Cynnal asesiadau safle yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal asesiadau safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol. Mae'n cynnwys casglu, cwestiynu a dadansoddi data. Byddwch yn gweithio yn unol â dyluniad a chynllun arolwg.
Gall fod angen asesiadau safle am ystod eang o resymau, fel helpu i bennu sut dylid defnyddio a rheoli'r safle. Bydd y rhan fwyaf o asesiadau yn cynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.
Mae'n rhaid i chi sicrhau bod gennych y caniatâd, cydsyniadau a'r trwyddedau gofynnol cyn cynnal asesiadau. Gall caniatâd ymwneud â mynediad i safleoedd neu mynediad at wybodaeth. Gall fod angen cydsyniadau neu drwyddedau gan y rheoliadau lleol perthnasol neu ddeddfwriaeth genedlaethol, er enghraifft i weithio gyda rhywogaethau wedi'u diogelu.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb am gynnal asesiadau safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion yr asesiad o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol a'r wybodaeth y mae'n ceisio ei chreu
- egluro eich rôl a'ch cyfrifoldebau chi yn y broses asesu a'ch perthynas ag eraill sydd yn gysylltiedig
- cadarnhau eich bod wedi cael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau gofynnol
- cynnal yr asesiad o'r safle gan ddefnyddio y dulliau sydd yn cyd-fynd â'r manylebau a ddarparwyd ac sydd yn berthnasol i'r ffynonellau data a nodwyd
- casglu data gan ddefnyddio'r fethodoleg gywir, wrth asesu safle
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- gofalu nad yw effaith eich gwaith a mynediad yn cael effaith niweidiol ar gyflwr safle'r arolwg
- adfer y safle i'r cyflwr gofynnol, sydd yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos
- cadarnhau bod y data a gasglwyd yn ddilys ac yn ddibynadwy
- cadarnhau bod digon o ddata cyn dechrau'r dadansoddiad
- cadarnhau'r dull dadansoddi i'w ddefnyddio
- os yw'r dadansoddiad o'r data yn datgelu problemau o ran digonoldeb, dibynadwyedd neu ddilysrwydd, gweithredu i unioni hyn
- dadansoddi a chofnodi canfyddiadau ar y fformat gofynnol, yn unol â manylebau'r asesiad
- rhoi dehongliadau dilys y gellir eu cyfiawnhau am y safle yn seiliedig ar y data a gasglwyd a'i ddadansoddiad
- cyflwyno gwybodaeth am y safle mewn ffordd sydd yn bodloni gofynion y gynulleidfa a'u defnydd o'r wybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, cwmpas ac amcanion yr asesiad o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol a'r wybodaeth y mae'n ceisio ei chreu
- goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau safle
- pwysigrwydd cael caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau perthnasol
- y dulliau gwahanol o gasglu data sydd ar gael ar gyfer cynnal asesiadau safle, ac egwyddorion eu defnydd
- pam mae dulliau gwahanol yn cael eu defnyddio ar adegau gwahanol ac mewn safleoedd gwahanol a pham dylid eu rhoi ar waith fel y nodir yn nyluniad a chynllun yr arolwg
- sut i werthuso dilysrwydd a dibynadwyedd data wrth gynnal asesiad safle
- sut dylid cofnodi data sydd yn cael ei gasglu
- ffynonellau gwallau a bias wrth gasglu data
- sut i amcangyfrif digonoldeb data wrth asesu safle
- y ffyrdd y gallai cynnal asesiadau safle effeithio ar y safle ei hun a sut i leihau'r rhain
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y dulliau gwahanol o ddadansoddi data ansoddol a meintiol a'u manteision a'u hanfanteision perthynol
- sut i ddefnyddio'r dulliau dadansoddi data sy'n ofynnol gan y manylebau
y fformatiau ar gyfer cyflwyno'r data wedi'i ddadansoddi a sut i'w defnyddio'n effeithiol
y camau y dylid eu cymryd os oes probemau gyda digonoldeb, dibynadwyedd neu ddilysrwydd data
- sut i gyfiawnhau eich dehongliad o'r data gan ddefnyddio dadl resymegol a thystiolaeth ategol
- y dulliau o gyflwyno'r canlyniadau a'r canfyddiadau sy'n bodloni gofynion y gynulleidfa a'u defnydd o'r wybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai y dulliau casglu data gynnwys rhai: ysgrifenedig, llafar, sain, electronig, gweledol.
Gallai y dulliau dadansoddi data gynnwys: cyfrifiadau mathemategol, defnydd o fetrigau bioamrywiaeth, defnydd o fodelu, defnydd o feddalwedd gymhwyso.
Cwmpas yr asesiad: yn cynnwys ffactorau cyfreithiol, amgylcheddol, ecolegol, hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol, aesthetig ac economaidd.
Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:
- Parc Cenedlaethol
- Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol
- Parth Cadwraeth Morol
- Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
- Safle Archaeolegol
- Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
- Parthau Diogelu Dŵr Yfed
- Heneb Gofrestredig (SM)
- Adeilad Rhestredig (LB)
- Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
- Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
- Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
- Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
- Ardal hyfforddi'r fyddin
Ffynonellau data:
- sylfaenol
- eilaidd
Gallai mathau o asesiad gynnwys:
Asesu'r Effaith ar yr Amgylchedd (EIA)
Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)
Arfarnu Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)
- Arolwg amgylchedd ffisegol (anfiotig)
- Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA)
- Asesu cyflwr y cynefin
- Asesiad o'r Effaith Ecolegol (EcIA)
- Asesiadau Nodweddion Tirwedd/Morlun
Mathau o ddata:
- meintiol
- ansoddol