Cynllunio a rheoli datblygiad safleoedd yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli datblygiad safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Gellir datblygu safleoedd am ystod eang o resymau fel gweithgareddau masnachol, dibenion hamdden, diogelu neu gadwraeth tirwedd neu forol.
Dylech feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau sydd yn effeithio ar ddatblygiad safle, yn arbennig mewn perthynas â'r ystod eang o bolisïau, deddfwriaeth, rheoliadau a dynodiadau sydd yn effeithio ar y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio a rheoli datblygiad safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau'r pwrpas a'r diben a fwriadwyd ar gyfer y safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol
- nodi a gwerthuso cyfleoedd a chyfyngiadau wrth gynllunio datblygiad y safle
- asesu'r risg a allai ddigwydd wrth ddatblygu'r safle
- cael cyngor arbenigol pan fo angen
- creu cynlluniau datblygu sydd yn creu cydbwysedd rhwng y pwrpas a'r diben a fwriadwyd ar gyfer y safle, a'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau
- nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd wedi'u sefydlu a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol
- cyfathrebu gyda'r partïon â diddordeb perthnasol yn ymwneud â'r gwaith a gynlluniwyd
- cadarnhau bod y cynlluniau yn cynnwys trefniadau ar gyfer mynediad i'r safle, diogeledd, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch, gwaredu gwastraff, systemau cyfathrebu ac unrhyw ofynion eraill
- cadarnhau bod cyfleusterau, gwasanaethau, cyflenwadau, cyfarpar, staffio ac unrhyw adnoddau eraill sydd eu hangen ar gael ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith yn llwyddiannus
- creu manylebau ar gyfer y gwaith gofynnol
- cyflwyno a chyfathrebu cynlluniau datblygu a manylebau i'r rheiny y mae angen eu hysbysu
- cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei gynnal a bod gweithdrefnau ar waith i ddiogelu iechyd a diogelwch y rheiny sydd yn gwneud y gwaith a defnyddwyr eraill y safle
- rheoli datblygiad y safle, gan weithredu a gwneud newidiadau i'r cynllun lle bo angen
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
- cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y pwrpas a'r diben a fwriadwyd ar gyfer y safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol a'r effaith y gallai'r datblygiad ei gael ar yr amgylchedd cyfagos
- y cyfleoedd a'r cyfyngiadau i'w hystyried wrth gynllunio datblygiad y safle
- pwysigrwydd asesu'r risg a allai ddigwydd wrth ddatblygu'r safle
- sut i gydbwyso gofynion cystadleuol a allai ddigwydd oherwydd y defnydd o'r safle
- sut a ble i gael cyngor ac arweiniad arbenigol
- sut i ffurfio cynlluniau sy'n bodloni'r amcanion ar gyfer datblygu'r safle, gan ystyried y cyfleoedd a'r cyfyngiadau
- goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd wedi'u sefydlu ar y safle
- yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd neu drwyddedau a sut i gael y rhain
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a'r dulliau cyfathrebu sy'n debygol o hybu dealltwriaeth
- sut i gynllunio trefniadau ar gyfer mynediad i'r safle, diogeledd, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch, gwaredu gwastraff, systemau cyfathrebu ac unrhyw ofynion eraill
- sut i bennu'r cyfleusterau, gwasanaethau, cyfarpar, staffio ac adnoddau eraill sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu'r cynllun a sut i sicrhau eu bod ar gael pan a lle bydd eu hangen
- pwysigrwydd creu cynlluniau a manylebau gwaith a'r fformat sy'n ofynnol ar gyfer y rhain
- sut i gyflwyno a chyfathrebu cynlluniau a manylebau datblygu i'r rheiny y mae angen eu hysbysu
- sut i reoli datblygiad y safle a monitro bod yr amcanion yn cael eu bodloni
- y materion a allai godi yn ystod y gwaith datblygu a'r camau i'w cymryd
- pwysigrwydd adolygu a diwygio'r cynllun datblygu i sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cyflawni
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Partïon â diddordeb:
- y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
- y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y safle
Cyfleoedd a chyfyngiadau:
- dynodiadau safle
- adeiladau rhestredig
- asedau treftadaeth
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- bioamrywiaeth, cynefinoedd a rhywogaethau
- presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol nad ydynt yn gynhenid
cytundebau amgylcheddol wedi'u hariannu gan grant
defnydd cyfredol neu flaenorol o'r safle
- gweithgareddau eraill yn yr ardal
- ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg)
- cyfalaf naturiol
- cynaliadwyedd
- lleihau carbon
- newid hinsawdd
- perygl o lifogydd
- gwerth natur
- amgylcheddol
- ecolegol
- cymunedau isadeiledd gwyrdd
- creu lleoedd
- ymwelwyr
- isadeiledd safle
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- deddfwriaeth
- polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang
- polisïau sefydliadol
- ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, esthetig ac economaidd
- iechyd a lles
- cost gweithredu
- adnoddau gofynnol
- grantiau, cymorthdaliadau neu ffynonellau cyllid eraill
Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:
- Parc Cenedlaethol
- Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol
- Parth Cadwraeth Morol
- Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
- Safle Archaeolegol
- Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
- Parthau Diogelu Dŵr Yfed
- Heneb Gofrestredig (SM)
- Adeilad Rhestredig (LB)
- Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
- Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
- Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
Ardal hyfforddi'r fyddin