Gwneud gwaith i greu, adfer neu reoli cynefinoedd

URN: LANCS36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau y gall fod eu hangen i greu, adfer neu reoli cynefinoedd. Bydd y gwaith sy’n ofynnol yn amrywio yn ôl natur y cynefin a’r canlyniad a ddymunir ar gyfer y gwaith, a rhaid iddo ystyried y defnydd o’r safle.

Mae disgwyl i chi gyflawni’r gweithgareddau hyn gan ddilyn y wybodaeth a ddarperir yng nghynllun rheoli’r safle a chynlluniau eraill e.e. Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth. Mae’n hanfodol eich bod yn deall nodweddion y cynefin rydych chi’n gweithio ynddo a’r effeithiau y bydd eich gwaith yn eu cael arno. Mae sgiliau adnabod rhywogaethau (sy’n cael sylw mewn safon ar wahân) yn bwysig hefyd, fel y mae sgiliau rheoli cynefin ymarferol.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith yn unol â chaniatâd a thrwyddedau perthnasol ac ar yr adeg gywir o'r flwyddyn. Gall caniatâd a thrwyddedau ymwneud â gwaith ar safleoedd dynodedig (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gwarchodfeydd natur, ardaloedd cadwraeth, ac ati), mathau penodol o waith (cwympo coed ac ati) neu bresenoldeb rhywogaethau gwarchodedig ar y safle hwnnw.

Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sy’n ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  5. defnyddio’r peiriannau perthnasol ar gyfer y gwaith a chymryd y camau angenrheidiol i gyfyngu ar effaith amgylcheddol peiriannau ar y safle
  6. cadarnhau bod gennych unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu drwyddedau gofynnol y mae eu hangen i gael mynediad i’r safle a gwneud y gwaith
  7. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud a chydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd eich hun
  8. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  9. cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  11. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. cynnal diogelwch a diogeledd offer, cyfarpar a deunyddiau ar y safle
  14. cynnal asesiad o’r safle a pharatoi’r safle ar gyfer y gwaith cynefin gofynnol
  15. cynnal hylendid a bioddiogelwch ar draws eich holl waith yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  16. defnyddio’r technegau cywir i greu, adfer neu reoli cynefinoedd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  17. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, rheoliadau lleol a phenodol i’r wlad, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  18. gwirio bod y gwaith a gwblhawyd yn bodloni cyfarwyddiadau a manylebau, gan gynnwys cynlluniau rheoli cynefinoedd
  19. gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  20. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus, sy’n gyson â’r ardal gyfagos
  21. rhoi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith, sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  22. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  23. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. goblygiadau unrhyw gyfyngiadau ar y safle a dynodiadau safle sydd ar waith, ac unrhyw ganiatâd, cydsyniad a thrwyddedau sy’n ofynnol i wneud y gwaith
  3. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i’r safle a mesurau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  5. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  6. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  7. sut gall deddfwriaeth neu gyfyngiadau eraill effeithio ar eich gwaith
  8. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  9. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
  10. sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau bod deunyddiau ar gael, lle bo angen, a phan fo angen
  11. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  12. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal pob cyfarpar i safon uchel
  13. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
  14. pwysigrwydd gwneud asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gweithio a sut gall y canfyddiadau effeithio ar y gwaith cynefin
  15. pwysigrwydd mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
  16. y math o gynefin a nodweddion y cynefin sy’n cael ei gynnal a’i wella
  17. sut i nodi’r rhywogaethau fflora a ffawna allweddol sydd i’w cael yn y cynefin lle mae’r gwaith yn mynd rhagddo, gan gynnwys unrhyw rywogaethau goresgynnol neu warchodedig, sut i nodi’r rhain a sut mae hyn yn effeithio ar waith creu, adfer neu reoli cynefin
  18. diben, cwmpas ac amcanion y gwaith creu, adfer neu reoli cynefin ar ansawdd y cynefin a’r dirwedd a phwysigrwydd cynlluniau rheoli cynefin
  19. yr effaith gaiff amodau amgylcheddol ar dwf llystyfiant, ansawdd y cynefin a gwerth y dirwedd, a’r amser gorau i wneud y gwaith er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion i’r cynefin a lleihau difrod amgylcheddol
  20. yr effaith y mae’r defnydd o dir, fel ffermio, gwaith ciper, hamdden a thwristiaeth, yn ei chael ar waith creu, adfer neu reoli cynefin
  21. gwerth amgylcheddol y safle, yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei chael a’r ffyrdd o allu lleihau’r effeithiau hyn
  22. achosion posibl difrod i’r cynefin a ffyrdd o allu ei amddiffyn
  23. technegau creu, adfer a rheoli cynefinoedd, gan gynnwys dulliau traddodiadol, sut i gymhwyso’r technegau hyn a ffyrdd o annog adfywio naturiol
  24. lle y gall cemegion gael eu defnyddio a deddfwriaeth sy’n berthnasol i’r defnydd ohonynt
  25. sut mae eich gwaith yn cyd-fynd â chynlluniau lleol fel Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth
  26. y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
  27. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau a ddarparwyd
  28. y problemau a all godi wrth wneud gwaith cynefin, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  29. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  30. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwerth amgylcheddol fod yn:
·        ecolegol
·        bioamrywiaeth
·        esthetig
·        hanesyddol
·        hamdden
·        economaidd
·        diwylliannol
·        carbon

Gall cynefinoedd fod yn gynefinoedd daearol, dŵr croyw, arfordirol neu forol, gan gynnwys:

  • arfordirol
  • moryd
  • tir ffermio
  • dŵr croyw
  • glaswelltir
  • rhostir a gweundir
  • gwrychoedd
  • morol
  • mawndiroedd
  • creigiog
  • trefol
  • gwlypdiroedd
  • coetiroedd

Gallai gwaith creu, adfer neu reoli cynefin gynnwys:
·        agor canopi coetir neu prysgoedio i annog fflora coetiroedd ac adfywio coed
·        cynlluniau dal carbon/nitrogen
·        adfer mawndiroedd
·        plannu coed
·        rheolaeth i annog datblygiad planhigion bwyd i bryfed penodol
·        gwella niferoedd rhywogaethau brodorol a’u hamrywiaeth trwy eu hailgyflwyno
·        dad-ddofi tir
·        rheoli rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion goresgynnol, estron
·        adfer afonydd
·        rheoli/gwella/amddiffyn glannau afon
·        creu/rheoli pylloedd
·        rheoli llifogydd yn naturiol
·        adfer gorlifdiroedd/gwlypdiroedd
·        rheoli erydiad
·        draenio
·        gweithio i reoli effeithiau ymwelwyr
·        rheoli prysg mewn gwelyau cyrs, glaswelltiroedd, rhostiroedd neu weundiroedd
·        gwella safleoedd a chreu cynefinoedd mewn safleoedd trefol neu ôl-ddiwydiannol
·        rheoli cynefinoedd morol trwy wella cymunedau corsydd, gwlypdiroedd, morwellt neu dorlannol trwy aildyfu planhigion ac ailgyfuchlinio tirweddau yn naturiol
·        gwella gwelyau pysgod cregyn trwy hadu pysgod cregyn ifanc, creu llochesi silio aeddfed, cyflwyno swbstradau priodol ac ati
·        gweithio gydag awdurdodau arfordirol a morol i ddatblygu gweithgareddau hamdden, amddiffyn y draethlin a charthu cydnaws yn ecolegol
·        sefydlu creigresi artiffisial
·        defnyddio anifeiliaid pori i drin llystyfiant
·        rheoli glaswelltiroedd
·        rheoli anifeiliaid gwyllt
·        technegau rheoli addasol

Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
·        lluniadau/cynlluniau
·        mapiau safle/asesiad delweddau o’r awyr
·        amserlenni
·        datganiadau dull
·        Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
·        cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
·        gofynion cyfreithiol
·        canllawiau arfer da
·        gofynion y cwsmer
·        safon y canlyniad sy’n ofynnol
·        cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig

Gallai amcanion gynnwys:
·        creu neu gynnal amodau addas ar gyfer rhywogaeth benodol
·        lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd
·        gwella neu ddarparu cynefinoedd newydd i alluogi cysylltedd
·        creu neu gynnal cymysgedd a ddymunir o gynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth, mynediad a hamdden
·        diogelu nodweddion ffisegol neu archaeolegol dymunol
·        lleihau pwysau gweithgarwch dynol ar gynefinoedd
·        hyrwyddo diogelwch safleoedd
·        adfer storfeydd carbon daearol (adfer mawndiroedd)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Amddiffyn rhag:
·        tyfiant cystadleuol digroeso
·        amodau amgylcheddol cyfredol
·        pobl
·        anifeiliaid
·        erydu a cholli carbon

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Gallai amodau safle ac amgylcheddol gynnwys:
·        yr hinsawdd
·        amser y flwyddyn
·        amodau’r tywydd
·        math o bridd a’i gyflwr
·        lefelau dŵr
·        cyflwr y dŵr
·        draenio
·        llethrau a lefelau
·        defnydd blaenorol o’r safle
·        strwythurau a systemau presennol (e.e. ffensys, gwrychoedd, waliau, llwybrau, adeiladau, pontydd, draeniau)
·        mynediad
·        dyfnder mawn
·        hydroleg

Gallai cyfyngiadau neu ddynodiadau safle gynnwys:
·        Parc Cenedlaethol
·        Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
·        Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
·        Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA),
·        Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
·        Gwarchodfa Natur Genedlaethol
·        Parth Cadwraeth Morol
·        Safle Treftadaeth Byd (WHS)
·        Safle archaeolegol
·        Parthau Perygl Nitradau (NVZ)
·        Parthau Diogelu Dŵr Yfed
·        Heneb gofrestredig
·        Adeilad rhestredig
·        Parciau a Gerddi Rhestredig
·        Maes Brwydr Cofrestredig
·        Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol
·        Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
Ardal hyfforddiant milwrol


Dolenni I NOS Eraill

LANEnC33 Defnyddio sgiliau adnabod rhywogaethau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

4

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS36

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Ceidwad, Amaeth

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

cadwraeth; cynefinoedd; sefydlu; creu; adfer; tir; morol; arfordirol; dyfrffyrdd; glaswelltir; gweundir; rhostir; coetir; gwlypdir; mawndiroedd