Datblygu a rhoi cynlluniau ar waith i wella marchnata a gwerthu ar gyfer y busnes diwydiannau’r tir
URN: LANCS46
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys datblygu a rhoi cynlluniau ar waith i wella marchnata a gwerthu ar gyfer y busnes diwydiannau'r tir.
Bydd hyn yn cynnwys gwneud ymchwil a chynllunio a gosod targedau ar gyfer eich gwerthu a'ch marchnata. Bydd angen i chi ddeall eich marchnad a sut i werthu eich nwyddau neu wasanaethau am elw.
Mae'r safon hefyd yn cynnwys pennu llwyddiant eich marchnata a monitro eich gwerthiannau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am ddatblygu a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer marchnata a gwerthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau pa gynnyrch neu wasanaethau y mae angen i'ch busnes diwydiannau'r tir eu marchnata a'u gwerthu
- ymchwilio i'r farchnad ar gyfer eich maes busnes
- cael gwybodaeth am weithgareddau eich cystadleuwyr
- dadansoddi eich ymchwil i benderfynu a oes cyfleoedd ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaethau presennol neu bosibl
- adolygu eich canfyddiadau yn erbyn y targedau busnes
- penderfynu beth rydych eisiau ei gyflawni trwy farchnata a gwerthu a gwneud i hyn gyd-fynd â'r targedau busnes
- paratoi cyllideb fanwl ar gyfer marchnata
- datblygu cynllun i wella marchnata, yn cynnwys yr holl wybodaeth a ddefnyddir i wneud eich penderfyniadau
- paratoi cyllideb fanwl ar gyfer gwerthu
- datblygu cynllun i wella gwerthiannau yn seiliedig ar eich archwiliad o'r farchnad a'ch targedau busnes
- penderfynu sut byddwch yn mesur a yw eich cynlluniau gwerthu a marchnata yn llwyddiannus
- sicrhau bod pawb sydd yn gysylltiedig yn gallu gweithredu'r camau i farchnata a gwerthu'r cynnyrch neu wasanaethau
- rhoi cynlluniau ar waith i wella marchnata a gwerthu
- monitro cynnydd marchnata a gwerthu a chyfathrebu'r wybodaeth hon i'r rheiny y mae angen eu hysbysu
- nodi unrhyw gyfleoedd newydd neu fygythiadau a newid y cynlluniau fel bo angen
- gweithredu pan fydd marchnata neu werthiannau yn wahanol i'r cynllun
- monitro gwasanaeth cwsmeriaid yn cynnwys cwynion, sylwadau neu awgrymiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pa gynnyrch neu wasanaethau y gall eich busnes diwydiannau'r tir eu cyflwyno
- ble i gael gwybodaeth am y farchnad ar gyfer eich maes busnes chi
- sut i gael gwybodaeth am eich cystadleuwyr
- sut i ddadansoddi canlyniadau eich canfyddiadau
- sut i wneud i'ch targedau busnes gyd-fynd â'ch canfyddiadau
- sut i osod targedau ar gyfer marchnata fydd yn ystyried eich sefyllfa yn y farchnad, gwerthiannau a maint gros yr elw, llif arian a thueddiadau cwsmeriaid
- yr hyn y dylid ei gynnwys mewn cynllun i wella marchnata
- sut i osod targedau ar gyfer gwerthu, yn cynnwys maint gwerthiannau, maint yr elw, llif arian a chadw cleientiaid blaenorol ac ennill busnes newydd
- yr hyn y dylid ei gynnwys mewn cynllun i wella gwerthiannau
- sut i fesur a ydych yn bodloni targedau gwerthu a marchnata
- pwy sydd angen gwybod am eich cynlluniau a'ch cynnydd a'u deall
- sut i roi cynlluniau ar waith a chael y gorau gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â gwerthu a marchnata'r cynnyrch neu'r gwasanaethau
- sut i fonitro bodlonrwydd cwsmeriaid
- y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol a sut maent yn berthnasol i'ch cynlluniau
- sut i wneud newidiadau i'r cynlluniau gwerthu a marchnata
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cynllun marchnata gynnwys:
- beth yw marchnata
- yr hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau a'i angen
- eich rhagolygon ar gyfer y busnes
- y mathau o farchnata i'w defnyddio
- beth fydd cost marchnata
- beth yw'r cynnyrch a'r gwasanaethau a beth fydd eu cost
- sut a ble bydd cynnyrch a/neu wasanaethau yn cael eu gwerthu
- manylion cynlluniau sicrhau ansawdd, lle y bo'n briodol
Gallai cynllun gwerthu gynnwys
- beth yw'r farchnad
- yr hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau a'i angen
- y gwerthiannau yr ydych yn dymuno eu cyflawni
- targed maint yr elw
- cost gwerthu
- ble bydd cynnyrch a/neu wasanaethau yn cael eu gwerthu
Bydd hyn yn cynnwys chi yn gwneud ymchwil i bennu:
- beth yw'r farchnad bresennol
- y cyfleoedd posibl ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau newydd
- yr hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau a'i angen
- sut byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau
- y math/au o farchnata i'w defnyddio, yn cynnwys defnyddio technolegau newydd fel y cyfryngau cymdeithasol
- beth fydd cost marchnata a ffynonellau marchnata am ddim
- beth fydd cost eich cynnyrch neu wasanaethau
- eich rhagolygon ar gyfer y busnes
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS46
Galwedigaethau Perthnasol
Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Cadwraeth Amgylcheddol
Cod SOC
2141
Geiriau Allweddol
gwerthiannau; marchnata; gwelliant; cynlluniau