Gosod offer safle
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys sut i osod offer safle. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, byrddau arwyddion, nodwyr ffordd, meinciau a biniau. Mae hefyd yn cynnwys eitemau mwy anarferol fel cerfluniau. Bydd llawer o'r rhain wedi'u saernïo ymlaen llaw a'ch rôl chi felly yw lleoli a gosod yr adeiladwaith yn gywir.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am osod offer safle.
Os ydych yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol neu ag ardystiad sydd yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Nid yw hyn yn cynnwys offer chwaraeon a chwarae gan fod y rhain wedi'u cynnwys yn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, â'r gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
- asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau i'r gwaith sydd wedi ei gynllunio
- dewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
- dewis deunyddiau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
- paratoi'r safle a gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
- dewis y lle mwyaf priodol i leoli'r eitem yn unol â'r manylebau a chyflwr y safle
- gosod yr eitem yn unol â'r manylebau
sicrhau nad yw defnyddwyr eraill yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd eich gwaith
os oes problemau'n codi yn bodloni'r manylebau, cymryd y camau priodol heb oedi
- sicrhau bod yr eitem yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas at y diben cyn gadael y safle
defnyddio y dulliau priodol i leihau effaith erydiad ar ardaloedd o amgylch yr eitem
trin a chludo deunyddiau ac offer yn unol â rheoliadau
- trin gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
- pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
- y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb adeiladau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid neu rywogaethau wedi'u diogelu ac ati
- sut i adnabod gwerth amgylcheddol safleoedd
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- sut i ddewis deunyddiau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- y dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
- sut i ddehongli a defnyddio manylebau perthnasol
- y ffactorau sydd yn pennu ble dylid gosod eitem
- diben yr eitem
- y cyd-destun ar gyfer gosod eitem, a'r ffordd y mae hyn yn berthnasol i'r manylebau
- y dulliau ar gyfer gosod eitemau gwahanol o offer safle
problemau a allai ddigwydd yn ystod gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau cynhyrchwyr.