Cynnal a chadw ac atgyweirio ffiniau neu fannau mynediad

URN: LANCS21
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftwyr a Thyddynwyr,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw ac atgyweirio ffiniau neu fannau mynediad. Bydd angen i chi sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â manylebau, deddfwriaeth a pholisi sefydliadol.  

Diffinnir cynnal a chadw ac atgyweirio fel trwsio neu adfer i gyflwr cadarn a diogel. Gallai cynnal a chadw fod yn ataliol (atal gwaith sylweddol yn nes ymlaen) neu'n adweithiol.

Dylai defnyddio arferion a deunyddiau lleol annog defnyddio ystod eang o arddulliau a thechnegau.  

Os ydych yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau, bydd angen eich bod wedi cael yr hyfforddiant priodol neu ardystiad yn unol â deddfwriaeth bresennol.  

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol a gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio ffiniau neu fannau mynediad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
  2. asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau ar y gwaith a gynlluniwyd
  3. dewis, paratoi a defnyddio offer a pheiriannau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
  4. dewis deunyddiau i fodloni'r manylebau
  5. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. paratoi'r safle a gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
  7. sicrhau bod y gwaith sydd wedi ei gwblhau yn bodloni'r manylebau a'i fod yn addas at y diben
  8. trin a chludo deunyddiau ac offer yn unol â'r rheoliadau
  9. gwneud gwaith yn daclus ac yn ddiogel gan ystyried defnyddwyr y safle
  10. adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
  11. trin gwastraff yn ofalus ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
  12. cwblhau cofnodion fel y bo'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
  2. pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau'r gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
  3. y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid neu rywogaethau wedi eu gwarchod, safleoedd dynodedig ac ati
  4. y peryglon y mae gwasanaethau ar y safle'n eu cyflwyno a sut i osgoi'r rhain
  5. y technegau cynnal a chadw sy'n ofynnol ar gyfer cynnal ffiniau a mannau mynediad
  6. sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
  7. diben ffiniau neu fannau mynediad a sut mae hyn yn berthnasol i'r manylebau a'r gweithrediadau
  8. goblygiadau deddfwriaeth genedlaethol a lleol, codau ymarfer a chytundebau yn ymwneud â mynediad cyhoeddus a hamdden i'ch gwaith
  9. dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
  10. sut i ddehongli a defnyddio manylebau perthnasol
  11. pam mae'n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio ffiniau a mannau mynediad a'r problemau posibl os nad yw hyn yn cael ei wneud
  12. dulliau o brofi diogelwch, sefydlogrwydd a chryfder y ffiniau neu'r man mynediad a'u haddasrwydd at i diben
  13. sut i werthuso'r gwaith wedi ei gwblhau yn erbyn y manylebau
  14. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  15. problemau a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
  16. pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus yn ystod gweithrediadau ac adfer y safle ar ôl cwblhau'r gwaith
  17. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  18. y cofnodion y mae angen eu cwblhau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ffin: muriau, ffensys, llethrau.

Mannau mynediad: gatiau, camfeydd, grisiau.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau'r cynhyrchydd

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU19; LANCU22; LANCU23; LANCU25

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gofalwr Tir, Tirluniwr, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

muriau; ffensys; llethrau; gatiau; camfeydd; strwythurau; grisiau