Rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol, yn cynnwys rhywogaethau ymledol, nad ydynt yn gynhenid, niweidiol neu wenwynig.
Mae ystod o dechnegau ac offer ar gael ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol mewn safleoedd a lleoliadau gwahanol (ar y tir neu mewn dŵr, gwyllt neu wedi'i amaethu, agored neu gaeëdig). Gall y dulliau gynnwys atal, monitro, rheoli neu ddileu.
Byddwch yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau ac ni fydd disgwyl i chi wneud penderfyniadau am y dulliau mwyaf priodol o reoli i'w defnyddio.
Bydd yn rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol ar safleoedd gwahanol ac mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Os ydych yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- cynnal bioddiogelwch y safle i atal chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol rhag cael ei fewnforio, ei ledaenu neu ei gymryd oddi ar y safle
- cadarnhau'r dulliau rheoli i gael eu defnyddio
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar, peiriannau a'r PPE gofynnol, gan gadw'r rhain mewn cyflwr glân a gweithredol trwy gydol y gwaith
egluro unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle sydd wedi'u sefydlu
sicrhau bod unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol wedi'u sefydlu cyn dechrau'r gwaith
sicrhau bod gennych neu eich bod yn gwybod ble i gael mynediad i ffynonellau gwybodaeth neu arbenigedd perthnasol
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
- ymdrin â'r holl ddeunyddiau yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- rhoi y dulliau rheoli ar waith mewn ffordd sydd yn lleihau'r risg i rywogaethau heb eu targedu a'r amgylchedd cyfagos
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol i gynnal bioddiogelwch y safle ac atal lledaeniad annymunol
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- diben, cwmpas ac amcanion y gweithgaredd
- cyd-destun y safle yn yr amgylchedd ehangach, pa beryglon y mae'r safle'n eu cyflwyno i'r amgylchedd ehangach a sut gall yr amgylchedd ehangach effeithio ar y safle
- y dulliau o gynnal bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig i atal chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol rhag cael eu mewnforio, eu lledaenu neu eu cymryd oddi ar y safle
- goblygiadau'r ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn effeithio ar eich gwaith, yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau e.e. mynediad cyhoeddus
- goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol a phwysigrwydd sicrhau bod unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau ar gyfer y gweithgaredd wedi'u sefydlu
- ymdrin â deunyddiau a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir yn cynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE) a chemegion, lle bo angen, ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer eu defnyddio
- y dulliau o reoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol mewn sefyllfaoedd gwahanol
- y ffynnonellau gwybodaeth i gynorthwyo'r gwaith o reoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
effaith bosibl eich gweithgareddau ar yr amgylchedd cyfagos a sut i leihau hyn
sut gallai'r lleoliad, defnydd cyfredol neu yn y gorffennol a'r cynefinoedd a geir ar y safle effeithio ar y chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol sydd yn bresennol a'r dulliau rheoli
- y rhywogaethau ymledol blaenoriaeth uchel a geir yn y DU ar hyn o bryd
- y chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol sydd yn flaenoriaeth ar gyfer y safle
- sut gallai'r amser o'r flwyddyn effeithio ar bresenoldeb a rheolaeth chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
- effaith chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol, y ffordd y maent yn gallu lledaenu a niweidio'r amgylchedd cyfagos
yr arferion gwaith diogel ar gyfer trin neu reoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol a pheryglon unrhyw rhywogaethau gwenwynig
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain
- yr asiantaethau gwahanol sydd yn gysylltiedig â rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
- terfynau eich arbenigedd eich hun a ble i gael cyngor
- pwysigrwydd atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant indemnedd proffesiynol
- y ddeddfwriaeth, protocolau a'r chodau ymarfer perthnasol sydd yn gysylltiedig â rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliad, a phwysigrwydd bioddiogelwch
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gall y dulliau rheoli fod yn rhai llaw, mecanyddol, biolegol, diwylliannol, cemegol, dileu, atal neu leddfu.
Gall clefydau fod yn ffyngol, feirysol neu facterol.
Gall anhwylderau gynnwys diffygion maeth (e.e. diffygion nitrogen neu galsiwm).
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- darluniau/cynlluniau
- mapiau safle/asesiad delwedd o'r awyr
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cyfreithiol
canllawiau arfer da
gofynion cwsmeriaid
safon gofynnol y canlyniad
- cyfarwyddiadau llafar
Rhywogaethau ymledol, nad ydynt yn gynhenid – Mae rhestr o rywogaethau blaenoriaeth uchel ar gael ar wefannau Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Nad Ydynt yn Gynhenid Cenedlaethol (NNSS) PF a Rhywogaethau Ymledol Iwerddon ynghyd â chyngor ar y camau i'w cymryd a system i adrodd ar ganfyddiadau.
Gall plâu fod yn rhai heb asgwrn cefn neu ag asgwrn cefn e.e. pryfed, cnofilod, adar.
Gall chwyn fod yn rhywogaethau ymledol, niweidiol/gwenwynig, chwyn cyffredin.
Dolenni I NOS Eraill
LANCS76 Trefnu rheolaeth rhywogaethau ymledol neu niweidiol