Cynnal a chadw ac atgyweirio offer safle

URN: LANCS24
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys sut i gynnal a chadw ac atgyweirio offer safle. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, byrddau arwyddion, nodwyr ffordd, meinciau a biniau. Mae hefyd yn cynnwys eitemau mwy anarferol fel cerfluniau. Bydd llawer o'r rhain wedi'u saernïo'n barod a'ch rôl chi felly yw gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio offer safle.

Os ydych yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol neu ag ardystiad yn unol â deddfwriaeth bresennol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.

Nid yw hyn yn cynnwys offer chwaraeon a chwarae gan fod y rhain wedi'u cynnwys yn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
  2. asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau ar y gwaith sydd wedi'i gynllunio
  3. dewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
  4. dewis deunyddiau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt

  5. paratoi'r safle a gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos

  6. cynnal neu atgyweirio'r eitem yn unol â'r manylebau
  7. gwneud gwaith yn daclus ac yn ddiogel gan roi sylw dyledus i ddefnyddwyr y safle
  8. os oes problemau'n codi wrth fodloni'r manylebau, cymryd y camau priodol heb oedi
  9. hysbysu eich rheolwr llinell ynghylch unrhyw welliannau posibl i'r manylebau gwaith yr ydych yn eu nodi

  10. sicrhau bod yr adeiladwaith yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas at y diben cyn gadael y safle

  11. defnyddio y dulliau priodol o leihau effaith erydiad ar ardaloedd o amgylch yr eitem

  12. trin a chludo deunyddiau a chyfarpar yn unol â'r rheoliadau

  13. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
  14. adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
  15. cwblhau cofnodion fel sy'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
  2. pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
  3. y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb adeiladau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid neu rywogaethau wedi'u diogelu ac ati
  4. sut i adnabod gwerth amgylcheddol safleoedd
  5. sut i ddewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
  6. sut i ddewis deunyddiau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
  7. y dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
  8. sut i ddehongli a defnyddio manylebau perthnasol
  9. y dulliau ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio eitemau gwahanol o offer safle
  10. problemau a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
  11. pam y mae'n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio offer safle a'r problemau posibl os nad yw hyn yn cael ei wneud
  12. pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus yn ystod y gweithrediadau ac adfer y safle ar ôl cwblhau'r gwaith
  13. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  14. y cofnodion y mae angen eu cwblhau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau cynhyrchwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS23; LANCS24

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Garddwr, Gofalwr Tir, Tirluniwr, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr

Cod SOC

3553

Geiriau Allweddol

biniau; meinciau; nodwyr ffordd; arwyddion; byrddau arwyddion; safle