Cynllunio a rheoli rheolaeth chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol

URN: LANCS32
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftwyr a Thyddynwyr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli mesurau rheoli ar gyfer chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol, yn cynnwys rhywogaethau ymledol, niweidiol neu wenwynig.

Mae'n cynnwys asesu'r angen am reoli, cynllunio'r mesurau rheoli, rhoi cynlluniau ar waith ac adolygu eu heffeithiolrwydd. Mae ystod o dechnegau ac offer ar gael ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol ar draws pob amgylchedd a sefyllfa (ar dir neu mewn dŵr, gwyllt neu wedi'i amaethu, agored neu gaeëdig). Gall y dulliau gynnwys ataliaeth, monitro, rheoli a dileu.

Nid yw'r safon hon yn cynnwys y gwaith sy'n cael ei wneud gan gynghorydd arbenigol fydd fel arfer wedi nodi ymlaen llaw pa fesurau rheoli y dylid eu defnyddio a sut gellir eu gweithredu.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae angen i unrhyw un sydd yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau fod wedi cael hyfforddiant yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am reoli rheolaeth chwyn, plâu, clefydau, diffygion a llystyfiant annymunol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu mesurau i gasglu gwybodaeth am bresenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
  2. nodi graddfa unrhyw broblemau a'r angen am fesurau rheoli yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael
  3. cael cyngor arbenigol lle bo angen
  4. asesu costau, peryglon ac effeithiolrwydd tebygol mesurau rheoli posibl
  5. dewis mesur rheoli addas
  6. cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
  7. creu cynllun a manylebau sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer defnyddio'r mesur rheoli dewisol yn ddiogel ac yn effeithiol
  8. sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar gael ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith
  9. sicrhau bod y mesur rheoli dewisol yn dal yn berthnasol, cyn rhoi'r cynllun ar waith
  10. cyfathrebu'r cynlluniau i unigolion, grwpiau neu sefydliadau y mae angen eu hysbysu
  11. rheoli gweithrediad y cynllun a rhoi systemau yn eu lle i ymdrin â phroblemau gweithredol
  12. adolygu effeithiolrwydd y cynllun ac asesu a oes angen gweithredu pellach
  13. cadarnhau bod y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  14. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol sydd yn gyffredin yn eich maes gwaith
  2. natur y broblem o ran yr hyn y gallai ei wneud i'r safle a pha mor gyflym y gallai ddatblygu
  3. effaith y tymor a'r tywydd
  4. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
  5. yr amgylchiadau lle gallai dim ymyrraeth fod orau
  6. rheolaeth integredig plâu a'i manteision a'i hanfanteision
  7. y rhesymau pam y gallai fod yn bwysig cael cyngor arbenigol a ffynonellau cyngor o'r fath
  8. yr ystod o fesurau rheoli sydd ar gael a'r amseriad gorau ar gyfer eu defnyddio
  9. costau, risg a buddion posibl y mesurau rheoli amrywiol

  10. pwysigrwydd dewis y mesur rheoli gorau

  11. yr adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith
  12. yr unigolion, grwpiau neu sefydliadau perthnasol y mae angen eu hysbysu am eich cynllun
  13. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gwaith, neu wedi'u heffeithio ganddo
  14. y camau i'w cymryd mewn ymateb i bryderon neu broblemau gyda'r cynllun
  15. pwysigrwydd monitro ac adolygu'r cynllun
  16. sut a phryd i asesu a yw'r cynllun wedi creu'r canlyniad dymunol
  17. y rhesymau pam y gall fod angen gweithredu pellach a sut i addasu'r cynllun yn unol â hynny
  18. sut i adnabod peryglon a chynnal asesiadau risg
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  20. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gall y dulliau rheoli fod yn rhai llaw, mecanyddol, biolegol, diwylliannol, cemegol, dileu, atal neu leddfu.

Gall clefydau fod yn ffyngol, feirysol neu facterol.

Gall anhwylderau gynnwys diffygion maeth (e.e. diffygion nitrogen neu galsiwm).

Unigolion, grwpiau neu sefydliadau:

  • cyflogeion
  • cymuned leol
  • sefydliadau sy'n ymylu ar y safle
  • partïon eraill â diddordeb

Rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid – Mae rhestr o rywogaethau blaenoriaeth uchel ar gael ar Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau nad ydynt yn Gynhenid (NNSS) Cenedlaethol PF ynghyd â chyngor ar gamau i'w cymryd a system ar gyfer adrodd am ganfyddiadau.

Gall plâu fod yn anifeiliaid di-asgwrn-cefn neu ag asgwrn cefn e.e. pryfed, cnofilod, adar

Mae cyfarwyddiadau a manylebau yn cynnwys:

  • darluniau/cynlluniau
  • mapiau safle /asesiad delwedd o'r awyr
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cyfreithiol
  • canllawiau arfer da
  • gofynion cwsmeriaid
  • safon gofynnol y canlyniad
  • cyfarwyddiadau llafar

Gall chwyn fod yn rhywogaethau ymledol, rhywogaethau niweidiol/gwenwynig, chwyn cyffredin


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS32

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Rheolwr Parc, Rheolwr Cynhyrchu Garddwriaeth, Ecolegwyr

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

pryfed; chwyn; plâu; clefydau; diffygion; mesurau rheoli; biolegol; diwylliannol; cemegol; cnydau; planhigion