Rheoli safleoedd yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol

URN: LANCS42
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.

Gellir rheoli safleoedd ar gyfer ystod eang o ddibenion fel gweithgareddau masnachol, dibenion hamdden, diogelu neu gadwraeth tirwedd neu forol. Bydd gan lawer o safleoedd ddefnydd lluosog neu anghenion rheoli penodol, fel y rheiny lle mae angen cydbwyso defnydd cynhyrchu neu hamdden a chadwraeth.

Dylech feddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau technegol mewn perthynas â gwella'r cydbwysedd rhwng amcanion sefydliadol, nodweddion y safle, arferion busnes cynaliadwy, yr adnoddau sydd ar gael a materion economaidd.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau diben a'r defnydd o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol
  2. nodi a gwerthuso cyfleoedd a chyfyngiadau wrth reoli'r safle
  3. nodi a gwerthuso strategaethau gwahanol wrth reoli safleoedd
  4. cael cyngor arbenigol lle bo angen
  5. creu cynlluniau rheoli safle sydd yn creu cydbwysedd rhwng diben a'r defnydd o'r safle, a chyfleoedd a chyfyngiadau
  6. ystyried unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau sydd wedi'u sefydlu sydd yn berthnasol i'r safle
  7. gweithio gyda chydweithwyr a phartïon â diddordeb perthnasol
  8. cadarnhau bod y cynlluniau'n cynnwys digon o wybodaeth er mwyn gallu rheoli'r safle yn effeithiol
  9. cadarnhau bod polisïau a gweithdrefnau wedi'u sefydlu i reoli'r safle
  10. nodi'r adnoddau sydd eu hangen i reoli'r safle

  11. creu manylebau ar gyfer gweithgareddau rheoli safle

  12. nodi trefniadau ar gyfer monitro effeithiolrwydd rheoli'r safle
  13. cyflwyno a chyfathrebu'r cynlluniau a'r manylebau rheoli'r safle i'r rheiny y mae angen eu hysbysu

  14. cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei gynnal a bod gweithdrefnau wedi'u sefydlu i ddiogelu iechyd, diogelwch a diogeledd y safle, y rheiny sydd yn gweithio ar y safle a defnyddwyr eraill y safle

  15. rheoli gweithgareddau ar y safle a chadarnhau eu bod yn cael eu gwneud yn unol â chynlluniau a manylebau rheoli'r safle
  16. cadarnhau bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  17. monitro a gwerthuso rheolaeth y safle, gan weithredu a gwneud newidiadau i'r cynlluniau lle bo angen
  18. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o amcanion a chanlyniadau y gallai cynlluniau rheoli'r safle fod wedi'u dylunio i'w bodloni a'u paramedrau
  2. diben a'r defnydd o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol a sut i gydbwyso gofynion cystadleuol a allai ddigwydd oherwydd y defnydd o'r safle
  3. y cyfleoedd a'r cyfyngiadau i'w hystyried wrth reoli'r safle
  4. y strategaethau gwahanol ar gyfer rheoli safle
  5. pryd a ble i gael cyngor arbenigol
  6. sut i ffurfio cynlluniau sy'n bodloni'r amcanion ar gyfer rheoli'r safle, gan ystyried y cyfleoedd a'r cyfyngiadau
  7. goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd ar waith ar y safle
  8. pwysigrwydd gweithio gyda chydweithwyr a phartïon â diddordeb a'r dulliau cyfathrebu sy'n debygol o hybu dealltwriaeth
  9. y wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn y cynlluniau i alluogi'r safle i gael ei reoli'n effeithiol
  10. y polisïau a'r gweithdrefnau y mae angen iddynt fod wedi'u sefydlu i reoli'r safle
  11. sut i nodi a dynodi gofynion adnoddau

  12. sut i ddatblygu manylebau i fodloni amcanion y cynllun

  13. y ffyrdd gwahanol o fonitro effeithiolrwydd rheoli safle
  14. y ffyrdd o gyflwyno cynlluniau rheoli safle a'u manylebau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig
  15. sut i reoli'r safle a sicrhau bod yr amcanion yn cael eu bodloni
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  17. pwysigrwydd monitro a gwerthuso rheolaeth y safle ac adolygu a diwygio'r cynllun rheoli safle i sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cyflawni
  18. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod

Partïon â diddordeb:

  • y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
  • y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y safle

Cyfleoedd a chyfyngiadau:

  • dynodiadau safle
  • adeiladau rhestredig
  • asedau treftadaeth

  • mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy

  • bioamrywiaeth, cynefinoedd a rhywogaethau
  • presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol nad ydynt yn gynhenid

  • cytundebau amgylcheddol wedi'u hariannu gan grant

  • defnydd cyfredol neu flaenorol o'r safle

  • gweithgareddau eraill yn yr ardal

  • ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg)
  • cyfalaf naturiol

  • cynaliadwyedd

  • lleihau carbon
  • newid hinsawdd
  • perygl o lifogydd
  • gwerth natur
  • amgylcheddol
  • ecolegol
  • cymunedau isadeiledd gwyrdd

  • creu lleoedd

  • ymwelwyr
  • isadeiledd safle
  • mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
  • deddfwriaeth
  • polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang
  • polisïau sefydliadol
  • ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, esthetig ac economaidd
  • iechyd a lles
  • cost gweithredu
  • adnoddau gofynnol
  • grantiau, cymorthdaliadau neu ffynonellau cyllid eraill

Gallai polisïau a gweithdrefnau gynnwys:

  • diogeledd
  • iechyd a diogelwch
  • bioddiogelwch
  • ailgylchu a gwaredu gwastraff
  • systemau cyfathrebu

Gallai adnoddau gynnwys:

  • cyfleusterau
  • gwasanaethau
  • cyflenwadau
  • cyfarpar
  • staffio

Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:

  • Parc Cenedlaethol
  • Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol
  • Parth Cadwraeth Morol
  • Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
  • Safle Archaeolegol
  • Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
  • Parthau Diogelu Dŵr Yfed
  • Heneb Gofrestredig (SM)
  • Adeilad Rhestredig (LB)
  • Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
  • Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
  • Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
  • Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
  • Ardal hyfforddi'r fyddin

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS42

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Rheolwr Ystadau, Rheolwyr Parciau, Rheolwr Amgylcheddol, Rheolwyr Cynhyrchu, Rheolwr Eiddo, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Pennaeth Amgylchedd, Prif Arddwyr a Rolau Rheoli Garddwriaethol eraill

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

rheoli; amgylcheddol; safleoedd; cynlluniau