Monitro a gweithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
URN: LANCS30
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Gwaith coed,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn gweithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd sy’n effeithio ar gnydau neu blanhigion.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Os byddwch yn defnyddio rheolyddion cemegol, mae’r rhain yn destun gofynion deddfwriaethol perthnasol ar wahân, a bydd angen i chi feddu ar dystysgrifau cymhwysedd cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau’r dulliau, amseriad ac amlder monitro i bennu presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- casglu gwybodaeth fonitro gywir, ar gyfnodau perthnasol, yn ymwneud â phresenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- dehongli’r wybodaeth sydd ar gael i nodi graddau’r chwyn, poblogaeth plâu, clefydau, afiechyd a phresenoldeb rheolyddion biolegol
- cael cyngor technegol lle bo angen
- datblygu cynlluniau addas ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd a chadarnhau eu bod yn cael eu cyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig
- cadarnhau bod y dulliau rheoli dethol yn unol â’r gofynion deddfwriaethol, y cyfarwyddiadau a'r manylebau perthnasol
- nodi argaeledd cyfarpar ac adnoddau sydd yn angenrheidiol i weithredu rheolaeth dros chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- sicrhau bod yr offer a’r cyfarpar ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â rheoliadau a gofynion y cynhyrchydd
- sicrhau bod ailgylchu neu waredu deunydd gwastraff a dros ben, yn cynnwys cemegau, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- gweithredu dulliau rheoli mewn ffyrdd sy’n lleihau’r risg i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a’r amgylchedd
- cymryd y camau perthnasol, heb oedi, os bydd problemau’n codi wrth reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y dulliau rheoli
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â monitro a rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- y mathau o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y rhesymau dros fonitro presenoldeb chwyn, plâu, anhwylderau ac afiechyd a’r problemau y maent yn eu hachosi i’r cnydau neu’r planhigion
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn cynnwys y defnydd o drothwyon ac amserlenni
- effeithiau’r tymor a’r tywydd ar fonitro a’r ffordd y gellir addasu dulliau monitro i ystyried y rhain
- sut i nodi chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, ac asesu arwyddocâd eu presenoldeb
- ffynonellau cyngor technegol ar reoli chwyn, plau, clefydau ac afiechyd
- sut i ddatblygu cynlluniau addas ar gyfer eu rheoli yn unol â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynlluniau, neu wedi eu heffeithio ganddynt
- y ddeddfwriaeth genedlaethol bresennol sy’n rheoli’r defnydd o driniaethau i reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- y dulliau rheoli biolegol gwahanol ar gyfer rheoli plâu
- y dulliau rheoli diwylliannol ar gyfer rheoli chwyn, plâu a chlefydau
- rheolaeth integredig plâu a’i manteision a'i hanfanteision
- ymdriniaeth ddiogel a defnydd effeithiol o gemegau a gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli eu defnydd a’u gwaredu
- sut i gynyddu bywyd effeithiol cemegau
- y problemau a allai ddigwydd wrth reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, a’r camau perthnasol i’w cymryd
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. datblygu cynlluniau addas ar gyfer rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd sydd yn cynnwys y canlynol:
(i) dull(iau) rheoli i’w defnyddio (cemegol, biolegol a/neu driniaethol)
(ii) amseru
(iii) y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen
(iv) gofynion iechyd a diogelwch
(v) mesurau diogelu amgylcheddol
(vi) gofynion monitro
B. gweithredu’r dulliau rheoli canlynol mewn ffyrdd sy’n lleihau’r risgiau i rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu a’r amgylchedd:
(i) cemegol
(ii) biolegol
(iii) triniaethol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai rheolyddion biolegol gynnwys gwyddon, pryfed, nematodau, bacteria neu ffwng
Gallai clefydau fod yn ffyngol, yn feirysol neu’n facterol
Gallai afiechyd gynnwys diffygion maeth (e.e. diffygion nitrogen neu botasiwm)
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau’r cynhyrchydd
• gofynion y cwsmer
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnwd
• cyfarwyddiadau llafar
Gallai monitro gynnwys arsylwi chwyn a phlâu yn uniongyrchol, arsylwi clefydau yn uniongyrchol, dehongli arwyddion a graddau poblogaeth y plâu, clefydau neu afiechyd
Gallai plâu gynnwys pryfed, gwlithod, malwod, cnofilod neu adar
Chwyn: planhigyn gwyllt sydd yn tyfu lle nas dymunir ac mewn cystadleuaeth â phlanhigion wedi eu hamaethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS30
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Ffermwyr a Thyfwyr, Tyddynnwr, Coedwigaeth, Coedyddiaeth, Garddwriaeth
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
pryfed; gwlithod; malwod; dulliau rheoli; ffyngol; feirysol; biolegol; maetholyn