Paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion i reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd

URN: LANCS31
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n paratoi ac yn taenu cynnyrch diogelu planhigion i reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd, yn unol â’r ddeddfwriaeth, cyfarwyddiadau a’r manylebau perthnasol.

Wrth weithio gyda pheiriannau, cyfarpar neu gemegau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer gweithredwr chwistrellu medrus ar gyfer paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion i reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd sydd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r peiriannau a’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion y cynhyrchydd
  4. storio a chludo cynnyrch a chynwysyddion diogelu planhigion, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, y cyfarwyddiadau a’r manylebau
  5. cadarnhau bod y cynnyrch diogelu planhigion yn addas ar gyfer y gwaith sydd i gael ei wneud, ac yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  6. cyfrifo isafswm y raddfa daenu i gyflawni’r lefel ddymunol o reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd
  7. dewis ardal addas ar gyfer paratoi’r cynnyrch diogelu planhigion a dilyn y gweithdrefnau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  8. cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer taenu cynnyrch diogelu planhigion 
  9. taenu’r cynnyrch diogelu planhigion er mwyn rheoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd, yn unol â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, y cyfarwyddiadau a’r manylebau 
  10. lleihau’r risgiau i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu, yr amgylchedd a’r ardal gyfagos trwy arsylwi parthau clustogi
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau a chyfarpar pan fyddwch ar y safle
  13. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â gofynion sefydliadol
  14. gwaredu cynwysyddion gwag a dros ben neu gynnyrch anaddas, yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer a gofynion y cynhyrchydd
  15. glanhau, dadhalogi, storio ac, os oes angen, gwaredu cyfarpar taenu a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r gofynion sefydliadol
  16. dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  17. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y risgiau iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio cynnyrch diogelu planhigion wrth reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd, a phwysigrwydd asesu risg 2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer paratoi a thaenu cynnyrch diogelu planhigion 3. y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o gynnyrch diogelu planhigion a rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd 4. y risgiau amgylcheddol wrth ddefnyddio cynnyrch diogelu planhigion wrth reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd, yn cynnwys pwysigrwydd parthau clustogi 5. ymdrin a defnyddio cynnyrch diogelu planhigion yn ddiogel 6. y mathau o gynnyrch diogelu planhigion a ddefnyddir i reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd a’r hyn y cânt eu defnyddio ar ei gyfer  7. arwyddocâd y wybodaeth a geir ar labeli’r cynnyrch a thaflenni data’r cynnyrch 8. y cyfarpar penodol a ddefnyddir ar gyfer taenu cynnyrch diogelu planhigion gwahanol a’r hyfforddiant cywir ar gyfer gweithredwyr sydd yn angenrheidiol i wneud y gwaith 9. sut i gynnal, gosod a graddnodi cyfarpar 10. sut i gludo a storio cynnyrch a chynwysyddion diogelu planhigion, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, y cyfarwyddiadau a’r manylebau 11. sut i gyfrifo faint o gemegau sydd eu hangen a’r gweithdrefnau ar gyfer paratoi 12. y defnydd o hambyrddau gollwng a phecynnau gollwng wrth ymdrin â chynnyrch diogelu planhigion heb ei wanhau 13. yr amodau amgylcheddol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwaith sydd i gael ei wneud a’r effeithiau y mae’r amodau hyn yn eu cael ar y gweithredu 14. cyfnod twf angenrheidiol y planhigion ar gyfer taenu’r cemegau i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl 15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn 16. y problemau a allai ddigwydd wrth daenu cynnyrch diogelu planhigion a’r camau i’w cymryd  17. y ffyrdd y mae’n rhaid trin cynnyrch dros ben a golchiadau, a’r trwyddedau sydd yn ofynnol ar gyfer gwaredu plaladdwyr 18. sut i waredu, neu lanhau a dadhalogi, cyfarpar taenu a chyfarpar diogelu personol (PPE) 19. pam y mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau a chyfarpar pan fyddwch ar y safle 20. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn 21. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol 22. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod


A.  Cael, sefydlu a defnyddio’r cyfarpar canlynol:
(i) cyfarpar taenu
(ii) cyfarpar ategol
(iii) cyfarpar diogelu personol

B.  Sicrhau bod y gweithdrefnau canlynol wedi cael eu sefydlu:
(i) cludiant
(ii) storio
(iii) gwaredu
(iv) argyfwng
(v) adrodd am ddigwyddiadau

C.  Esbonio sut i ymdrin â’r problemau canlynol mewn ffordd effeithiol:
(i) gollyngiadau 
(ii) halogiad cyfarpar ac ardaloedd nad ydynt yn cael eu targedu
(iii) camweithrediad cyfarpar
(iv) effeithiau niweidiol ar rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
(v) newidiadau mewn amodau sydd yn adlewyrchu ar berthnasedd y gwaith sydd wedi ei gynllunio
(vi) argyfwng

D. Trin y canlynol gyda chynnyrch diogelu planhigion addas:
(i) chwyn
(ii) plâu
(iii) clefydau
(iv) afiechyd

E.  Cynnal a storio’r cyfarpar canlynol:
(i) cyfarpar taenu
(ii) cyfarpar ategol
(iii) cyfarpar diogelu personol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd (labeli, cyfarwyddiadau, taflenni data)
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar 

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): 
menig
gorchuddion wyneb
esgidiau uchel priodol
oferôls ac eitemau tafladwy
Cyfarpar Diogelwch Anadlol (RPE) ar gyfer taenu rhai plaladdwyr/cynnyrch 

Problemau a allai ddigwydd: 
gorlif
halogiad cyfarpar ac ardaloedd nad ydynt yn cael eu targedu
camweithrediad cyfarpar
effeithiau niweidiol ar rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
neiwidiadau mewn cyflyrau sy’n effeithio ar berthnasedd y gwaith sydd wedi ei gynllunio
argyfwng 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS31

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Gyrrwr Tractor, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Tyddynnwr, Crofftwr, Coedwigaeth, Coedyddiaeth

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

plâu; clefydau; afiechyd; chwyn; safle; planhigyn; cnwd