Cydlynu rheoli ardaloedd wedi eu plannu

URN: LANCS34
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cydlynu rheoli ardaloedd wedi eu plannu.  Bydd hyn yn cynnwys rheoli cymunedau planhigion unwaith y maent wedi cael eu sefydlu. Gallai'r ardaloedd fod wedi cael eu creu trwy blannu neu adfywio naturiol a gallai gynnwys coetir, perllannau, parciau, tiroedd, gerddi neu gynefinoedd bywyd gwyllt.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad perthnasol yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Bydd angen gwybodaeth dechnegol arnoch, dealltwriaeth a sgiliau mewn perthynas â phlanhigion, cynefinoedd a gofynion sy'n cystadlu o ran defnydd o dir a rheolaeth.  Gallai'r rheiny sy'n gweithredu'r cynllun gynnwys llafur uniongyrchol, contractwyr neu wirfoddolwyr.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwirio'r cynlluniau a'r manylebau ar gyfer manylion y gwaith gofynnol er mwyn rheoli ardaloedd wedi eu plannu
  2. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
  3. cydlynu asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
  4. cydlynu'r gwaith o sefydlu dulliau gwaith ar gyfer rheoli ardaloedd wedi eu plannu a chadarnhau ei fod yn cael ei gyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  5. nodi a sefydlu argaeledd adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith
  6. sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel a chywir 
  7. cydlynu'r gwaith o brosesu deunydd ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arferion sefydliadol

  8. cydlynu'r gweithgareddau rheoli gofynnol ar gyfer ardaloedd wedi eu plannu a chadarnhau eu bod yn cael eu gwneud yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau

  9. monitro'r gwaith o reoli'r ardaloedd wedi eu plannu ar adegau addas i asesu cyflwr planhigion a chydymffurfio â'r cynllun
  10. cymryd camau priodol pan fydd monitro'n datgelu problemau
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion asesu risg wedi eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  13. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i nodi peryglon ac asesu risg

  2. pwysigrwydd cydlynu asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig

  3. pwysigrwydd cydlynu'r gweithgareddau rheoli gofynnol ar gyfer ardaloedd wedi eu plannu a chadarnhau bod y gweithgareddau wedi eu cwblhau yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. y mathau gwahanol o ardaloedd wedi eu plannu a'u hanghenion gwahanol ar gyfer rheoli 

  5. canlyniadau posibl rheoli ardaloedd wedi eu plannu'n wael

  6. effaith bosibl gweithgareddau rheoli ar yr ardal gyfagos a'r amgylchedd 
  7. y graddfeydd amser ar gyfer gwneud gweithgareddau rheoli gwahanol
  8. y mathau o offer sy'n ofynnol ar gyfer rheoli ardaloedd wedi eu plannu a sut i gydlynu ei ddefnydd
  9. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer gofynnol yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw'n ddiogel ac yn gywir a'i storio'n ddiogel
  10. y defnydd diogel a chywir o adnoddau wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu
  11. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
  12. cyfnodau datblygiad planhigion
  13. y dulliau rheoli y gellir eu defnyddio ar gyfer rheoli plâu, clefydau a chwyn wrth gydlynu'r gwaith o reoli ardaloedd wedi eu plannu
  14. y gofynion ar gyfer maethynnau a gwlybaniaeth a sut gellir addasu'r rhain i hybu iechyd planhigion
  15. dulliau o asesu cyflwr y pridd a statws maeth 
  16. symptomau diffyg maeth
  17. effeithiau macro a phrif ficro-faethynnau ar iechyd a thwf planhigion
  18. effeithiau llygrwyr, amodau hinsawdd a'r berthynas rhwng pridd/dŵr ar dwf planhigion
  19. egwyddorion a dulliau tocio a'i effeithiau ar dwf planhigion 
  20. egwyddorion adnewyddu planhigion
  21. dulliau monitro a gwerthuso llwyddiant rheoli planhigion
  22. problemau posibl a allai godi wrth gydlynu'r gwaith o 
  23. reoli ardaloedd wedi eu plannu a'r camau i'w cymryd
  24. terfynau eich gallu a'ch awdurdod a ble i gael cyngor

  25. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut i wneud hyn

  26. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
  27. y cofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod

A.         cydlynu’r gweithgareddau rheoli canlynol mewn ardaloedd wedi eu plannu:
(i)            tocio/brigdorri/hyfforddi
(ii)           teneuo
(iii)          clymu i mewn
(iv)          adnewyddu
(v)           tynnu
(vi)          disodli
(vii)         chwistrellu
(viii)        rheoli chwyn
(ix)          rheoli plâu
(x)           rheoli clefydau
(xi)          bwydo
(xii)         taenu
(xiii)       gwella pridd
(xiv)       strimio
(xv)        torri gwair

B.     Monitro’r canlynol tra’n rheoli ardaloedd wedi eu plannu:
(i)           ansawdd y canlyniadau
(ii)          cadw at y diben gwreiddiol
(iii)         dulliau gwaith ac ymarfer
(iv)         defnydd o adnoddau
(v)          amserlennu
(vi)         unrhyw gamau adfer
(vii)        effaith amgylcheddol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae planhigion yn cynnwys glaswellt, planhigion prennaidd, blodau, planhigion ar gyfer gwely blodau a bywlys ac ati.

Manylebau: yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS) a chanllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS34

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gofalwr Tir, Tirluniwr, Ceidwad Gwyrdd, Rheolwr Parc

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

gardd; cynnal; ardaloedd wedi eu plannu; parc; tir