Cydlynu a goruchwylio adeiladu a chynnal seilwaith safleoedd ar y tir
URN: LANCS22
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cydlynu a goruchwylio adeiladu a chynnal seilwaith safleoedd ar y tir, sydd yn cynnwys ffiniau a phwyntiau mynediad, llwybrau ac arwynebau, strwythurau, dodrefn safle a draeniad.
Bydd angen gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau technegol arnoch mewn perthynas ag adeiladu, yn ogystal â dulliau gosod a chynnal ar gyfer pob math o seilwaith safle.
Gallai’r rheiny sydd yn gwneud y gwaith gynnwys llafur uniongyrchol, contractwyr neu wirfoddolwyr.
Mae’n rhaid i unrhyw un sydd yn gweithio gydag offer pweredig, peiriannau neu ddefnyddio cemegau fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn rhoi cyfrif am ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith i adeiladu neu gynnal seilwaith safle ar y tir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio cynlluniau a manylebau ar gyfer manylion y gwaith sydd yn ofynnol ar gyfer adeiladu a chynnal isadeiledd safle ar y tir
- gwneud ymchwil neu arolygon pellach, lle mae angen gwybodaeth ychwanegol
- cadarnhau bod cydymffurfio ag amserlenni cynnal yn digwydd, ac ymateb i’r angen am waith brys
- ystyried y defnydd o’r safle ac ystyried hyn wrth gydlynu’r gwaith
- nodi’r amser gorau i’r gwaith gael ei wneud
- nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd yn eu lle a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu drwyddedau angenrheidiol
- cadarnhau bod asesiad risg yn cael ei wneud a bod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu iechyd a diogelwch y rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a defnyddwyr eraill y safle
- cadarnhau bod gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu bioddiogelwch y safle
- cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith
- nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith
- trefnu gwasanaethau arbenigol i gefnogi gwaith adeiladu a chynnal, lle bo angen
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
- pennu’r dulliau gorau ar gyfer cludo cyfarpar, deunyddiau a’r gweithlu i’r safle ac oddi yno
- datblygu cynlluniau gwaith a manylebau ar gyfer y gwaith ar fformat perthnasol
- rhoi cyfarwyddyd i’r rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a rhoi’r holl fanylion angenrheidiol i’w galluogi i gwblhau eu gwaith
- parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- goruchwylio’r gwaith adeiladu neu gynnal wrth iddo ddigwydd a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn unol â chynlluniau gwaith a manylebau
- cadarnhau bod dulliau gweithio yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion asesu risg a gofynion sefyd-liadol
- sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn daclus ac yn ddiogel gan roi sylw dyledus i ddefnyddwyr eraill y safle
- gwerthuso’r gwaith sydd wedi ei gwblhau er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r manylebau
- cyfeirio pryderon am gyflwr a nodweddion diogelwch cyfleusterau at yr arbenigwyr perthnasol
- rheoli unrhyw wyriadau o’r gweithgareddau a gynlluniwyd a gweithredu os oes angen newidiadau i’r cynllun
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio, fel sydd yn angenrheidiol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’ch sefydliad
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau lleol, arweiniad, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud gan roi sylw dyledus i’w effaith ar yr amgylchedd
- sicrhau bod y safle’n cael ei adfer i’r cyflwr angenrheidiol, sydd yn cyd-fynd â’r ardal gyfagos, ar ôl cwblhau’r gwaith
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd adeiladu’r seilwaith a’r gwaith cynnal a chadw dros raddfeydd amser perthnasol
- defnyddio canlyniadau’r monitro i lywio gwaith adeiladu a chynnal seilwaith yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli cynlluniau a manylebau ar gyfer manylion y gwaith sydd yn angenrheidiol ar gyfer adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir
- sut i gael gwybodaeth ychwanegol trwy ymchwil neu arolygon
- yr effaith y mae defnydd gwahanol o dir yn ei chael ar adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir a sut i gydbwyso anghenion gwrthgyferbyniol wrth gydlynu’r gwaith
- y ffactorau eraill i’w hystyried wrth gydlynu’r gwaith i gael ei wneud
- sut i bennu’r amser gorau ar gyfer gwaith adeiladu neu gynnal
- sut mae amserlenni cynnal yn cael eu datblygu a’r gofynion cynnal ar gyfer seilwaith safle gwahanol
- patrymau pydredd deunyddiau adeiladu
- goblygiadau unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd yn eu lle
- yr amgylchiadau lle mae angen caniatâd neu drwyddedau a sut i fynd ati i gael y rhain
- sut i nodi peryglon, asesu risg, a datblygu dulliau gweithio diogel
- pwysigrwydd bioddiogelwch a’r mesurau bioddiogelwch angenrheidiol ar gyfer y safle
- pwysigrwydd gwneud asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith, a’r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
- sut i bennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i wneud y gwaith a sut i sicrhau eu bod ar gael ble a phan mae eu hangen
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer ymdrin, cludo, storio, ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben
- pwysigrwydd creu cynlluniau gwaith a manylebau a’r fformat y dylai’r rhain fod ynddo
- pwysigrwydd briffio’r gweithlu a sut i wneud hyn
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, eich gwaith a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd goruchwylio’r gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau ei fod wedi ei gwblhau yn unol â chynlluniau gwaith a manylebau
- y cyfarpar, y peiriannau a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith a phwysigrwydd sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- pwysigrwydd sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn daclus ac yn ddiogel a bod y safle’n cael ei adfer ar ôl cwblhau’r gwaith
- y problemau posibl a allai godi wrth adeiladu a chynnal seilwaith safle ar y tir a’r camau i’w cymryd
- terfynau eich arbenigedd eich hun a ble i gael cyngor
- pryd dylid defnyddio gwasanaethau arbenigol i gefnogi gwaith adeiladu a chynnal seilwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
- y ddeddfwriaeth berthnasol, rheoliadau lleol, canllawiau, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- pwysigrwydd atal niwed i’r amgylchedd wrth wneud gwaith adeiladu a chynnal
- pwysigrwydd monitro yn y tymor hwy i bennu effeithiolrwydd gwaith adeiladu a chynnal a’r dulliau gorau o wneud hyn
- sut i ddefnyddio canlyniadau monitro i helpu i gynllunio gwaith adeiladu a chynnal yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai ffactorau i’w hystyried gynnwys:
• defnydd
• cost
• rhychwant oes
• gwerth hanesyddol
• perthynas â’r dirwedd
• cymeriad rhanbarthol
• ffactorau daearyddol
• hinsawdd/tywydd
Gallai cyfyngiadau a dynodiadau safle gynnwys:
• Parc Cenedlaethol
• Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
• Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
• Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
• Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
• RAMSAR
• Gwarchodfa Natur Genedlaethol
• Parth Cadwraeth Morol
• Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
• Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
• Parthau Diogelu Dŵr Yfed
• Heneb Gofrestredig (SM)
• Adeilad Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
• Maes Brwydr Cofrestredig (RB)
• Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
• Hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad
• Ardal hyfforddiant milwrol
Gallai cynlluniau gwaith a manylebau gynnwys:
• darluniau/cynlluniau
• asesiad o fapiau safle/delwedd o’r awyr
• cofrestrau
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cyfreithiol
• canllawiau arfer da
• gofynion cwsmeriaid
• safon angenrheidiol canlyniad
• cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS22
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Rheolwr Ystadau, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Helgig a Bywyd Gwyllt, Ceidwad
Cod SOC
3553
Geiriau Allweddol
safle; strwythurau; dodrefn safle; ffiniau; pwyntiau mynediad; camfeydd; gatiau; rampiau; llwybrau; arwynebau; draeniau