Cynnal a chadw ac atgyweirio offer a pheiriannau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw ac atgyweirio offer a pheiriannau. Gall yr offer a'r peiriannau fod yn rhai llaw neu fecanyddol.
Mae cynnal a chadw yn cynnwys gwirio'r offer neu'r peiriannau yn rheolaidd fel yr argymhellir gan y cynhyrchwyr. Gwneir hyn er mwyn cynyddu perfformiad a chynyddu bywyd gwaith yr offer neu'r peiriannau. Mae hefyd yn cynnwys yr atgyweiriadau sydd eu hangen oherwydd diffygion neu namau. Byddwch yn gwneud yr holl weithgareddau yn unol â manylebau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal a chadw fel mater o drefn ac yn atgyweirio offer a pheiriannau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a pheiriannau, yn ddiogel ac yn gywir
- adnabod a pharatoi'r offer a'r peiriannau sydd angen eu cynnal a'u cadw neu eu hatgyweirio
- lleoli'r cyfarwyddiadau a'r manylebau cynnal a chadw perthnasol ar gyfer yr offer a'r peiriannau
- gwirio bod yr offer a'r peiriannau y mae angen eu cynnal a'u cadw neu eu hatgyweirio yn ddiogel a'u bod wedi cael eu paratoi'n iawn
- cymryd y rhagofalon cywir er mwyn atal sylweddau rhag dianc a lleihau peryglon yn sgîl halogiad a chemegau peryglus lle bo angen
- cadw'r ardal waith yn ddiogel ac mewn cyflwr sydd yn addas ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio
- casglu cydrannau/rhannau newydd sy'n ofynnol i gwblhau'r gwaith
- adnabod a nodi'r cydrannau at ddiben eu datod a'u hailosod
- gwneud y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio offer a pheiriannau, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau a deddfwriaeth berthnasol
- ailosod a phrofi offer a pheiriannau os oes angen, ar ôl eu cynnal a'u cadw neu eu hatgyweirio
- glanhau, gwasanaethu a storio offer cynnal a chadw, yn ddiogel ac yn gywir
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliad
- cwblhau cofnodion yn ôl gofynion deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw ac atgyweirio offer a pheiriannau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
- y math o offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n ofynnol i wneud y gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- yr offer neu'r peiriannau sydd angen eu cynnal a'u cadw neu eu hatgyweirio a'r hyn sydd angen ei wneud
- y rhesymau dros gynnal a chadw offer a pheiriannau a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- y gofynion deddfwriaethol perthnasol yn ymwneud â chynnal a chadw offer a pheiriannau
- gofynion y cynhyrchydd ar gyfer cynnal a chadw offer a pheiriannau
- y gweithredoedd a allai wneud gwarant y cynhyrchydd yn annilys
- ble i ddod o hyd i'r cyfarwyddiadau a'r manylebau cynnal a chadw ar gyfer yr offer a'r peiriannau
- sut i adnabod diffygion a namau ar offer a pheiriannau
- y dulliau o baratoi offer a pheiriannau ar gyfer cynnal a chadw neu atgyweirio
- y peryglon sy'n cael eu creu gan ynni sy'n cael ei storio a sut dylid trin y rhain yn y cyfnod paratoi
- y cemegau a'r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a sut i drin y rhain
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael cydrannau/rhannau newydd
- sut i nodi cydrannau ar gyfer eu datod a'u hailosod a'r rhesymau dros wneud hyn
- y dulliau o ailosod a phrofi offer a pheiriannau ar ôl eu cynnal a'u cadw neu eu hatgyweirio, lle bo angen
- lefel eich cyfrifoldeb mewn perthynas â chynnal a chadw neu atgyweirio offer a pheiriannau, ac at bwy i gyfeirio problemau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff a chemegau a sylweddau peryglus, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gwaith ei gael ar yr amgylchedd a'r ffyrdd y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliad
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
A paratoi'r offer a'r peiriannau canlynol ar gyfer eu cynnal a'u cadw:
(i) llaw
(ii) mecanyddol
B cael a pharatoi'r offer canlynol a ddefnyddir i wneud gwaith cynnal a chadw:
(i) offer llaw
(ii) offer pŵer
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
- tanwydd
- olew
- hylifau
- nwyon
- llwch
- aer cywasgedig
* *
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- Canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion cwsmeriaid
- cyfarwyddiadau llafar
Ynni wedi ei storio:
- sbringiau
- tyndra belt
- pwysedd hydroleg
- gollyngiad trydan
Gwastraff: gallai gynnwys deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus.
Dolenni I NOS Eraill
Mae cynnal a chadw ac atgyweirio arbenigol offer a
pheiriannau tir wedi ei gynnwys yn y gyfres Gweithrediadau Peiriannau Tir.