Adeiladu strwythurau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adeiladu strwythurau. Mae'n addas ar gyfer cyflogeion a gwirfoddolwyr sydd yn gweithio yn y sector tir ac amgylcheddol.
Gallai'r strwythurau fod yn barhaol neu'n rhai dros dro a gallent gynnwys llociau, twneli, pontydd, cuddfannau, biniau, planwyr a sgriniau.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Wrth baratoi ac adeiladu, efallai fydd yn rhaid i chi ymdrin â digwyddiadau annisgwyl fel niwed damweiniol, neu anhawster yn cydymffurfio â'r manylebau.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar yr ardystiad perthnasol yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd
- asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau gyda'r gwaith a gynlluniwyd
- dewis, paratoi a defnyddio offer a pheiriannau, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) lle bo angen, sy'n bodloni'r manylebau y cytunwyd arnynt
- dewis deunyddiau sy'n bodloni'r manylebau
paratoi'r safle cyn adeiladu strwythurau yn unol â'r manylebau
sicrhau bod y gwaith o baratoi'r strwythurau yn cyd-fynd â'r manylebau
- sicrhau bod unrhyw sylfeini sy'n ofynnol ar gyfer y strwythur yn unol â'r manylebau
- adeiladu'r strwythur yn unol â'r manylebau
- gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos a'r amgylchedd
- sicrhau nad yw defnyddwyr eraill y safle yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd eich gwaith
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- sicrhau bod ymddangosiad a chyflwr y strwythur a adeiladwyd yn bodloni'r manylebau
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith o adeiladu'r strwythurau
- gwaredu gwastraff yn ofalus ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- trin a chludo deunyddiau ac offer yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r rheoliadau perthnasol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau'r gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
- y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. safleoedd dynodedig; presenoldeb strwythurau rhestredig; bywyd gwyllt; rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid; ymledol neu wedi eu gwarchod, ac ati
- y gwaith paratoi ar gyfer adeiladu'r strwythurau
- y swyddogaeth y mae'r strwythurau wedi eu dylunio i'w bodloni
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) lle bo'n ofynnol, sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- sut i ddehongli manylebau adeiladu a phwysigrwydd eu dilyn
- dulliau paratoi cywir ar gyfer adeiladu strwythurau gwahanol a sut mae'r rhain yn gysylltiedig ag amseru ac amserlennu
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a'r amgylchedd a sut i leihau hyn
- y gwrthdaro posibl rhwng adeiladu strwythurau a gwarchod a diogelu'r amgylchedd naturiol
- y dulliau o adeiladu'r strwythur a pherthynas hyn â'r defnydd a gynlluniwyd ar ei gyfer
- cyd-destun y strwythur, a'r ffordd y mae hyn yn berthnasol i'r manylebau
- sut i ddefnyddio deunyddiau yn gywir wrth adeiladu strwythurau
- sut i gyfyngu'r risg i ddefnyddwyr eraill y safle wrth adeiladu strwythurau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- y problemau a allai ddigwydd wrth adeiladu a sut dylid ymdrin â hyn
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â'r cyfarwyddiadau, gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl cwblhau'r adeiladu
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
Cwmpas/ystod
A. dehongli’r fanyleb adeiladu mewn perthynas â’r categorïau canlynol:
(i) diogeledd
(ii) ansawdd
(iii) dyluniad
(iv) adeiladu
B. cynnal a chadw’r offer angenrheidiol trwy:
(i) lanhau
(ii) storio
(iii) gwirio ac addasu
C. rheoli’r gwastraff canlynol:
(i) organig
(ii) anorganig
Cwmpas Perfformiad
Strwythurau: pontydd syml, rhydiau, grisiau, llociau cadw anifeiliaid, siediau, polydwnelau, sgriniau, cuddfannau, biniau compost, planwyr pren, gwelyau uchel, amddiffyniadau coed.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr; gofynion cwsmeriaid; polisïau sefydliadol.