Paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i baratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer.
Nid yw’r safon yn ymwneud â chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau, sy’n cael sylw yn LANCS25. Mae’n ymwneud â’r gwiriadau a’r camau gweithredu rheolaidd, dydd i ddydd, sy’n ofynnol cyn ac ar ôl eu defnyddio, sy’n sicrhau bod cyfarpar a pheiriannau’n parhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol.
DS: nid yw’r safon hon yn ymwneud â defnyddio tractorau na cherbydau pŵer.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n defnyddio cyfarpar a pheiriannau i wneud eu gwaith.
Cysylltiadau â NOS eraill:
LANCS25 Cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r ardal waith a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod yr holl hyfforddiant ac ardystiad perthnasol sy’n ofynnol i ddefnyddio’r cyfarpar neu’r peiriannau wedi’u cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis y cyfarpar neu’r peiriannau cywir ar gyfer y gweithgaredd gofynnol
- paratoi’r cyfarpar neu’r peiriannau trwy gynnal gwiriadau a gweithredoedd cyn defnyddio, yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol
- cadarnhau bod y cyfarpar neu’r peiriannau yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
- defnyddio cyfarpar neu beiriannau, yn unol â deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a manylebau perthnasol, gan sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch pobl eraill
- atal cemegion neu sylweddau peryglus rhag gollwng wrth baratoi a defnyddio cyfarpar neu beiriannau
- lle bo angen atodiadau, eu defnyddio’n ddiogel ac yn gywir yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- stopio a chau cyfarpar a pheiriannau i lawr ar ôl eu defnyddio i gynnal diogelwch, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- gwirio cyfarpar neu beiriannau ar ôl eu defnyddio a’u gadael yn y cyflwr cywir i’w defnyddio yn y dyfodol
- lle nodir diffygion a namau, sicrhau bod pob defnyddiwr yn gwybod bod y peiriant yn anniogel, dilyn gweithdrefn gwarantin i’w atal rhag cael ei ddefnyddio, cofnodi’r problemau, gyda dyddiad, a rhoi gwybod amdanynt
- cynnal diogeledd cyfarpar a pheiriannau bob amser a’u storio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r ardal waith a’r gwaith i’w gyflawni
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y gofynion cyfreithiol, y trwyddedau, yr ardystiad, y codau ymarfer, yr hyfforddiant a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer defnyddio cyfarpar a pheiriannau
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis y rhain yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw pob cyfarpar i safon uchel
- sut i baratoi cyfarpar neu beiriannau cyn eu defnyddio a’r gwiriadau a’r gweithredoedd cyn defnyddio sy’n ofynnol
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer gweithredu’r cyfarpar neu’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio
- swyddogaeth yr holl reolyddion ac offerynnau ar y cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio
- galluoedd a chyfyngiadau’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio a ffactorau a allai effeithio ar eu diogelwch a’u heffeithlonrwydd
- y cemegion neu’r sylweddau peryglus a all fod yn bresennol o ffyrdd o’u hatal rhag gollwng
- y mathau o atodiadau, lle bo angen, sy’n ddiogel i’w defnyddio gyda’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio, sut i’w ffitio’n ddiogel a sut i’w gosod a’u graddnodi
- sut i weithredu a defnyddio atodiadau perthnasol yn ddiogel
- y mathau o beryglon y gallech ddod ar eu traws wrth weithredu’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio a sut dylid delio â’r rhain
- y problemau a all ddigwydd gyda’r cyfarpar neu’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio, sut i’w nodi a’r camau i’w cymryd
- pwysigrwydd cynnal gwiriadau rheolaidd ar gyfarpar a pheiriannau, sut i nodi diffygion a namau a’r camau i’w cymryd
- sut i gau’r cyfarpar a’r peiriannau i lawr ar ôl eu defnyddio
- y gweithgareddau ar ôl defnyddio y mae angen eu cyflawni i gynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn y cyflwr cywir i’w defnyddio yn y dyfodol
- sut dylai cyfarpar a pheiriannau gael eu storio a phwysigrwydd diogeledd
- pam mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau bob amser
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi gweithrediad cyfarpar a pheiriannau, a’i adrodd, gan gynnwys cofnodi rhifau cyfresol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarpar a pheiriannau gynnwys:
· cyfarpar pŵer llaw
· cyfarpar pŵer wedi’i lywio ar droed
· cyfarpar gosodedig
Gallai cemegion neu sylweddau peryglus gynnwys:
· tanwyddau
· olewau
· hylifau
· nwyon
· llwch
· aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
· lluniadau/cynlluniau
· amserlenni
· datganiadau dull
· Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
· cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
· gofynion y cwsmer
· cyfarwyddiadau ar lafar
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Gallai gwiriadau a gweithredoedd cyn defnyddio gynnwys:
· gwiriadau diogelwch
· glanhau
· iro/seimio
· gwirio hylifau ac ychwanegu atynt
· miniogi
· addasu
· gwefru
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Dolenni I NOS Eraill
LANCS25 Cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau