Cynnal a storio cofnodion yn y gweithle

URN: LANCS5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Da Byw, Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol, Technoleg Anifeiliaid, Garddwriaeth, Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol, Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Cynorthwyol, Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal a storio gwybodaeth yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cofnodi gwybodaeth yn gywir a’i storio yn y lleoliad cywir.

Mae’r rhan fwyaf o weithleoedd yn defnyddio systemau cyfrifiadurol i storio a chynnal cofnodion ond mae rhai systemau papur yn cael eu defnyddio o hyd.

Gallai cofnodion gynnwys cofnodion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a’r rhai sy’n cael eu cynnal i gynorthwyo â rhedeg y sefydliad yn effeithlon. Bydd angen i chi gynnal unrhyw gyfrinachedd angenrheidiol a chadw at ddeddfwriaeth diogelu data presennol wrth storio gwybodaeth bersonol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. lleoli’r dull cofnodi priodol ar gyfer y wybodaeth y mae angen i chi ei chofnodi
  2. lle nad yw cofnodion yn bodoli ar hyn o bryd, dilyn y weithdrefn ofynnol i’w sefydlu
  3. gwneud nodiadau cywir a chyflawn mewn cofnodion ac, yn achos cofnodion ysgrifenedig, nodiadau darllenadwy
  4. cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn unol â gofynion deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
  5. cofnodi gwybodaeth o fewn amserlenni gofynnol
  6. storio cofnodion wedi’u diweddaru yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  7. cynnal diogelwch a chyfrinachedd y wybodaeth a gofnodwyd, yn unol â gofynion y sefydliad a deddfwriaeth diogelu data presennol
  8. cymryd camau i ddatrys neu roi gwybod am unrhyw wallau neu hepgoriadau sy’n cael eu darganfod yn y cofnodion, neu unrhyw broblemau â chynnal, storio neu gael at gofnodion, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Cwmpas/ystod

  1. y systemau ar gyfer cadw a storio cofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad, y cofnodion y mae’n ofynnol i chi eu diweddaru a lle maen nhw’n cael eu lleoli
  2. y ddeddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
  3. y fformat cywir ar gyfer cwblhau cofnodion
  4. yr amserlenni gofynnol ar gyfer cwblhau cofnodion
  5. cyfyngiadau eich cyfrifoldeb am gael at gofnodion, eu cwblhau a’u diweddaru
  6. at ba ddiben mae’r cofnodion yn cael eu defnyddio a phwysigrwydd cadw cofnodion cywir
  7. y cofnodion sy’n gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol a sut i ddelio â’r rhain
  8. gofynion deddfwriaeth diogelu data presennol ar gyfer storio gwybodaeth bersonol
  9. y mathau o broblemau a all ddigwydd gyda chofnodion, a’r camau i’w cymryd pan fydd gwallau neu hepgoriadau’n cael eu darganfod
  10. am ba hyd y mae angen cadw cofnodion

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

4

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS5

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid, Amaethyddiaeth, myfyriwr nyrsio milfeddygol, Technolegydd Anifeiliaid, Parabroffesiynol Milfeddygol, Garddwriaeth

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

cofnodion; storio