Paratoi a defnyddio offer a pheiriannau
Trosolwg
Wrth wneud eich gwaith, mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio offer a pheiriannau i wneud eu gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd gofynnol
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
dewis yr offer neu’r peiriannau cywir ar gyfer y gweithgaredd gofynnol
paratoi’r offer neu’r peiriannau trwy gynnal gwiriadau a gweithredoedd cyn eu defnyddio yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol
cadarnhau bod yr offer neu’r peiriannau yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
defnyddio offer neu beiriannau yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol
atal cemegau neu sylweddau peryglus rhag gollwng wrth baratoi a defnyddio offer a pheiriannau
prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion y sefydliad
diffodd ac ynysu offer neu beiriannau wrth gwblhau’r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
gwirio offer neu beiriannau ar ôl eu defnyddio a’u gadael yn y cyflwr cywir ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
storio offer neu beiriannau yn ddiogel ac yn gadarn
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad
dilyn canllawiau’r diwydiant a’r sefydliad i leihau niwed amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i nodi peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
sut i ddewis yr offer neu’r peiriannau cywir ar gyfer y gweithgaredd i’w gyflawni
y ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys paratoi a defnyddio offer a pheiriannau yn eich gweithle
sut i baratoi’r offer neu’r peiriannau cyn eu defnyddio a’r gwiriadau a’r gweithredoedd cyn defnyddio sy’n ofynnol
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ar gyfer gweithredu’r offer neu’r peiriannau
y prif beryglon sydd yn gysylltiedig â defnyddio’r offer a’r peiriannau yn eich gweithle
y cemegau neu sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd i atal gollyngiadau
y math o broblemau a allai ddigwydd gyda’r offer neu’r peiriannau yr ydych yn eu defnyddio, sut i’w hadnabod, a’r camau priodol i’w cymryd
pwysigrwydd cynnal gwiriadau a gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn i gadarnhau bod yr offer neu’r peiriannau yn dal yn ddiogel ac yn effeithiol
y rhesymau pam y dylid gadael yr offer neu’r peiriannau yn y cyflwr cywir ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff a chemegau neu sylweddau peryglus, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad
yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir lleihau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai offer a/neu beiriannau gynnwys:
- offer neu gyfarpar heb eu pweru (er enghraifft, offer llaw)
- offer llaw wedi ei bweru
- offer sy'n cael ei reoli gan gerddwyr wedi ei bweru
offer sefydlog
Gallai cemegau neu sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
- olew
- hylif
- nwyon
- llwch
- aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniadau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion cwsmeriaid
- cyfarwyddiadau llafar
Gallai gwiriadau a gweithredoedd cyn defnyddio gynnwys:
- gwiriadau diogelwch
- glanhau
- oelio/iro
- gwirio ac ychwanegu hylifau
- hogi
- addasu
- gwefru
* *
Gwastraff: gallai gynnwys deunyddiau peryglus a rhai nad ydynt yn beryglus
Dolenni I NOS Eraill
LANCS25 Cynnal gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio
offer a pheiriannau