Paratoi a thrafod cynigion ar gyfer gwaith contract

URN: LANCS47
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y gwaith sy'n ofynnol i baratoi a thrafod cynnig ffurfiol ar gyfer gwaith contract. Mae'n cynnwys gwerthuso dogfennau manyleb (e.e. gwahoddiadau tendro), paratoi cynigion a thrafod a chytuno ar delerau gyda'r ochr arall.

Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr fydd yn paratoi a thrafod cynigion ar gyfer gwaith contract.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio dogfennau'r fanyleb a nodi gallu a galluogrwydd eich sefydliad i wneud y gwaith contract
  2. trawswirio'r wybodaeth a ddarparwyd yn y manylebau gydag unrhyw wybodaeth berthnasol arall
  3. asesu cyfleoedd a chyfyngiadau gwneud cais am y gwaith contract
  4. cynllunio a pharatoi cynnig addas i fodloni'r fanyleb a'r dyddiad cyflwyno
  5. hysbysu'r cwsmer am eich bwriad i gyflwyno/peidio â chyflwyno cynnig am y gwaith

  6. dadansoddi'r adnoddau sy'n ofynnol i gyflawni'r contract yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydych wedi'i chael

  7. creu costau fydd yn rhoi elw digonol, gan ystyried cyflwr y farchnad
  8. paratoi cynigion sydd yn bodloni gofynion y cwsmeriaid ac anghenion eich sefydliad
  9. cyflwyno cynigion ar amser ac ar y ffurf sy'n ofynnol gan y cwsmer
  10. cynnal trafodaethau ar ôl y cynnig sydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer perthynas waith gadarnhaol gyda'r cwsmer
  11. egluro cyfrifoldebau, gweithdrefnau a hyblygrwydd yn y contract gyda'r cwsmer
  12. cadarnhau bod penderfyniadau ac awgrymiadau a wnaed yn ystod y trafodaethau yn cyd-fynd â gofynion eich sefydliad
  13. cytuno ar gontractau a'u cadarnhau cyn dechrau'r gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd gwirio dogfennau'r fanyleb yn drwyadl, gan eu trawsgyfeirio a nodi unrhyw faterion
  2. sut i ddefnyddio offer gwneud penderfyniadau i bennu a ddylid ceisio contract
  3. y materion sefydliadol, cyfreithiol, adnoddau a moesegol perthnasol a allai fod yn  gysylltiedig â derbyn y gwaith contract
  4. y rhyngberthynas rhwng gwaith contract y gallai fod gan y sefydliad ddiddordeb yn ei wneud a'i allu i'w gyflawni
  5. y rhesymau pam y gallai sefydliadau ddewis peidio â gwneud cais am gontractau er eu bod yn gallu eu cyflawni
  6. y mathau o risgiau a allai fod yn gysylltiedig â chontractau a'r dulliau o asesu risgiau o'r fath
  7. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor: technegol, cyfreithiol ac ariannol
  8. yr angen am ganiatâd, trwyddedau neu ofynion arbennig eraill i wneud mathau penodol o waith contract yn eich diwydiant
  9. y ffactorau allanol sydd yn effeithio ar gyflawni'r contract, fel y tywydd, adeg o'r flwyddyn
  10. pwysigrwydd y rhagolygon llif arian a sut i rannu'r gwaith contract cyffredinol yn gerrig milltir allweddol
  11. sut i werthuso'r adnoddau sy'n ofynnol: ariannol, materol, cyfalaf a dynol a pherthynas y rhain â'r cyllidebau arfaethedig
  12. sut i gyrraedd cost sydd yn ystyried cyflwr cyffredin y farchnad a chost gwirioneddol darparu'r cynnyrch neu'r gwasanaethau sy'n ofynnol yn y contract
  13. sut i baratoi cynigion ar gyfer gwaith contract
  14. y cyfleoedd a allai fod ar gael i drafod gyda'r cwsmer a sut gall hyn gyfrannu at berthynas waith gadarnhaol
  15. egwyddorion cyfraith contractau
  16. pam y gallai trafodaethau ar ôl y cytundeb fod yn angenrheidiol a sut i'w cynnal
  17. pryd y gallai fod yn syniad da cael cymorth gyda'r trafodaethau er mwyn cael canlyniad llwyddiannus
  18. terfynau eich sefydliad o ran sicrhau'r contract
  19. y graddfeydd amrywiol o hyblygrwydd a chyfyngiadau y gallai'r contractau eu cael, yn dibynnu ar natur y gwaith a'r cwsmer cysylltiedig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS47

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gofalwr Tir, Rheolwyr Parciau, Technegydd Peirianegol a Gwyddoniaeth, Rheolwyr Cynhyrchu, Rheolwr Eiddo

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

tendrau; contractau; trafod; cynnyrch; gwasanaethau