Asesu a chynnal a chadw neu atgyweirio offer a pheiriannau
Trosolwg
- trin ynni wedi ei storio (e.e. sbringiau, tyndra belt, pwysedd hydrolig neu wefru trydanol) 
- y defnydd o sylweddau peryglus 
- gwaredu gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus. 
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni 
- sicrhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael ei wisgo 
- archwilio offer a pheiriannau i bennu’r gofynion ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio 
- asesu offer a pheiriannau ar gyfer diffygion a namau cyn gwneud y gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio 
- cael awdurdodiad lle bo angen i wneud y gwaith 
- adnabod a sefydlu argaeledd cydrannau/rhannau newydd sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith 
- sicrhau bod yr offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol i wneud y gwaith wedi cael eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir 
- sicrhau bod yr holl offer a’r peiriannau y mae angen eu cynnal a’u cadw neu eu hatgyweirio yn ddiogel, wedi eu paratoi’n gywir ac wedi eu hynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau 
- sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau 
- sicrhau bod y cydrannau wedi eu nodi at ddibenion datgymalu ac ailadeiladu 
- sicrhau bod yr holl gydrannau/rhannau sydd wedi treulio a’u niweidio’n cael eu tynnu a’u hadnewyddu yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau 
- storio’r offer a’r peiriannau yn ddiogel pan na fydd cydrannau/rhannau newydd ar gael a chymryd y camau gofynnol i gael cydrannau/rhannau addas 
- sicrhau bod yr ardal waith yn cael ei gadael mewn cyflwr diogel ac addas ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio 
- sicrhau bod y rhagofalon cywir yn cael eu cymryd i atal perygl o halogi ac i atal cemegau a sylweddau peryglus rhag dianc 
- adnabod yr angen am gyngor arbenigol a chymryd y camau perthnasol 
- sicrhau bod y profion cywir yn cael eu gwneud wrth gwblhau’r gwaith, er mwyn sicrhau bod yr offer a’r peiriannau mewn cyflwr gweithredol da a bod dyfeisiadau diogelwch yn gweithredu’n gywir 
- sicrhau bod yr offer a’r peiriannau yn cael eu gosod neu eu graddnodi’n gywir ar ôl eu cynnal a’u cadw neu eu hatgyweirio 
- sicrhau bod gwastraff nad yw’n beryglus a gwastraff peryglus yn cael ei brosesu’n ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion y sefydliad 
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo 
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad 
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth baratoi i gynnal a chadw neu atgyweirio offer a pheiriannau 
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd 
- y mathau o offer a chyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio offer a pheiriannau 
- y rhesymau dros gynnal a chadw offer a pheiriannau a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny 
- y gofynion deddfwriaethol perthnasol a gofynion y cynhyrchwyr yn ymwneud â chynnal a chadw neu atgyweirio offer a pheiriannau 
- amgylchiadau lle mae’n rhaid cael awdurdod wrth baratoi ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio 
- y gweithredoedd a allai ddirymu gwarant y cynhyrchydd 
- dulliau arolygu ar gyfer offer a pheiriannau i bennu’r gofynion cynnal a chadw neu atgyweirio 
- dulliau ar gyfer asesu diffygion a namau ac adnabod yr achos craidd 
- diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gydag offer neu beiriannau 
- gofynion cynnal a chadw fel mater o drefn offer a pheiriannau a pham y mae’n rhaid cadw at y rhain 
- cydrannau/rhannau y mae angen eu haddasu’n achlysurol a’r rhesymau dros hyn 
- ffactorau sydd yn effeithio ar werth gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o’r bywyd gwaith, angen uniongyrchol am yr offer/peiriannau 
- y cydrannau/rhannau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio a’r gweithdrefnau ar gyfer cael rhannau newydd 
- cyfarwyddiadau a manylebau sy’n ofynnol ar gyfer y weithdrefn cynnal a chadw neu atgyweirio a sut i gael y rhain 
- dulliau ar gyfer paratoi offer a pheiriannau ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio 
- y peryglon sy’n cael eu creu wrth storio ynni a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
- cemegau a sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd o’u trin 
- y ffyrdd o nodi offer a pheiriannau ar gyfer eu datgymalu a’u hailosod a’r rhesymau dros wneud hyn 
- dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi offer a pheiriannau ar ôl eu cynnal a’u cadw neu eu hatgyweirio 
- pwysigrwydd profi’r offer a’r peiriannau wrth gwblhau gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac mewn cyflwr gweithredol da ar ôl eu cynnal a’u cadw neu eu hatgyweirio 
- sut a ble i gyfeirio problemau y mae angen sylw arbenigol arnynt 
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus 
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn 
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol 
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau 
Cwmpas/ystod
A.       paratoi amserlen/cynllun cynnal a chadw neu atgyweirio
ar gyfer yr offer a’r peiriannau canlynol yn eich gweithle:  
(i)        llaw  
(ii)        mecanyddol  
B.        paratoi’r offer a’r peiriannau canlynol:  
(i)        llaw  
(ii)        mecanyddol  
C.        paratoi ar gyfer y gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio canlynol:  
(i)        fel mater o drefn  
(ii)        wedi torri i lawr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- deunydd wedi rhydu a phydru 
- cydrannau neu rannau wedi treulio, eu niweidio neu ar goll 
- hylif a sylweddau yn gollwng 
- teiars, traciau wedi eu niweidio 
- seliau wedi treulio 
- tanwydd 
- olew 
- hylifau 
- nwyon 
- llwch 
- aer cywasgedig 
- gwiriadau dyddiol/wythnosol ar gyfer arolygu fel mater o drefn 
- arolygiadau rheolaidd e.e. misol neu nifer yr oriau wedi rhedeg 
- arolygiadau statudol 
- darluniau/cynlluniau 
- amserlenni 
- datganiadau dull 
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) 
- canllawiau’r cynhyrchydd 
- gofynion cwsmeriaid 
- cyfarwyddiadau llafar 
- arolygiadau gweledol 
- profion swyddogaethol a gweithredol 
- sbringiau 
- tyndra belt 
- pwysedd hydrolig 
- gollyngiad trydanol