Hybu, monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd

URN: LANCS3
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Ffensio,Technoleg Anifeiliaid,Ceffylau,Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Helwriaeth a Rheoli Bywyd Gwyllt,Crofftwyr a Thyddynwyr,Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Blodeuwriaeth,Gofal Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y gweithgareddau allweddol sy'n ofynnol i hybu, monitro a chynnal arferion iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich gweithle. Gweithle yw ble bynnag y mae eich gweithgareddau gwaith yn digwydd.

I gynnal amgylchedd gwaith iach a diogel, mae angen i chi gymryd gofal rhesymol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill a allai fod wedi'u heffeithio gan eich gwaith. Mae'n ofynnol arnoch hefyd gydweithredu gyda'ch cyflogwr i'w helpu i gydymffurfio â'u dyletswyddau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Agwedd bwysig ar y safon hon mae asesu risg. Byddwch yn gallu cynnal asesiad risg cyn gweithgareddau gwaith a gweithredu i leihau'r risg posibl i chi eich hun ac eraill yn y gweithle. Byddwch yn hybu'r defnydd o fesurau rheoli a systemau gwaith diogel. Mae'n rhaid i weithgareddau gwaith gadw at godau ymarfer iechyd a diogelwch â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi hefyd allu dilyn gweithdrefnau gofynnol os bydd damwain neu argyfwng.

Mae'n bwysig, yn eich holl weithgareddau, eich bod yn cydnabod terfynau eich cymhwysedd eich hun ac yn gofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal asesiad risg ar gyfer pob gweithgaredd gwaith fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a'ch sefydliad
  2. monitro ac adnabod peryglon, gwerthuso'r risg a rhoi mesurau rheoli ar waith lle bo angen
  3. lle mae mesurau rheoli presennol wedi'u sefydlu, sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn cael eu cymhwyso
  4. cyfathrebu canfyddiadau'r asesiad risg i'r rheiny sydd â risg a hybu arferion iechyd, diogelwch a diogeledd da

  5. gweithio mewn ffordd sy'n lleihau'r risg i'ch iechyd, eich diogelwch a'ch diogeledd eich hun a phobl eraill a allai fod wedi'u heffeithio gan eich gwaith

  6. asesu'r risg a gweithredu y dulliau diogel o godi a thrin i leihau'r risg o anaf
  7. paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd â'r gofynion eich sefydliad

  8. trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd â'r gofynion eich sefydliad

  9. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer yr amgylchedd a'r gwaith i gael ei wneud
  10. diogelu eich hun rhag anaf, clefydau neu broblemau iechyd eraill
  11. mabwysiadu gweithdrefnau a systemau gwaith diogel wrth weithio ar eich pen eich hun neu mewn sefyllfa a allai fod yn fygythiol
  12. rhoi'r gweithdrefnau gofynnol ar waith a heb oedi mewn sefyllfa o argyfwng
  13. cadw cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  14. cynnal monitro gweithredol ac adweithiol i gadarnhau bod y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu iechyd, diogelwch a diogeledd yn effeithiol yn y gweithle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahaniaeth rhwng "perygl" a "risg" a sut i gynnal asesiad risg i fonitro iechyd, diogelwch a diogeledd
  2. hierarchiaeth mesurau i reoli risg yn cynnwys dileu, amnewid, rheoliadau peirianneg perthnasol, systemau gwaith diogel, hyfforddiant/cyfarwyddiadau a PPE
  3. sut i gyfathrebu canfyddiadau'r asesiad risg a'r rhagofalon iechyd, diogelwch a diogeledd i'r rheiny sy'n wynebu risg
  4. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer â'r gofynion eich sefydliad
  5. eich cyfrifoldeb cyfreithiol a sefydliadol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
  6. pwysigrwydd hybu arferion iechyd a diogelwch da a chreu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol
  7. y risg o anaf personol, dal clefydau neu broblemau iechyd cofforol a meddyliol eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith a sut gellir lleihau'r rhain
  8. pwysigrwydd mabwysiadu arferion gwaith diogel i atal salwch aciwt a chronig
  9. yr effeithiau y gall damweiniau, digwyddiadau a salwch yn ymwneud â gwaith eu cael ar bobl a busnesau a sut gellir lleihau'r rhain
  10. sut i asesu ble byddai trin â llaw yn beryglus i'r mesurau i'w cymryd i leihau'r risg
  11. y dulliau diogel o baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd â'r gofynion eich sefydliad
  12. gofynion allweddol y rheoliadau'n ymwneud â thrin, defnyddio a storio sylweddau a allai fod yn beryglus
  13. y dillad a'r cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud
  14. y risg o weithio'n ynysig, mewn lleoliadau pellennig neu mewn sefyllfaoedd a allai fod yn fygythiol a'r angen am systemau gwaith diogel a gweithdrefnau brys
  15. y gweithdrefnau ar gyfer mathau gwahanol o argyfyngau sy'n berthnasol i'r diwydiant yr ydych yn gweithio ynddo, yn cynnwys damweiniau, digwyddiadau a  damweiniau fu bron â digwydd
  16. y gofynion ddeddfwriaethol ar gyfer cofnodi a hysbysu ynghylch damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd
  17. ble i gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
  18. y gwahaniaeth rhwng monitro gweithredol ac adweithiol a'r amgylchiadau lle mae angen pob un ohonynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Perygl: rhywbeth â photensial i achosi niwed
* *
Risg: tebygolrwydd o botensial y perygl yn cael ei wireddu

Yn y diwydiant ar y tir mae'r risg mwyaf cyffredin yn deillio o'r canlynol:

  • trafnidiaeth gweithle

  • gweithio ar uchder

  • peiriannau neu gyfarpar

  • codi a thrin

  • sŵn a dirgrynnu

  • llwch, cemegion a sylweddau peryglus yn cynnwys micro-organebau

  • mannau caeëdig

  • ffynonellau pŵer: nwyon, trydan, aer cywasgedig

  • llithro, baglu a syrthio

  • anifeiliaid

  • gweithio ar eich pen eich hun

Diogeledd: yn ymwneud ag e.e. personél; stoc; adnoddau; gwybodaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

lantra

URN gwreiddiol

LANCS3

Galwedigaethau Perthnasol

Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Amaethyddiaeth, Gwerthwr Blodau Iau, Ffensio, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Cadwraeth Amgylcheddol, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt, Goruchwyliwr Ceffylau

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

iechyd; diogelwch; diogeledd; asesu risg