Cynllunio a goruchwylio gwaith i greu, adfer neu reoli cynefinoedd

URN: LANCS37
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftwyr a Thyddynwyr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a goruchwylio'r gwaith sy'n ofynnol i greu, adfer neu reoli cynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys nodi'r gwaith sy'n ofynnol a datblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer gwneud y gwaith. Mae hyn yn cynnwys dewis a briffio gweithlu addas a monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gwaith yn bodloni'r amcanion.

Mae'r safon yn berthnasol i bob math o gynefinoedd ac mae'n cynnwys yr ystod lawn o dechnegau creu, adfer, gwella a rheoli perthnasol.

Mae disgwyl i chi gynllunio'r gweithgareddau hyn yn seiliedig ar reoli safle a chynlluniau eraill e.e. Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth. Mae'n hanfodol eich bod yn deall nodweddion y cynefin yr ydych yn gweithio ynddo ac effaith eich gwaith arno.

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â chaniatâd a thrwyddedau perthnasol ac ar yr adeg gywir o'r flwyddyn. Gallai caniatâd a thrwyddedau ymwneud â gwaith ar safleoedd dynodedig (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gwarchodfeydd natur, ardaloedd cadwraeth ac ati), mathau penodol o waith (torri coed i lawr, ac ati) neu i bresenoldeb rhywogaethau wedi'u diogelu yn y safle hwnnw.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am gynllunio a goruchwylio creu, adfer neu reoli cynefinoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a dehongli'r wybodaeth berthnasol i helpu i gynllunio'r gwaith o greu, adfer neu reoli cynefinoedd
  2. gwneud ymchwil neu gynnal arolygon pellach, os oes angen gwybodaeth ychwanegol
  3. cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion creu, adfer neu reoli cynefinoedd
  4. adnabod gwerth amgylcheddol y safle ac ystyried hyn wrth gynllunio

  5. ystyried y defnydd o'r safle ac ystyried hyn wrth gynllunio

  6. nodi'r adeg orau i wneud y gwaith ac ystyried hyn wrth gynllunio
  7. nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol sydd ar waith yn y safle a chadarnhau bod y caniatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol wedi'u sefydlu er mwyn gallu gwneud y gwaith
  8. cyfathrebu gyda'r partïon perthnasol â diddordeb yn ymwneud â'r gwaith sydd wedi'i gynllunio
  9. dewis y dulliau creu, adfer neu reoli cynefin a nodi'r adnoddau sy'n ofynnol i gyflawni'r amcanion
  10. cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei wneud a bod gweithdrefnau wedi'u sefydlu i ddiogelu iechyd a diogelwch y rheiny sydd yn gwneud y gwaith a defnyddwyr eraill y safle
  11. cadarnhau bod gweithdrefnau wedi'u sefydlu i ddiogelu bioddiogelwch y safle
  12. cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau'r gwaith
  13. sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion eraill

  14. pennu'r y dulliau gorau ar gyfer cludo cyfarpar, deunyddiau a'r gweithlu i'r safle ac oddi yno

  15. datblygu cynlluniau gwaith a manylebau ar gyfer y gwaith ar fformat addas

  16. briffio'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith a darparu'r holl fanylion angenrheidiol i'w galluogi i gwblhau eu gwaith
  17. goruchwylio gwaith cynefin wrth iddo ddigwydd a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn unol â'r cynlluniau gwaith a'r manylebau
  18. cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  19. sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn daclus ac yn ddiogel gan roi sylw dyledus i ddefnyddwyr eraill y safle
  20. gweithredu pan fydd amgylchiadau yn awgrymu bod angen gwneud newidiadau i'r cynllun
  21. parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  22. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  23. cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer lleol
  24. sicrhau bod y safle'n cael ei adfer i'r cyflwr gofynnol, sydd yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos
  25. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwaith cynefin wrth greu amodau dymunol dros raddfeydd amser perthnasol
  26. defnyddio canlyniadau'r monitro i lywio gwaith cynefin yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffynonellau gwybodaeth gwahanol wrth sefydlu diben, cwmpas ac amcanion creu, adfer neu reoli cynefinoedd a pharatoi cynlluniau
  2. sut i gael gwybodaeth ychwanegol trwy ymchwil neu arolygon
  3. sut mae eich gwaith sydd wedi'i gynllunio yn cyd-fynd ag amcanion lleol/sefydliadol, rheolaeth safle a chynlluniau eraill fel Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth
  4. sut i adnabod gwerth amgylcheddol safleoedd a'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar gynllunio gwaith
  5. yr effaith y mae defnydd o dir fel ffermio, helwriaeth, hamdden a thwristiaeth yn ei gael ar greu, adfer neu reoli cynefinoedd a'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar gynllunio gwaith
  6. y ffactorau eraill i'w hystyried wrth gynllunio'r gwaith i gael ei wneud
  7. goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau perthnasol i safle sydd wedi'u sefydlu
  8. yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd neu drwyddedau a sut i gael y rhain
  9. egwyddorion y ffordd y mae fflora a ffawna yn byw ac yn goroesi a'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar greu, adfer a rheoli cynefinoedd
  10. pwysigrwydd cyfathrebu gyda phartïon â diddordeb a'r dulliau o gyfathrebu sy'n debygol o hybu dealltwriaeth

  11. sut i adnabod peryglon, asesu risg, a datblygu y dulliau gweithio diogel

  12. pwysigrwydd bioddiogelwch a'r gweithdrefnau bioddiogelwch gofynnol ar gyfer y safle
  13. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
  14. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio a gwaredu gwastraff
  15. egwyddorion creu, adfer a rheoli cynefinoedd
  16. sut i bennu'r adnoddau sy'n ofynnol i wneud y gwaith a sut i gadarnhau eu bod ar gael pan fo angen
  17. pwysigrwydd creu cynlluniau a manylebau gwaith ac ar ba fformat y dylid eu gwneud
  18. pwysigrwydd briffio'r gweithlu a sut i wneud hyn
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  20. pwysigrwydd goruchwylio gwaith cynefin sydd yn cael ei wneud a'r camau posibl i'w cymryd os oes problemau wrth roi'r cynllun ar waith
  21. y ddeddfwriaeth amgylcheddol, canllawiau a chodau ymarfer perthnasol
  22. achosion posibl niwed i'r cynefin a'r ffyrdd y gellir ei ddiogelu
  23. pwysigrwydd cadw cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  24. pwysigrwydd monitro tymor hwy i bennu a yw'r gwaith cynefin wedi bod yn effeithiol yn cyflawni'r canlyniad dymunol a'r dulliau gorau o wneud hyn
  25. sut i ddefnyddio'r canlyniadau monitro i helpu i gynllunio gwaith cynefin yn y dyfodol
  26. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth a phrofiadau gydag eraill i'w helpu i gynllunio a goruchwylio creu, adfer neu reoli cynefin

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwerth amgylcheddol fod yn:

  • ecolegol
  • bioamrywiaeth
  • aesthetig
  • hanesyddol
  • hamdden
  • economaidd
  • diwylliannol
  • carbon

Gallai cynefinoedd fod yn ddaearol, dŵr croyw, arfordirol neu forol yn cynnwys:

  • Arfordirol
  • Aber

  • Tir Fferm

  • Dŵr Croyw
  • Glaswelltir

  • Rhostir a gweundir

  • Morol
  • Mawndir
  • Creigiog
  • Trefol
  • Gwlyptir

  • Coetir

Gallai gwaith creu, adfer neu reoli cynefinoedd gynnwys:

  • agor canopi coetir i fyny neu goedlannu i hybu adfywiad fflora a choed coetir
  • cynlluniau dal carbon/nitrogen
  • adfer mawndir

  • plannu coed

  • rheoli i annog datblygiad planhigion bwyd ar gyfer pryfed penodol

  • gwella niferoedd ac amrywiaeth rhywogaethau cynhenid trwy ailgyflwyniadau
  • dad-ddofi

  • rheoli rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid ymledol nad ydynt yn gynhenid

  • adfer afonydd

  • rheoli/gwella/diogelu glannau
  • creu/rheoli pyllau dŵr
  • rheolaeth naturiol llifogydd
  • adfer gorlifdiroedd/gwlyptiroedd
  • rheoli erydiad
  • draeniad
  • gwaith i reoli effeithiau ymwelwyr
  • rheoli prysgwydd mewn corslwyni, glaswelltir, rhostir neu weundir
  • gwella safleoedd a chreu cynefinoedd ar safleoedd trefol neu ôl-ddiwydiannol
  • rheoli cynefinoedd morol gan wella cymunedau corsydd, gwlyptir, morwellt neu lannau afonydd trwy ailgyflwyno llystyfiant ac ailamlinellu tirweddau yn naturiol
  • gwella gwelyau cregynbysgod trwy hau cregynbysgod ifanc, creu gwarchodfeydd hwyfellod, gan gyflwyno swbstradau priodol ac ati
  • gweithio gydag awdurdodau arfordirol a morol i ddatblygu gweithgareddau treillio, diogelu'r traethlinau a gweithgareddau hamdden sydd yn gydnaws yn ecolegol
  • sefydlu creigresi artiffisial
  • defnyddio anifeiliaid pori i ddylanwadu ar lystyfiant
  • rheoli glaswelltir
  • rheoli anifeiliaid gwyllt
  • technegau rheoli addasol

Gallai gwybodaeth i helpu i gynllunio gynnwys:

  • monitro safle
  • adroddiadau sydd eisoes yn bodoli
  • casglu data
  • cynllun rheoli safle
  • Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
  • arolwg hydroleg

  • arolwg dyfnder mawn

  • arolwg cyflwr mawndir

Gallai amcanion gynnwys:

  • creu neu gynnal amodau addas ar gyfer rhywogaethau penodol
  • lleddfu effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd
  • gwella neu ddarparu cynefinoedd newydd i alluogi cysylltedd
  • creu neu gynnal cymysgedd dymunol o gynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth, mynediad a hamdden
  • gwarchod nodweddion ffisegol ac archaeolegol dymunol
  • lleihau pwysau gweithgareddau dynol ar gynefinoedd
  • hybu diogelwch safleoedd
  • adfer cronfeydd carbon daearol (adfer mawndir)

Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:

  • Parc Cenedlaethol
  • Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol
  • Parth Cadwraeth Morol
  • Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
  • Safle Archaeolegol
  • Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
  • Parthau Diogelu Dŵr Yfed
  • Heneb Gofrestredig (SM)
  • Adeilad Rhestredig (LB)
  • Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
  • Maes Brwydr Cofrestredig (RB)

  • Safleoedd wedi'u nodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)

  • Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
  • Ardal hyfforddi'r fyddin

Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle/asesiad delwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cyfreithiol

  • canllawiau arfer da

  • gofynion cwsmeriaid

  • safon gofynnol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS37

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Contractau, Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Amaethyddiaeth, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Ecolegwyr, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Rheolwr Eiddo, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

cadwraeth; cynefinoedd; sefydlu; creu; adfer; tir; morol; arfordirol; dyfrffyrdd; glaswelltir; rhostir; gweundir; rhostir; coetir; gwlyptir