Cynllunio a chydlynu gwaith codi arian
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a chydlynu gwaith codi arian yn y sefydliad. Dylech fod yn gallu asesu beth yw amcanion codi arian y sefydliad, y dulliau sydd ar gael a'u haddasrwydd. Gallai'r amcanion fod yn rhai hirdymor a thymor byr.
Mae'n rhaid i chi hefyd fod yn gallu cydlynu gwaith codi arian ar draws y sefydliad i gynyddu incwm. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â'r gwaith codi arian y wybodaeth, yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Bydd angen eich bod yn gallu monitro'r gwaith codi arian i weld a fydd y targedau'n cael eu bodloni ac i wella arferion codi arian.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio a rhoi gwaith codi arian ar waith yn eu sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro yr amcanion codi arian a chreu amcanion y gellir eu cyflawni ac sy'n bodloni gofynion y sefydliad
- cyfathrebu nodau ac amcanion y gwaith codi arian yn glir
nodi a gwerthuso'r dulliau a'r gweithgareddau codi arian posibl o ran eu gallu i gyflawni canlyniadau
cadarnhau bod y dulliau a'r gweithgareddau codi arian posibl yn unol â gwerthoedd a pholisïau'r sefydliad
- nodi goblygiadau posibl i'r sefydliad sydd yn effeithio a'r dulliau a gweithgareddau codi arian gwahanol, yn cynnwys goblygiadau cyfreithiol perthnasol
penderfynu a'r dulliau neu weithgareddau codi arian sy'n bodloni amcanion a gofynion y sefydliad
cynllunio'r camau y mae angen i'r sefydliad eu cymryd a'r adnoddau gofynnol
- nodi a ddylid cydnabod cyfranwyr a sut dylid gwneud hyn
- nodi unrhyw ffactorau sydd yn effeithio ar lif cronfeydd ac asesu'r effaith bosibl ar y sefydliad
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill
- cydlynu'r gweithgareddau a'r dulliau codi arian
egluro'r tasgau, y cyfrifoldebau a'r graddfeydd amser gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gwaith codi arian
sicrhau bod gan y rheiny sydd yn gwneud y gwaith codi arian yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen
- rhoi cyfleoedd addas i'r rheiny sydd yn gysylltiedig i drafod ac archwilio gwaith codi arian a'u rôl yn fanylach
cynorthwyo'r rheiny sydd yn gysylltiedig i ddatblygu eu sgiliau codi arian a bod yn agored i syniadau newydd
monitro gweithgareddau a'r dulliau codi arian am effeithiolrwydd yn bodloni targedau
gweithredu os oes gwahaniaethau rhwng incwm gwirioneddol ac wedi'i dargedu
- defnyddio gwersi o waith codi arian i wella arferion codi arian
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben y sefydliad a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni
- gwerthoedd y sefydliad a'r ffordd y gallai'r rhain effeithio ar y dulliau a'r gweithgareddau codi arian
- sut i osod nodau ac amcanion wrth gynllunio gwaith codi arian
- sut a ble i gael mynediad at wybodaeth am dulliau a gweithgareddau codi arian
- y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth benderfynu a'r dulliau a gweithgareddau codi arian
y gofynion cyfreithiol perthnasol a'r codau ymarfer sy'n effeithio a'r dulliau a gweithgareddau codi arian gwahanol
manteision ac anfanteision y dulliau a gweithgareddau codi arian gwahanol
- yr adnoddau sy'n ofynnol i wneud y gwaith codi arian
- cynllunio ariannol ac effaith hyn ar ddarparu adnoddau
- y ffyrdd y gallai cyfranwyr gael eu cydnabod
- pwysigrwydd cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill yn y broses codi arian
- pwysigrwydd codi arian i lwyddiant y sefydliad
- sut i gydlynu gweithgareddau a'r dulliau codi arian
- sut i baratoi a chyflwyno briffiau a chynlluniau codi arian a chefnogi'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u cyflwyno trwy weithgareddau datblygu yn cynnwys cymorth, cyngor a hyfforddiant
- sut i reoli prosesau gwrthod a dysgu o brofiad
sut i fonitro'r incwm sy'n cael ei greu a chostau codi arian yn erbyn cynlluniau
y camau i'w cymryd os yw gwaith codi arian yn fwy neu'n llai llwyddiannus nag y rhagwelwyd
- yr opsiynau ar gyfer diwygio cynlluniau codi arian i gyflawni ffrydiau incwm cytbwys ar gyfer sefydliad