Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cwmpasu sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith a gweithio’n effeithiol gyda phobl eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu’n glir, cydweithredu ag eraill a helpu i wella ffyrdd o weithio gyda’ch gilydd.
Gallai hyn fod gyda’ch cydweithwyr, goruchwylwyr neu reolwyr, neu bobl sy’n allanol i’ch tîm, eich adran neu’ch sefydliad, gan gynnwys cyflenwyr a chwsmeriaid. Gall gynnwys gweithio gyda gwirfoddolwyr, hyfforddeion, pobl ar secondiad neu bobl ar brofiad gwaith. Gallai gynnwys gweithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, pobl ag anableddau neu broblemau iechyd neu bobl y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i’ch iaith gyntaf chi.
Mae’r safon hon yn addas i bawb sydd angen sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith fel rhan o’u rôl waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch eich hun a’r bobl rydych chi’n eu cynrychioli
- nodi pobl o fewn y berthynas waith
- bod yn ymwybodol o rôl, cyfrifoldebau a chyfyngiadau’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
- meithrin perthnasoedd sy’n ategu eich gwaith
- sefydlu ffyrdd o weithio a chyfathrebu
- cyfathrebu mewn ffordd sy’n cefnogi perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ac yn hwyluso dealltwriaeth
- bod yn ymwybodol o negeseuon cyfathrebu dieiriau
- addasu eich cyfathrebu fel y gall yr amrywiol bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ei ddeall
- cytuno ar gamau gweithredu o gyfarfodydd, a’u cofnodi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal cyfrinachedd ac amddiffyn hawliau eiddo deallusol
- cydweithredu ag eraill i gyflawni canlyniadau, gan addasu eich rôl a’ch ymddygiad yn unol â hynny
- derbyn y bydd gan bobl eraill safbwyntiau a disgwyliadau gwahanol i chi a’u parchu
- trin pobl fel unigolion ac nid yn ôl disgwyliadau neu stereoteipiau
- delio’n rhagweithiol â phethau sy’n mynd o le yn y berthynas
- gwerthuso eich cyfraniad at y berthynas waith, pa mor dda y gwnaethoch chi gydweithredu ag eraill a sut gallech chi wella yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymddygiad proffesiynol priodol wrth sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith
- y ffyrdd y gallwch gyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch eich hun a’r bobl rydych chi’n eu cynrychioli
- y rhesymau pam mae perthnasoedd gwaith yn bwysig a sut gellir eu cynnal a’u gwella
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol o ran cydraddoldeb a nodweddion gwarchodedig
- pwysigrwydd sefydlu rolau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
- sut mae dynameg tîm yn effeithio ar ymddygiadau, gan gynnwys gwerthoedd diwylliannol a daearyddol
- cyfyngiadau eich cyfrifoldeb a’ch awdurdod
- y rhesymau pam mae cyfathrebu effeithiol yn bwysig
- sut i bennu’r dulliau cyfathrebu sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i’r pwnc
- y ffyrdd y gall fod angen addasu cyfathrebu at ddefnydd mewnol ac allanol
- yr heriau wrth gyfathrebu â phobl y mae eu hiaith, eu tafodiaith neu eu ffordd o siarad yn wahanol i chi, a sut gellir goresgyn y rhain
- ffyrdd o leihau camddealltwriaeth a gwella cyfathrebu
- pwysigrwydd cynnal sgiliau gwrando da
- sut gall eich defnydd o gyfathrebu dieiriau gael ei ddehongli gan bobl eraill a sut gall eu defnydd nhw o gyfathrebu dieiriau effeithio ar eich amgyffredion chi ohonyn nhw
- pwysigrwydd peidio â defnyddio datganiadau dirmygus mewn sefyllfa waith
- pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd a gofynion o ran eiddo deallusol
- sut i reoli gwahaniaethau neu broblemau gyda pherthnasoedd gwaith a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer datrys gwahaniaethau ac uwchgyfeirio problemau, pan fydd angen
- pwysigrwydd gwerthuso eich cyfraniad at berthnasoedd gwaith a sut gellir gwneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anabledd – defnyddir y term i gyfeirio at weithrediad unigol, gan gynnwys amhariad corfforol, amhariad synhwyraidd, amhariad gwybyddol, amhariad deallusol, salwch meddwl, ac amrywiol fathau o glefyd cronig.
Gallai dulliau cyfathrebu gynnwys:
- wyneb yn wyneb
- dros y ffôn
- cyswllt fideo
- neges ysgrifenedig
- neges lafar
- neges electronig
- e-bost
- cyfryngau cymdeithasol
- apiau
- gohebiaeth ysgrifenedig ffurfiol
Cyfathrebu dieiriau – iaith y corff, goslef y llais, ymddygiad
Nodweddion gwarchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Ffyrdd o leihau camddealltwriaeth a gwella cyfathrebu – er enghraifft, cymryd amser i wrando’n fanwl, gwirio’ch dealltwriaeth, dysgu’r confensiynau ar gyfer cyflwyniadau a chyfarchion, defnyddio ystumiau, osgoi idiomau, esbonio acronymau, defnyddio lluniau a diagramau, dysgu ychydig o ymadroddion yn iaith y person arall.