Cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau

URN: LANCS25
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol, Cynhyrchu Da Byw, Garddwriaeth, Gwaith coed, Dyframaethu, Rheoli Pysgodfeydd, Rheoli Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i gynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau. Gall cyfarpar a pheiriannau weithio â llaw neu weithio’n fecanyddol.
 
Mae cynnal a chadw’n cynnwys gwirio cyfarpar a pheiriannau o bryd i’w gilydd yn unol ag argymhelliad y gwneuthurwr. Gwneir hyn i wneud y mwyaf o berfformiad ac oes gweithio cyfarpar a pheiriannau. Hefyd, mae’n cwmpasu atgyweiriadau sy’n ofynnol oherwydd diffygion neu namau. Byddwch yn cyflawni’r holl weithgareddau yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
 
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
 
Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n cynnal a chadw ac yn atgyweirio cyfarpar a pheiriannau, fel mater o drefn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. cadarnhau bod yr holl hyfforddiant ac ardystiad sy’n ofynnol i gynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau wedi’u cwblhau yn unol â gofynion deddfwriaethol, y gwneuthurwr a gofynion sefydliadol
  5. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  6. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  7. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  8. nodi’r cyfarpar a’r peiriannau sydd angen eu cynnal a chadw a’u hatgyweirio
  9. archwilio cyfarpar a pheiriannau i bennu’r gofynion cynnal a chadw ac atgyweirio a chofnodi hyn, gyda dyddiad, yn unol â gofynion cyfreithiol
  10. os na ellir atgyweirio ar unwaith, labelu’r eitem neu roi tag arni a’i hatal rhag cael ei defnyddio, yn unol â gofynion cyfreithiol
  11. dod o hyd i leoliad y cyfarwyddiadau cynnal a chadw perthnasol a manylebau’r gwneuthurwr ar gyfer y cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu cynnal a chadw
  12. paratoi cyfarpar a pheiriannau i’w cynnal a chadw a’u hatgyweirio yn ddiogel ac yn unol â’r cyfarwyddiadau cynnal a chadw perthnasol a manylebau’r gwneuthurwr
  13. cymryd y camau rhagofalus cywir i atal sylweddau rhag dianc a lleihau peryglon o halogi a chemegion peryglus
  14. nodi a marcio cydrannau y mae angen eu tynnu ar led a’u rhoi’n ôl at ei gilydd
  15. cael y cydrannau a’r rhannau newydd sy’n ofynnol i gwblhau’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn unol â manylebau’r gwneuthurwr
  16. gwirio’r cydrannau a’r rhannau newydd cyn eu ffitio a chyfeirio at y gwneuthurwr am opsiynau eraill os nad ydynt ar gael
  17. cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau fel mater o drefn yn unol â’r cyfarwyddiadau cynnal a chadw perthnasol a manylebau’r gwneuthurwr
  18. cadw’r ardal waith yn ddiogel ac mewn cyflwr addas ar gyfer y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio
  19. gosod a graddnodi cyfarpar a pheiriannau, lle bo gofyn, ar ôl cynnal a chadw ac atgyweirio, yn unol â’r cyfarwyddiadau cynnal a chadw perthnasol a manylebau’r gwneuthurwr
  20. profi’r cyfarpar a’r peiriannau ar ôl cynnal a chadw ac atgyweirio, yn unol â’r cyfarwyddiadau cynnal a chadw perthnasol a manylebau’r gwneuthurwr
  21. ailarchwilio cyfarpar a pheiriannau ar ôl cynnal a chadw ac atgyweirio a chofnodi, gyda dyddiad, eu bod yn ddiogel i ailddechrau gweithio
  22. glanhau, gwasanaethu a storio’r offer a’r cyfarpar a ddefnyddiwyd i wneud y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn ddiogel ac yn gywir
  23. delio â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gweithdrefnau’r safle
  24. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  25. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. y peryglon sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y gofynion deddfwriaethol, gofynion y gwneuthurwr a gofynion sefydliadol ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau a phryd mae angen hyfforddiant neu ardystiad ychwanegol i wneud gwaith cynnal a chadw ac amnewid rhannau
  5. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y mae eu hangen i wneud y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  6. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal pob cyfarpar i safon uchel
  7. y risgiau iechyd a diogelwch posibl sy’n deillio o ddiffyg cynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau, neu gynnal a chadw o ansawdd gwael
  8. y dulliau archwilio ar gyfer cyfarpar a pheiriannau i bennu’r gofynion cynnal a chadw ac atgyweirio a pha mor aml y dylai’r rhain gael eu cyflawni
  9. y dulliau ar gyfer asesu diffygion a namau a nodi’r rhesymau sylfaenol
  10. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cofnodion cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau
  11. y cyfarwyddiadau a’r manylebau y mae eu hangen ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a pheiriannau, a’r gweithredoedd a allai annilysu gwarant y gwneuthurwr
  12. pryd mae angen gwasanaethu cyfarpar a pheiriannau, a’u hatgyweirio, gan asiant awdurdodedig
  13. ble i ddod o hyd i leoliad y cyfarwyddiadau a’r manylebau cynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar a’r peiriannau
  14. y dulliau o baratoi cyfarpar a pheiriannau ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio
  15. y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi’i storio a phresenoldeb cemegion a sylweddau peryglus, a sut dylid delio â’r rhain
  16. y cydrannau a’r rhannau y mae angen eu newid bob hyn a hyn a’r rhesymau dros hynny
  17. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael cydrannau a rhannau newydd a beth i’w wneud os ydynt yn anghywir neu os nad ydynt ar gael
  18. sut i farcio cydrannau i’w tynnu ar led a’u rhoi’n ôl at ei gilydd, a’r rhesymau dros wneud hyn
  19. swyddogaeth a gofynion cynnal a chadw cydrannau unigol
  20. y gweithdrefnau i’w dilyn pan fydd difrod a thraul i gydrannau y tu hwnt i derfynau argymelledig y gwneuthurwr
  21. y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar a pheiriannau ar ôl cynnal a chadw ac atgyweirio
  22. pwysigrwydd profi ac ailarchwilio’r cyfarpar a’r peiriannau ar ôl cwblhau’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio i gadarnhau eu bod yn ddiogel ac yn gweithio’n dda cyn dechrau eu hailddefnyddio eto
  23. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff a chemegion a sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  24. yr effaith bosibl y gallai eich gwaith ei chael ar yr amgylchedd a sut gellir lleihau hyn
  25. y problemau a all ddigwydd wrth gynnal a chadw ac atgyweirio, a’r camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  26. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  27. y gofynion cyfreithiol a sefydliadau ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cyfarpar a pheiriannau gynnwys:

  • cyfarpar pŵer llaw
  • cyfarpar pŵer wedi’i lywio ar droed
  • cyfarpar gosodedig

Gallai cemegion a sylweddau peryglus gynnwys:

  • tanwyddau
  • olewau
  • hylifau
  • nwyon
  • llwch
  • aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • lluniadau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • cyfarwyddiadau ar lafar

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Ynni wedi’i storio:

  • sbringiau
  • tyniant belt
  • pwysedd hydrolig
  • gollyngiad trydanol

Dolenni I NOS Eraill

Mae cynnal a chadw ac atgyweirio arbenigol cyfarpar a pheiriannau tir yn dod o dan gyfres Gweithrediadau Peiriannau Tir.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

7

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS25

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gofalwr y Grîn, Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithredwr Peiriannau Amaethyddol, Ffermio Pysgod, Garddwriaeth

Cod SOC

8223

Geiriau Allweddol

peiriannau; offer; cyfarpar; mecanyddol; atgyweirio; cynnal a chadw