Gwerthuso opsiynau ar gyfer defnyddio safleoedd yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gwerthuso opsiynau ar gyfer defnyddio safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Gellir defnyddio safleoedd ar gyfer ystod eang o ddibenion fel gweithgareddau masnachol, defnydd hamdden, gwarchod neu gadwraeth tirwedd neu forol.
Dylech feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau sy'n effeithio ar y defnydd o'r safle, yn arbennig mewn perthynas â'r ystod eang o bolisïau, â'r ddeddfwriaeth, rheoliadau a dynodiadau sy'n effeithio ar y sectorau diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am werthuso'r opsiynau ar gyfer defnyddio'r safleoedd yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cyfleoedd a chyfyngiadau'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol
ymgynghori â phartïon â diddordeb i ddeall eu gofynion
gwerthuso'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau a'u rhyng-berthynas
- nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd wedi'u sefydlu ac ystyried eu goblygiadau o ran defnyddio'r safle
- gwerthuso'r ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer defnyddio'r safle er mwyn pennu'r opsiwn dewisol
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
asesu bod yr opsiwn dewisol yn ymarferol ac yn hyfyw, a'i fod yn creu'r cydbwysedd gorau rhwng a'r gofynion cystadleuol
cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb trwy gydol y broses a datrys unrhyw wrthdaro posibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr opsiynau ar gyfer defnyddio'r safle a'r goblygiadau i'r amgylchedd ac iechyd a lles pobl, fflora a ffawna
- y cyfleoedd a'r cyfyngiadau fydd yn effeithio ar y defnydd o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol a'r dulliau ar gyfer eu gwerthuso
- y ffactorau gwahanol y mae angen eu hystyried wrth werthuso'r ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer y safle
- goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd ar waith i'r defnydd o'r safle
- pwy yw'r partïon â diddordeb a phwysigrwydd parhau i gyfathrebu â nhw
- y prosesau ar gyfer gwerthuso tystiolaeth a gyflwynir gan bartïon â diddordeb
- pryd a ble i gael cyngor ac arweiniad arbenigol
- sut i gydbwyso'r tensiynau sylfaenol yn ymwneud â'r defnydd o'r safle a'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer integreiddio defnydd
- sut i asesu dichonoldeb a hyfywedd yr opsiynau ar gyfer defnyddio'r safle
- y ffyrdd y gellir datrys gwrthdaro rhwng partïon â diddordeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Partïon â diddordeb:
- y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
- y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y safle
Cyfleoedd a chyfyngiadau:
- dynodiadau safle
- adeiladau rhestredig
- asedau treftadaeth
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- bioamrywiaeth, cynefinoedd a rhywogaethau
- presenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu neu ymledol nad ydynt yn gynhenid
- cytundebau amgylcheddol wedi'u hariannu gan grant
- defnydd cyfredol neu flaenorol o'r safle
- gweithgareddau eraill yn yr ardal
- ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg)
- cyfalaf naturiol
- cynaliadwyedd
- lleihau carbon
- newid hinsawdd
- perygl o lifogydd
gwerthu natur
amgylcheddol
- ecolegol
- cymunedau isadeiledd gwyrdd
- creu lleoedd
- ymwelwyr
- isadeiledd safle
- mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy
- deddfwriaeth
- polisïau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang
- polisïau sefydliadol
- ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, aesthetig ac economaidd
- iechyd a lles
- cost gweithredu
- adnoddau gofynnol
- grantiau, cymorthdaliadau neu ffynonellau cyllid eraill
Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys*:*
- Parc Cenedlaethol
- Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol
- Parth Cadwraeth Morol
- Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
- Safle Archaeolegol
- Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
- Parthau Diogelu Dŵr Yfed
Heneb Gofrestredig (SM)
Adeilad Rhestredig (LB)
- Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
- Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
- Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
- Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
- Ardal hyfforddi'r fyddin