Cynnal iechyd, diogelwch a diogeledd

URN: LANCS2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Da Byw,Technoleg Anifeiliaid,Ceffylau,Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Blodeuwriaeth,Nyrsio milfeddygol,Cnydau Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau allweddol sy’n ofynnol i gynnal arferion iechyd, diogelwch a diogeledd da yn eich gweithle i’ch amddiffyn eich hun ac amddiffyn eraill rhag risg niwed neu anaf. Y gweithle yw lle bynnag y mae eich gweithgareddau gwaith yn digwydd.

I gynnal amgylchedd gwaith iechyd a diogel, mae’n ofynnol i chi gymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch chi ac iechyd a diogelwch pobl eraill y gallai eich gwaith effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu â’ch cyflogwr i’w helpu i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol. Mae’n cynnwys dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch gosod a nodi ac asesu sefyllfaoedd anniogel yn y gweithle neu yn ystod gweithgareddau gwaith.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r prif risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich gweithle a’r mesurau rheoli neu’r systemau gweithio diogel a roddwyd ar waith gan eich cyflogwr.

Mae’n rhaid i chi allu dilyn y gweithdrefnau gofynnol hefyd yn achos damwain neu argyfwng.

Mae’n bwysig eich bod yn cydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd yn eich holl weithgareddau ac yn gofyn am help a chyngor, pan fydd angen.

Mae’r safon hon ar gyfer pob gweithiwr.

Cysylltiadau â NOS eraill:
LANCS11 Ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector tir


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi peryglon ac asesu risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
  2. gweithredu i reoli’r risgiau, lle bo’n bosibl, neu i geisio arweiniad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. cydymffurfio â mesurau rheoli a roddwyd ar waith i ddileu neu leihau risgiau a mabwysiadu systemau gweithio diogel
  4. dilyn gweithdrefnau diogeledd y sefydliad i atal risgiau i ddiogeledd
  5. gweithio mewn ffordd sy’n lleihau risgiau i’ch iechyd, diogelwch neu ddiogeledd eich hun neu i iechyd, diogelwch neu ddiogeledd pobl eraill y gallai eich gwaith effeithio arnynt
  6. dilyn yr hyfforddiant a gawsoch wrth ddefnyddio unrhyw eitemau gwaith y mae eich cyflogwr wedi’u cyflenwi i chi
  7. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer yr amgylchedd a’r gwaith sydd i’w gyflawni
  8. gwirio a chynnal a chadw PPE yn rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  9. mabwysiadu arferion gweithio diogel i’ch amddiffyn eich hun rhag anaf, clefyd neu broblemau iechyd eraill
  10. defnyddio dulliau diogel o godi a chario yn unol â rheoliadau codi a chario, i leihau risg anaf
  11. paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar a pheiriannau yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  12. cadarnhau bod cyfarpar a pheiriannau wedi’u gwirio, eu profi, lle bo angen, a’u bod yn addas at eu diben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  14. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad a mabwysiadau systemau gweithio diogel wrth weithio ar eich pen eich hun neu mewn sefyllfa beryglus bosibl
  15. atal gweithio ar unwaith os bydd perygl damwain neu anaf, a chymryd y camau gofynnol
  16. dilyn y gweithdrefnau gofynnol yn ddiogel ac yn ddi-oed mewn sefyllfa sy’n argyfwng
  17. cofnodi damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd, a rhoi gwybod amdanynt, yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol cyflogwyr a gweithwyr am iechyd a diogelwch a phwysigrwydd dilyn deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a diogelwch
  2. yr effeithiau y gall damweiniau a salwch cysylltiedig â gwaith eu cael ar weithwyr a busnesau a phwysigrwydd osgoi’r rhain
  3. y gwahaniaeth rhwng “perygl” a “risg”, pwysigrwydd nodi peryglon ac asesu risgiau i chi’ch hun ac i eraill wrth gyflawni eich gwaith, a pha gamau i’w cymryd pan nodir peryglon
  4. risgiau anaf personol, dal clefyd neu broblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl eraill sy’n gysylltiedig â’ch gwaith
  5. risgiau eich gweithgareddau gwaith i bobl eraill, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd, plant, ymwelwyr a chontractwyr
  6. sut i fonitro a nodi risgiau iechyd, diogelwch neu ddiogeledd
  7. y mesurau rheoli a’r systemau gweithio diogel a roddwyd ar waith i reoli’r rhain
  8. lle i ddod o hyd i asesiadau risg y sefydliad a pham dylai’r rhain gael eu dilyn
  9. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau i gynnal diogeledd y gweithle
  10. pwy y dylech geisio arweiniad ganddynt am iechyd, diogelwch neu ddiogeledd
  11. pwysigrwydd cymhennu’n dda yn y gweithle o ran cynnal iechyd a diogelwch
  12. risgiau anaf sy’n gysylltiedig â chodi a chario a sut gall y rhain gael eu lleihau
  13. y dulliau diogel o wirio, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar a pheiriannau
  14. gofynion allweddol y rheoliadau sy’n gysylltiedig â thrin, defnyddio a storio cemegion a sylweddau peryglus
  15. y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) addas sy’n ofynnol ar gyfer gwaith yn eich diwydiant a phwysigrwydd gwirio a chynnal a chadw PPE yn rheolaidd
  16. risgiau gweithio ar eich pen eich hun, mewn lleoliadau anghysbell neu sefyllfaoedd peryglus posibl, a’r angen am ddilyn systemau gweithio diogel, gan gynnwys gweithdrefnau cyfathrebu a gweithdrefnau brys
  17. y camau i’w cymryd os bydd digwyddiadau ac argyfyngau, gan gynnwys damweiniau a damweiniau fu bron â digwydd
  18. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cofnodi problemau a digwyddiadau iechyd, diogelwch a diogeledd, a rhoi gwybod amdanynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Perygl: rhywbeth sydd â’r potensial i achosi niwed
 
Risg: y tebygolrwydd o wireddu potensial y perygl
 
Yn y diwydiant tir, mae’r risgiau mwyaf cyffredin yn deillio o:

  • drafnidiaeth y gweithle
  • gweithio ar uchder
  • peiriannau neu gyfarpar
  • codi a chario
  • sŵn a dirgrynu
  • llwch, cemegion a sylweddau peryglus, gan gynnwys micro-organebau
  • mannau cyfyng
  • ffynonellau pŵer: nwyon, trydan, aer cywasgedig
  • llithro, baglu a chwympo
  • anifeiliaid
  • gweithio ar eich pen eich hun

Gweithdrefnau sefydliadol – maent yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
 
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
 
Diogeledd: mae’n gysylltiedig, er enghraifft, â thir, adeiladau, cyfarpar a pheiriannau, stoc, adnoddau, personél a gwybodaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

4

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS2

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithiwr Ystâd, Ffensio, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Cadwraeth Amgylcheddol, Amaeth

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

iechyd; diogelwch; diogeledd; perygl; risg; digwyddiad; damwain