Cynllunio a rheoli asesiadau safle yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol

URN: LANCS38
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli asesiadau safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar y math o asesiad i gael ei gynnal, gosod paramedrau'r asesiad, pennu y dulliau a systemau effeithiol ar gyfer casglu data, dyrannu gwaith, monitro'r casglu, cwestiynu a dadansoddi data a gwerthuso'r data i greu a chyflwyno canlyniad terfynol yr asesiad.

Gall fod angen asesiadau safle ar gyfer ystod eang o resymau, fel helpu i bennu sut dylid defnyddio a rheoli'r safle. Bydd y rhan fwyaf o asesiadau yn cynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoli asesiadau safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion asesiad o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol

  2. pennu'r math/au o asesiad sydd ei angen a'r amser ar gyfer ei gwblhau

  3. nodi ffynonellau gwybodaeth posibl a'r data presennol sy'n berthnasol i'r safle
  4. cynnal astudiaethau rhagarweiniol i nodi'r ystod o faterion y mae angen eu hystyried ar gyfer asesu'r safle yn effeithiol, fel cyfyngiadau neu ddynodiadau safle
  5. cadarnhau bod y caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol yn eu lle ar gyfer asesu'r safle
  6. nodi y dulliau casglu data sydd yn galluogi'r asesiad o'r safle i gael ei gynnal gan niweidio neu amharu cyn lleied â phosibl ar y safle
  7. dewis fformatiau a systemau addas ar gyfer cipio a storio data, sydd yn ei alluogi i gael ei gasglu mewn ffordd ddilys a dibynadwy ac ar ffurf sydd yn gallu cael ei ddadansoddi ar ôl hynny
  8. pennu y dulliau dadansoddi data sydd yn galluogi casgliadau dilys a dibynadwy i gael eu ffurfio
  9. cadarnhau'r fformat ar gyfer cyflwyno canlyniadau a chasgliadau
  10. nodi a chynllunio gofynion adnoddau i gynnal yr asesiad o'r safle yn cynnwys arolygwyr, cyfarpar a deunyddiau
  11. datblygu cynllun a manylebau ar gyfer yr asesiad o'r safle yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol
  12. rhoi'r holl fanylion sydd eu hangen ar y rheiny sy'n gyfrifol am gasglu a dadansoddi data i'w galluogi i gwblhau eu gwaith, yn cynnwys trefniadau mynediad i'r safle
  13. rheoli'r asesiad o'r safle yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod wedi cael ei wneud yn gywir a'i fod yn creu canlyniadau dilys a dibynadwy

  14. parhau i gyfathrebu gyda phartïon â diddordeb

  15. sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  16. sicrhau nad yw'r asesiad o'r safle yn cael effaith niweidiol ar gyflwr safle'r arolwg a bod y safle'n cael ei adfer i'r cyflwr gofynnol sydd yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos
  17. cadarnhau bod data'r arolwg yn cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio'r holl wybodaeth berthnasol a chyfredol sydd ar gael
  18. gwerthuso canlyniadau casglu a dadansoddi data i gadarnhau eu bod yn ddilys ac yn ddibynadwy a bod digon o wybodaeth wedi cael ei chreu
  19. rheoli'r gwaith o greu canlyniadau a chasgliadau cywir, di-duedd
  20. cyflwyno canlyniadau'r asesiad o'r safle mewn ffordd sydd yn galluogi'r wybodaeth i gael ei defnyddio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben, cwmpas ac amcanion yr asesiad o'r safle yn y sector diwydiannau'r tir ac amgylcheddol
  2. y mathau gwahanol o asesiadau y gellir eu cynnal
  3. paramedrau'r asesiad o'r safle, yn cynnwys cyfyngiadau amser ac unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau sydd ar waith ar y safle
  4. yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau ar gyfer gweithgareddau asesu'r safle a sut gellir cael gafael ar y rhain
  5. y ffynonellau data amrywiol a'r dulliau o gasglu data sydd ar gael a sut i bennu'r rheiny fyddai fwyaf perthnasol ar gyfer yr asesiad o'r safle
  6. diben cynnal astudiaethau rhagarweiniol neu ddichonoldeb
  7. y gwahaniaeth rhwng ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd a sut gallai'r ffynhonnell effeithio ar ddilysrwydd a dibynadwyedd
  8. sut i ddewis fformatiau a systemau ar gyfer cipio a storio gwybodaeth er mwyn gallu ei defnyddio ar gyfer dadansoddiadau dilynol
  9. sut i greu cynllun a manylebau sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol i alluogi'r asesiad o'r safle i gael ei wneud
  10. sut i wella'r defnydd o adnoddau ar gyfer cynllunio asesiadau safle, gan ystyried cymhlethrwydd y dasg mewn llaw, yr adnoddau sydd ar gael (yn cynnwys pobl, cyfarpar a deunyddiau), yr amser o'r flwyddyn ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill
  11. y dulliau effeithiol o baratoi a briffio'r rheiny sy'n gyfrifol am gasglu a dadansoddi data
  12. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  13. y ffyrdd y gallai cynnal asesiadau safle effeithio ar y safle ei hun a sut i leihau'r rhain
  14. sut i reoli'r asesiad o'r safle er mwyn sicrhau bod data yn ddigonol, yn ddilys ac yn ddibynadwy
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a'r ffordd orau o wneud hyn

  16. ffynonellau posibl gwallau a bias

  17. y ffyrdd ansoddol a meintiol o ddadansoddi data fydd yn darparu'r wybodaeth ofynnol
  18. y camau posibl i'w cymryd os oes problemau wrth gasglu neu ddadansoddi data
  19. y dulliau o gyflwyno gwybodaeth sy'n bodloni gofynion y gynulleidfa a'r ffordd y byddant yn defnyddio'r wybodaeth
  20. y cyfrifoldebau moesol a moesegol ar gyfer hysbysu'r sefydliad ynghylch unrhyw benderfyniadau a allai gael effaith niweidiol ar y canlyniad
  21. y ddeddfwriaeth berthnasol, polisïau lleol, rhanbarthol a chenedla

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai y dulliau casglu data gynnwys rhai: ysgrifenedig, llafar, sain, electronig, gweledol.

Gallai y dulliau dadansoddi data gynnwys: cyfrifiadau mathemategol, defnydd o fetrigau bioamrywiaeth, defnydd o fodelu, defnydd o feddalwedd gymhwyso.

Partïon â diddordeb:

  • y rheiny sydd yn uniongyrchol gysylltiedig
  • y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y safle, neu â diddordeb ynddo

Cwmpas yr asesiad: yn cynnwys ffactorau cyfreithiol, amgylcheddol, ecolegol, hanesyddol, cymdeithasol, diwylliannol, aesthetig ac economaidd.

Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:

  • Parc Cenedlaethol
  • Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol
  • Parth Cadwraeth Morol
  • Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
  • Safle Archaeolegol

  • Parth Perygl Nitrogen (NVZ)

  • Parthau Diogelu Dŵr Yfed
  • Heneb Gofrestredig (SM)
  • Adeilad Rhestredig (LB)
  • Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
  • Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
  • Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
  • Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
  • Ardal hyfforddi'r fyddin

Ffynonellau data:

  • sylfaenol

  • eilaidd

Gallai mathau o asesiad gynnwys:

  • Asesu'r Effaith ar yr Amgylchedd (EIA)
  • Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)
  • Arfarnu Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)
  • Arolwg amgylchedd ffisegol (anfiotig)
  • Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA)
  • Asesu cyflwr y cynefin
  • Asesiad o'r Effaith Ecolegol (EcIA)
  • Asesiadau Nodweddion Tirwedd/Morlun

Mathau o ddata:

  • meintiol
  • ansoddol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS38

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Rheolwr Ystadau, Ecolegwyr, Rheolwyr Cynhyrchu, Rheolwr Eiddo, Pennaeth Amgylchedd, Rhelwr Parciau; , Prif Arddwyr a Rolau Rheoli Garddwriaethol eraill

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

amgylchedd; safle; arolwg; asesiad; cynllun; rheoli