Cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys sut i gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau.
Mae cynnal a chadw ac atgyweirio'n cael ei ddiffinio fel trwsio neu adfer rhywbeth i gyflwr cadarn a diogel.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio strwuthyrau.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol neu wedi eich ardystio yn unol â deddfwriaeth bresennol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud eich gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau ar y gwaith a gynlluniwyd
dewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
- paratoi'r safle a gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- sicrhau bod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio'n digwydd ar adeg briodol
sicrhau bod y gwaith sydd wedi ei gwblhau yn bodloni'r manylebau a'i fod yn addas at y diben
sicrhau nad yw defnyddwyr eraill y safle'n cael eu rhoi mewn perygl gan eich gwaith
adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- ymdrin a chludo deunyddiau a chyfarpar yn unol â'r rheoliadau
- cwblhau cofnodion fel y bo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
- pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
- y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid, ymledol neu wedi eu diogelu, safleoedd dynodedig ac ati
- y peryglon a gyflwynir gan wasanaethau ar y safle a sut i osgoi'r rhain
- y technegau cynnal a chadw sy'n ofynnol ar gyfer cynnal strwythurau
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
- pam y mae'n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio'r strwythur a'r problemau posibl os nad yw hyn yn cael ei wneud
- diben y strwythur a sut mae hyn yn berthnasol i'r manylebau a'r gweithrediadau
- dulliau ar gyfer profi diogelwch, sefydlogrwydd a gwydnwch strwythurau a'u haddasrwydd at y diben
- sut i werthuso'r gwaith sydd wedi ei gwblhau yn erbyn y manylebau
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
- problemau a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus
sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
y cofnodion y mae angen eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Strwythurau: llociau cadw; cuddfannau; sgriniau; siediau; twnelau polythen; pontydd; rhydiau; grisiau.
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau'r cynhyrchwyr.