwys yn y safon hon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r angen i gludo anifeiliaid
- nodi’r llwybr a’r dulliau priodol o gludo, pwyntiau trosglwyddo a chyfnod a gwneud y cynlluniau angenrheidiol
- cyflwyno cynlluniau llwybr i’r awdurdod priodol a/neu wneud cais am drwyddedau teithio, a hysbysu’r awdurdodau angenrheidiol os oes angen trwyddedau mewn pryd ar gyfer y trosglwyddo
- rheoli’r gwaith o weithredu’r cynlluniau ar gyfer cludo anifeiliaid
- cadarnhau bod yr holl ddogfennau ac yswiriant cludo anifeiliaid yn eu lle ac wedi eu cwblhau’n gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- awdurdodi ceisiadau am drwyddedau ar gyfer symud anifeiliaid fel y bo angen
- trefnu i’r anifeiliaid gael eu llwytho, eu dadlwytho a’u cludo mewn ffyrdd sydd yn diogelu iechyd a diogelwch yr anifeiliaid, y bobl sy’n eu trin a phobl eraill a allai fod yn yr ardal
- pennu’r dulliau priodol o gyfyngu neu atal i’w defnyddio wrth gludo a chadarnhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir
- sefydlu gweithdrefnau i gynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol yn ystod pob cam o’r broses gludo a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- trefnu i’r amodau llesiant gofynnol gael eu cynnal wrth gludo, yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a lles anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
- sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod anifeiliaid yn cael bwyd, dŵr ac ymarfer corff, pan fo angen, wrth gludo a chadarnhau bod y gweithdrefnau hyn yn cael eu dilyn
- sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn cael ei darparu ar gyfer yr anifeiliaid wrth eu cludo, a bod trefniadau cywir yn cael eu gwneud iddynt wrth gyrraedd eu cyrchfan
- sefydlu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl, fel torri i lawr neu oedi arall wrth gludo
- cadarnhau bod eich polisïau a’ch gweithdrefnau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â symud anifeiliaid a lles anifeiliaid wrth eu cludo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rhesymau pam y mae’r anifeiliaid yn cael eu cludo
- y mathau o gludiant sydd ar gael a sut i ddewis yr un mwyaf priodol ar gyfer y daith ofynnol a’r anifeiliaid i gael eu cludo
- o dan ba amgylchiadau y mae angen trwyddedau teithio, ble i wneud cais amdanynt a phwy all eu llofnodi
- y trwyddedau/dogfennau sydd yn angenrheidiol ar gyfer mewnforio/allforio anifeiliaid a sut i wneud cais am y rhain
- y gofynion cyfreithiol a statudol sy’n effeithio ar gludo anifeiliaid, yn cynnwys dwysedd stoc, niferoedd a rhywogaethau anifeiliaid, hyd y daith, gofynion ymarfer corff, bwyd a dyfrhau
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â symud anifeiliaid, yn cynnwys adnabod anifeiliaid yn gywir pan fo angen
- pwy yw’r awdurdod gofynnol yn ymwneud â chludo anifeiliaid
- sut ddylai cludiant gael ei baratoi ar gyfer anifeililaid gwahanol mewn perthynas â’u hiechyd, eu diogelwch, eu diogeledd a’u llesiant
- sut dylai mathau gwahanol o anifeiliaid gael eu paratoi ar gyfer eu cludo mewn perthynas â’u hiechyd, eu llesiant, eu diogelwch a’u diogeledd
- sut dylai anifeiliaid gwahanol gael eu llwytho a’u dadlwytho
- y cyfyngiant, yr ataliaeth a’r llety teithio sydd eu hangen ar anifeiliaid gwahanol
- y dulliau o gynnal mesurau hylendid a bioddiogelwch wrth gludo anifeiliaid a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- pryd mae angen ynysu/cwarantîn wrth gludo a’r ffordd y gellir cyflawni hyn
- pryd mae anifail yn anaddas i’w gludo
- y ffactorau sydd yn gallu achosi straen i anifeiliaid gwahanol wrth eu cludo a’r ffyrdd o leihau’r rhain
- y sefyllfaoedd a allai godi, sydd yn benodol i’r rhywogaethau sy’n cael eu cludo
- pwysigrwydd cael cynlluniau wrth gefn i ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl, fel torri i lawr neu oedi arall wrth gludo
- pwysigrwydd cadarnhau bod trefniadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer derbyn yr anifeiliaid yn eu cyrchfan
- eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a llesiant anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cynnal cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol llesiant anifeiliaid:
Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Rheoliadau lles anifeiliaid wrth eu cludo
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS55
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gofal anifeiliaid, Anifeiliaid mewn Addysg ac Adloniant, Tyddynnwr, Crofftwr, Cludwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
anifeiliaid; cludiant; cratio; bocsio; trwyddedau; pasbortau