Asesu, trafod a sicrhau ffynonellau cyllid
URN: LANCS44
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys asesu ffynonellau cyllid posibl ac yna trafod a sicrhau'r cyllid hwnnw.
Gallai ffynonellau cyllid gynnwys nawdd, grantiau, cymorthdaliadau, rhoddion a chymynroddion.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd angen chwilio am ffynonellau cyllid a gwneud cais amdanynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi ffynonellau cyllid posibl sydd yn berthnasol i'r sefydliad a'i waith
- cael gwybodaeth am y ffynonellau cyllid ac asesu eu perthnasedd i waith y sefydliad
- nodi ac asesu cyfleoedd a chyfyngiadau'r ffynonellau cyllid
- dewis y ffynonellau cyllid sydd fwyaf perthnasol i'r sefydliad a'i waith
- cael gwybodaeth am y broses a'r raddfa amser sy'n ofynnol ar gyfer gwneud cais am y cyllid
- paratoi a chyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y cais ar amser ac ar ffurf sydd yn cyd-fynd â gofynion y noddwr
- darparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi'r cais am gyllid, ar gais
- cynnal trafodaethau gyda'r noddwr yn y ffordd angenrheidiol i sicrhau'r cyllid
- cyflwyno a chyfathrebu canlyniadau i'r rheiny y mae angen eu hysbysu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut a ble i ddod o hyd i wybodaeth am ffynonellau cyllid posibl
- sut i asesu ffynonellau cyllid er mwyn perthnasedd
- anghenion a gofynion noddwyr a sut maent yn gwahaniaethu rhwng ffynonellau
- yr ystod lawn o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ffynonellau cyllid, a'r cyfyngiadau cysylltiedig
- sut i baratoi'r cynigion a'r ceisiadau am gyllid
- sut i ddehongli meini prawf asesu noddwyr posibl
- sut i drafod gyda nodwyr er mwyn sicrhau'r cyllid
- sut i asesu manylion unrhyw rwymedigaethau contract
- sut i ymdrin â cheisiadau am gyllid yn cael eu gwrthod mewn ffordd nad yw'n rhoi'r berthynas gyda'r noddwr o dan anfantais yn y dyfodol
- y dulliau o gyhoeddi cytundebau contract ac unrhyw ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffynonellau cyllid: nawdd, grantiau, cymorthdaliadau, rhoddion, cymynroddion
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS44
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal anifeiliaid, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Rheolwr Parc, Cyfarwyddwr Gerddi, Cyfarwyddwr Parciau a Mannau Agored, Swyddog Addysg A Dehongli, Rheolwr Eiddo, Pennaeth Amgylchedd
Cod SOC
2141
Geiriau Allweddol
cyllid; nawdd; grantiau; cymorthdaliadau; rhoddion; cymynroddion