Nodi presenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys nodi presenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol, yn cynnwys rhywogaethau ymledol, nad ydynt yn gynhenid, niweidiol neu wenwynig.
Mae disgwyl i chi helpu i fonitro mynychder a lledaeniad plâu, clefydau, diffygion a llystyfiant annymunol mewn safle, ac adrodd eich canfyddiadau wrth y person perthnasol. Gall safleoedd fod ar dir neu mewn dŵr, yn wyllt neu wedi'u amaethu, yn agored neu'n gaeëdig.
Byddwch yn gweithio yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn nodi presenoldeb plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol ar safleoedd gwahanol ac mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
monitro'r safle am bresenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
adnabod presenoldeb a graddfa'r chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
nodi presenoldeb unrhyw rheolaethau biolegol a phryfed buddiol
adrodd am eich canfyddiadau wrth y person perthnasol
gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn amharu cyn lleied â phosibl ar y safle a'r ardal gyfagos
cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y peryglon sydd yn gysylltiedig â nodi presenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion a llystyfiant annymunol
y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
polisïau a gweithdrefnau'r gweithle yn ymwneud â nodi ac adrodd am chwyn, plâu, clefydau, diffygion a llystyfiant annymunol
pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
y rhesymau dros fonitro'r safle am bresenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion a llystyfiant annymunol, a phryd dylid gwneud hyn
y problemau y gellir cael eu hachosi gan bresenoldeb chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol
y mathau cyffredin o chwyn, plâu, clefydau, diffygion neu lystyfiant annymunol sy'n debygol o ddigwydd o fewn eich maes cyfrifoldeb
y rheolaeth fiolegol berthnasol a'r pryfed buddiol a ddefnyddir o fewn eich maes cyfrifoldeb
wrth bwy y dylid adrodd ynghylch presenoldeb a graddfa chwyn, plâu, clefydau, diffygion, llystyfiant annymunol a rheolaeth fiolegol neu bryfed buddiol
effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd gyfagos a sut i leihau hyn
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
- plâu
- clefydau
- diffygion
- rheolaeth fiolegol neu bryfed buddiol
- chwyn
- llystyfiant annymunol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gall clefydau fod yn ffyngol, feirysol neu'n facterol.
Gall diffygion gynnwys diffyg maeth (e.e. diffygion nitrogen neu galsiwm).
Mae cyfarwyddiadau a manylebau yn cynnwys:
darluniau/cynlluniau
mapiau safle /asesiad delwedd o'r awyr
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cyfreithiol
- canllawiau arfer da
gofynion cwsmeriaid
safon gofynnol y canlyniad
- cyfarwyddiadau llafar
Rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid – Mae rhestr o rywogaethau blaenoriaeth uchel ar gael ar Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau nad ydynt yn Gynhenid (NNSS) Cenedlaethol PF ynghyd â chyngor ar gamau i'w cymryd a system ar gyfer adrodd am ganfyddiadau.
Gall plâu fod yn anifeiliaid di-asgwrn-cefn neu ag asgwrn cefn e.e. pryfed, cnofilod, adar
Gall chwyn fod yn rhywogaethau ymledol, rhywogaethau niweidiol/gwenwynig, chwyn cyffredin