Adeiladu ffiniau neu fannau mynediad
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adeiladu ffiniau neu fannau mynediad. Mae'n addas ar gyfer cyflogeion a gwirfoddolwyr sydd yn gweithio yn y sector tir neu amgylcheddol.
Dylai arferion lleol a'r deunyddiau annog y defnydd o ystod eang o arddulliau a thechnegau.
Caiff adeiladu ei ddiffinio fel creu ffin neu fan mynediad newydd, neu adnewyddu ffin neu fan mynediad yn gyfan gwbl.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol a gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Mae adeiladu muriau cerrig sychion/arglawdd cerrig sychion wedi eu cynnwys yn VR567 adeiladu strwythurau cerrig sychion o CSC.
Nid yw hyn yn cynnwys diogelwch, diogeledd llym neu ffensys trydan.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant neu'n meddu ar ardystiad perthnasol yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- asesu'r safle cyn adeiladu i nodi unrhyw gyfyngiadau i'r gwaith a gynlluniwyd
- dewis, paratoi a defnyddio offer a pheiriannau, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) lle bo angen, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis deunyddiau ac adnoddau i fodloni'r manylebau
- paratoi'r safle cyn llunio ffiniau neu fannau mynediad yn unol â'r manylebau
- nodi'r llinell arfaethedig ar gyfer y ffin yn unol â'r manylebau
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos a'r amgylchedd
- sicrhau bod ymddygiad a chyflwr y ffiniau a'r mannau mynediad yn bodloni'r manylebau
- gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau'r gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
- y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau nad ydynt yn ymledol neu rywogaethau wedi eu gwarchod
- y peryglon y mae'r gwasanaethau ar y safle yn eu cyflwyno a sut i osgoi'r rhain
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) lle bo angen, sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle cyn dechrau adeiladu ffiniau neu fannau mynediad
- y rheoliadau a'r safonau perthnasol yn ymwneud ag adeiladu ffiniau neu fannau mynediad, yn cynnwys rheoliadau adeiladu, iechyd a diogelwch perthnasol, yr amgylchedd ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
- y technegau adeiladu sy'n briodol i'r ffin, mannau mynediad a'r amgylchedd cyfagos
- y mathau o ddulliau paratoi'r ddaear sy'n briodol i'r gwaith adeiladu
- cyd-destun y ffin neu'r man mynediad a sut mae hyn yn berthnasol i'r manylebau
- manteision ac anfanteision perthnasol mathau gwahanol o ffiniau neu fannau mynediad a'r sefyllfaoedd priodol ar gyfer eu defnyddio
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a'r amgylchedd a sut i leihau hyn
- y problemau a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
- sut i werthuso llwyddiant y gwaith wedi ei gwblhau yn erbyn y manylebau
- dulliau o ddiogelu deunyddiau a strwythurau wrth adeiladu
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â'r cyfarwyddiadau, gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
Cwmpas/ystod
A. nodi’r llinell arfaethedig ar gyfer y ffin o’r fanyleb ac unrhyw ystyriaethau arbennig sy’n berthnasol i’r llinell yn cynnwys:
(i) iechyd a diogelwch
(ii) effaith amgylcheddol
(iii) mynediad
B. amlinellu sut i ddehongli a defnyddio manylebau perthnasol yn cynnwys:
(i) gosod a lleoliad
(ii) deunyddiau ac adnoddau
(iii) amseru a graddfeydd amser
(iv) dulliau gwaith
(v) addasrwydd i’r defnydd disgwyliedig a’r traddodiad lleol
C. adeiladu’r ffiniau canlynol isod o fewn y goddefiadau a nodwyd ar gyfer y safle
(i) ffens
(ii) mur
(ii) glan
D. adeiladu’r pwyntiau mynediad canlynol:
(i) gatiau (pren/metel)
(ii) camfeydd
(iii) grisiau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai ffiniau fod yn ffensys, muriau, glannau.
Gallai mannau mynediad trwy ffiniau o'r fath fod yn gamfeydd, gatiau, grisiau.
Mae manylebau yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS) a chanllawiau gwneuthurwyr, polisïau sefydliadol.