Cydlynu sefydlu ardaloedd wedi eu plannu

URN: LANCS33
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cydlynu sefydlu ardaloedd wedi eu plannu.

Gallai sefydlu llystyfiant gynnwys plannu ac annog adfywio naturiol.

Gallai hyn fod i greu coetir, perllan, parc, tir, gardd neu gynefin bywyd gwyllt.

Mae’r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun, gallai mewn rhai enghreifftiau gynnwys cydlynu gwaith timau.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn cynyddu’r effaith ar yr amgylchedd naturiol a gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.

Bydd angen gwybodaeth dechnegol, dealltwriaeth a sgiliau arnoch mewn perthynas â phlanhigion, cynefinoedd a gofynion cystadleuol o ran defnydd o dir a rheolaeth. Gallai’r rheiny sydd yn gwneud y gwaith gynnwys llafur uniongyrchol, contractwyr neu wirfoddolwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio'r cynlluniau a'r manylebau am fanylion y gwaith sy'n ofynnol i sefydlu ardaloedd wedi eu plannu

  2. cydlynu'r gwaith gofynnol, gan gadarnhau ei fod yn cael ei wneud yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau

  3. cydlynu asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith

  4. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig 

  5. nodi a sefydlu argaeledd adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer sefydlu ardaloedd wedi eu plannu 
  6. sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio a'i gadw mewn cyflwr diogel a chywir 
  7. cydlynu'r gwaith o brosesu deunydd ailgylchu neu wastraff yn ofalus ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol 
  8. monitro'r gwaith o sefydlu'r ardaloedd wedi eu plannu i asesu cynnydd a sicrhau cydymffurfio â'r cynllun 
  9. gwerthuso'r gwaith o sefydlu'r ardaloedd wedi eu plannu 
  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo 
  11. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion asesu risg ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  12. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg
  2. pwysigrwydd cydlynu asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
  3. pwysigrwydd cydlynu'r gwaith gofynnol a chadarnhau bod y gweithgareddau sy'n ofynnol i sefydlu ardaloedd wedi eu plannu wedi eu cwblhau yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. y mathau o offer sy'n ofynnol ar gyfer sefydlu ardaloedd wedi eu plannu a sut i gydlynu ei ddefnydd
  5. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer gofynnol yn cael ei ddefnyddio a'u gynnal a'i gadw yn ddiogel ac yn gywir a'i sgorio'n ddiogel
  6. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
  7. y defnydd diogel a chywir o adnoddau wrth wneud y gwaith o sefydlu ardaloedd wedi eu plannu
  8. defnydd blaenorol o'r safle a sut mae hyn yn effeithio ar y gwaith
  9. mathau gwahanol o ardaloedd wedi eu plannu ac anghenion bob un ar gyfer sefydlu
  10. cyfnodau datblygiad planhigion
  11. arddulliau plannu gwahanol a sut i'w cyflawni
  12. yr amrywiaeth o blanhigion a'u hamserlenni cynnal yn y dyfodol
  13. effaith amgylcheddol sefydlu ardaloedd wedi eu plannu e.e. fflora a ffawna, draeniad
  14. dulliau o fonitro a gwerthuso sefydlu ardaloedd wedi eu plannu
  15. problemau posibl a allai godi a'r camau i'w cymryd
  16. terfynau eich gallu a'ch awdurdod eich hun a ble i gael cyngor
  17. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut i wneud hyn
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
  19. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod

A.     cydlynu’r gwaith o blannu’r canlynol wrth sefydlu ardaloedd wedi eu plannu:
(i)      gwreiddiau pêl
(ii)     gwreiddiau noeth
(iii)   wedi eu tyfu mewn cynhwysydd
(iv)   hadau
(v)    eginblanhigion
(vi)   tyweirch
(vii)  bylbiau

 B.     monitro’r canlynol wrth sefydlu ardaloedd wedi eu plannu:
(i)     ansawdd y canlyniadau
(ii)     cadw at y diben gwreiddiol
(iii)    dulliau ac arferion gweithio
(iv)    defnydd o adnoddau
(v)     amserlennu
(vi)    unrhyw gamau adfer
(vii)   effaith amgylcheddol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae planhigion yn cynnwys glaswellt, planhigion prennaidd, blodau, planhigion ar gyfer gwely blodau a bywlys ac ati.

Manylebau: yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS) a chanllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS33

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Tirluniwr, Garddwyr, Rheolwyr Parciau, Ceidwad Gwyrdd

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

gardd; ardal wedi ei phlannu; cynllun; sefydlu; parc; tir